Dychwelodd cynhyrchiad poblogaidd Opera Cenedlaethol Cymru o Don Giovanni i Gaerdydd, ddydd Gwener 18 Chwefror, ac rydym yn falch o fod wedi derbyn adolygiadau gwych gan gynulleidfaoedd a'r wasg. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni'n unig, dyma a ddywedodd rhai unigolion oedd yn ein cynulleidfaoedd.
Ambell i Tweet:
Ar Facebook:
'Cefais weld Andrew Kymach yn y rôl. Perfformiad anhygoel gan unigolyn proffesiynol - mae'n wreiddiol o Wcráin, ac roedd ei wraig, ei blant a'i deulu yn y wlad o hyd pan welais ef yn perfformio'
Drwy Email:
'Dyma'r tro cyntaf i mi weld opera ers i mi fod yn yr ysgol, oddeutu 40 mlynedd yn ôl, a chefais fy hudo'n llwyr. Roedd y profiad i gyd yn rhagorol.'
'Mae Don Giovanni WNO yn llawn haeddu mwy na 5 seren!'
'Mae Opera Cenedlaethol Cymru bob amser yn wych'.
'Perfformiad da iawn. Edrych ymlaen at brynu fy nhocynnau nesaf.'
'Perffaith.'
'Cefais weld perfformiad o Don Giovanni neithiwr. Roedd pob elfen o'r perfformiad yn wefreiddiol.'
'Roedd hi'n wych gallu gweld perfformiad byw gan WNO eto.'
'Lleisiau anhygoel a gwisgoedd gwych.'
Rydym yn mynd â'r cynhyrchiad anhygoel hwn o Don Giovanni ar daith berfformio, a byddwn yn galw yn Milton Keynes, Bryste, Plymouth, Birmingham, Llandudno, Lerpwl a Southhampton tan ddydd Gwener 13 Mai. Felly, os yw'r hyn rydych wedi'i ddarllen wedi'ch gwneud chi'n chwilfrydig, dewch i ymuno â ni yn un o'r lleoedd uchod a defnyddiwch #WNOgiovanni i rannu eich barn gyda ni.