Agorodd tŷ opera cyntaf Dresden yn 1667. Ar y pryd yr Opernhaus am Taschenberg oedd un o'r tai opera mwyaf yn Ewrop, gyda seddi i hyd at 2000 o bobl. Cyrhaeddodd prifddinas Teyrnas Sacsoni ei hanterth yn ystod y 18fed ganrif pan godwyd nifer o adeiladau eiconig Dresden, gan gynnwys y Zwinger a'r Frauenkirche, a noddwyd gan Augustus II y Cryf a'i fab Augustus III. Ni chrëwyd cyfoeth ac enwogrwydd ail ddinas fawr Sacsoni, sef Leipzig, gan frenhinoedd ond gan fasnachwyr, cyhoeddwyr, argraffwyr, a cherddorion gan gynnwys Johann Sebastian Bach.
Yn aml yn cael ei galw'n ‘Fflorens ar yr Elbe’, ystyriwyd Dresden fel un o ddinasoedd hyfrytaf y byd, gyda sawl adeilad, palas, amgueddfa a chadeirlan Faróc a Rococo. Anodd yw credu y cafodd y ddinas ei chwalu gan fomio'r Cynghreiriaid yn 1945. Erbyn heddiw mae henebion mawr Dresden wedi'u hailgodi yn ofalus ac mae’r strydoedd coblog yn arwain at bensaernïaeth nodedig y Semperoper.
Yn ganolbwynt i'r Altstadt hanesyddol, agorodd y Semperoper am y tro cyntaf yn 1841, ac fe'i dyluniwyd gan Gottfried Semper. Llosgwyd y theatr i lawr yn 1869 ac fe'i hailgodwyd yn ddiweddarach gan Manfred Semper, sef mab Gottfried. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cwblhawyd yr ail adluniad yn 1985, a dathlwyd ail-agoriad un o dai opera harddaf Ewrop gyda pherfformiad o Der Freischütz gan Carl Maria von Weber. Mae Dresden hefyd yn gartref i un o conservatoires cyntaf yr Almaen. Sefydlwyd yr Hochschule für Musik ‘Carl Maria von Weber’ (Coleg Cerddoriaeth Carl Maria von Weber) yn 1856 gan Friedrich Tröstler, feiolinydd yn y Gerddorfa Frenhinol. Ar ôl newid ei enw sawl gwaith, cafodd ei enwi ar ôl Weber yn 1959.
Treuliodd Wagner bron i draean o'i fywyd yn Dresden. Ar ôl llwyddiant Rienzi, a berfformiwyd gyntaf ar 20 Hydref 1842, enillodd swydd gydol oes fel Kapellmeister Brenhinol y ddinas a chafodd fwynhau cyfres o uchafbwyntiau gyda'i weithiau yn cael eu perfformio yn y Semperoper. Bu iddo chwyldroi'r byd opera, a chwaraeodd rôl yng ngwrthryfel Dresden yn 1849. Pan fethodd y gwrthryfel, cyhoeddwyd gwarant i'w arestio a dihangodd o'r Almaen, yn methu â mynychu perfformiad cyntaf Lohengrin yn Weimar, gan ei gyfaill Franz Liszt ar 28 Awst 1850. Cyfansoddodd Wagner Lohengrin mewn ychydig wythnosau yn unig yn ystod haf 1846 tra'r oedd yn aros mewn tŷ fferm yn Graupa, pentref y tu allan i Dresden. Heddiw, mae Jadgschloss (Caban Hela) y pentref yn cynnwys arddangosfa amlgyfrwng barhaol yn portreadu bywyd a datblygiad artistig Wagner yn Sacsoni.
Magwyd Richard Strauss ar ddiet clasurol llym, ond fe ysbrydolwyd yn fawr ar y cyfansoddwr arloesol, uchelgeisiol a herfeiddiol gan Wagner wrth iddo greu cyfeiriad newydd i gerddoriaeth glasurol yn yr 20fed ganrif. Trefnodd Hans von Bülow, un o fyfyrwyr Liszt, a gŵr cyntaf Cosima Wagner, i Strauss ddod yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth ym Meiningen. Galwodd ef Strauss yn 'Richard y Trydydd' (oherwydd ar ôl Wagner ni ellid cael 'Richard yr Ail', meddai). Cafodd naw o 15 opera Strauss eu perfformio gyntaf yn y Semperoper, gan gynnwys Salome, Elektra a Der Rosenkavalier. Cafodd perfformiad cyntaf Salome yn 1905 38 o len-alwadau. Dywedodd un aelod o'r gynulleidfa: 'nid yw ein tŷ opera wedi gweld cymaint o gynnwrf gydag effaith cyn bwysiced ers gweithiau olaf Wagner.'