Newyddion

Gwisgoedd Ysblennydd - The Magic Flute

22 Chwefror 2019

Agorodd ein cynhyrchiad o The Magic Flute yr wythnos diwethaf, ac mae ei steil nodweddiadol ac unigryw yn rhan fawr o swyn ac apêl y cynhyrchiad hwn. Mae'r opera hon gyda'i lliwiau llachar, ei setiau cymesur, ei thrapddorau a'i syrpreisys yn weledol syfrdanol.

Brenhines y Nos yw un o rannau mwyaf eiconig opera. Mae gan y soprano'r aria hynod adnabyddadwy, Der Hölle Rach, un o'r darnau mwyaf heriol i'w perfformio ac mae hi'n dod â naws o fileindra i'r cynhyrchiad cyfan. Yng nghynhyrchiad WNO, mae'r cymeriad wedi cael gwisgoedd arbennig o ddramatig i bwysleisio ei grym a'i dirgelwch. Mae ei phrif wisg (yn y llun), a ddyluniwyd gan Kevin Pollard, yn sicrhau bod ei phresenoldeb yn cael ei deimlo'n bendant pa bryd bynnag mae hi'n ymddangos. Mae'r wisg mor drwm, mae'n rhaid i ddau wisgwr aros o dan y llwyfan i'w helpu hi allan o'i sgert! Yn ein Taith Gwanwyn Anna Siminska a Samantha Hay sy'n rhannu'r rhan hon. 


Mae Papageno, y daliwr adar, yn gwisgo ysblander o blu oren, coch a melyn, sy'n arddangos ei gymeriad enfawr.  Mae Papagena a fydd yn dod yn gariad i Papageno yn y pendraw, yn ymddangos yn gyntaf mewn cuddwisg blaen, cyn ymddangos ei phlu trawiadol.


Os ydych wedi gweld y cynhyrchiad hwn o'r blaen, neu os ydych wedi edrych trwy'r albwm lluniau byddwch hefyd yn gweld y siwtiau oren unigryw a'r hetiau bowler sy'n cyd-weddu â nhw, sy'n cael eu gwisgo gan nifer o'r Cwmni (29 i gyd), sy'n mynd yn berffaith â'r set a ysbrydolwyd gan Magritte.


Mae ein harwres Pamina, wrth gwrs, yn gwisgo gwisg wen draddodiadol fel pob tywysoges mewn stori dylwyth teg, i gynrychioli ei diniweidrwydd wrth iddi aros am ei harwr mewn siwt Tamino i ddod i'w hachub.

Felly os ydych yn dod i weld un o'r perfformiadau sy'n weddill, tra ydych yn mwynhau cerddoriaeth fendigedig Mozart, edrychwch o'ch cwmpas a mwynhewch y gwisgoedd ysblennydd sydd ar y llwyfan hefyd.