Newyddion

Edward Elgar 1857 – 1934

27 Tachwedd 2020

Cafodd Edward Elgar fywyd cyffredin, cyn dod yn un o gymeriadau nodweddiadol Prydain o safbwynt cerddorol – ar adeg pan oedd Prydain ar ei brig fel Ymerodraeth, a chafodd ei wneud yn farchog yn 1904. Cyfansoddwr Saesnig nodweddiadol oedd Elgar. Roedd yn hoff o feicio, cŵn, yn enwog am ei fwstashis trawiadol, ac yn cael ei ysbrydoli gan y cefn gwlad o'i gwmpas. Roedd hefyd yn cael ei ddylanwadu'n sylweddol gan gyfansoddwyr mawr Ewrop, megis Richard Strauss, Berlioz a Wagner.

Ganwyd Elgar yn 1857 yn Broadheath ger Caerwrangon, ar odre Bryniau Malvern. Roedd ei dad yn organydd yn Eglwys Gatholig St George’s ac yn rhedeg busnes cerddoriaeth a thiwnio pianos, gydag Elgar yn ei gynorthwyo'n fachgen ifanc. Cychwynnodd Elgar chwarae'r ffidil mewn grwpiau siambr, ac mewn dim, dechreuodd weithio fel cerddor llawrydd, athro, arweinydd a chyfansoddwr hunanddysgedig yng Nghaerwrangon. Yn 1889, priododd un o'i ddisgyblion, Alice Roberts, merch yr Uwchfrigadydd Syr Henry Roberts. Dylanwadodd hi'n fawr ar yrfa Elgar fel cyfansoddwr, a'i annog i symud i Lundain. Datblygodd yrfa Elgar yn araf, a theimlodd yn rhwystredig ac isel yn ystod yr 1890au. Ond gydag anogaeth ei wraig a chymorth ei ffrind gorau, August Jaeger, parhaodd Elgar â'i waith. Yn 1889, ac yntau'n 42 oed, cyfansoddodd Enigma Variations, gweithiau mwyaf llewyrchus a llwyddiannus Elgar. Enigma Variations oedd y gweithiau a sefydlodd Elgar fel cyfansoddwr heb ei ail ei genhedlaeth.

Ysbrydolwyd cyfansoddiadau Elgar gan gefn gwlad, a'u dylanwadu gan ei Gatholigiaeth, yn enwedig The Dream of Gerontius (1900). Er nad oedd yn boblogaidd ar y pryd, ystyrir y gwaith hwn yn un o'r enghreifftiau gorau o'r ffurf oratorio. Yn 1901, cyfansoddodd Elgar gyfres o Orymdeithiau, Pomp & Circumstance. Cawsant gymeradwyaeth sylweddol yng Nghyngherddau Promenâd Henry Wood. Comisiynwyd Elgar i drefnu cerddoriaeth ar gyfer Coroniad Edward VII yn seiliedig ar eiriau A C Benton, ac fe addasodd ei Orymdaith gyntaf i greu Land of Hope and Glory. Ar ôl hyn, roedd Elgar yn cael ei adnabod fel cyfansoddwr gwladgarol.

Daeth newid i fyd cerddoriaeth wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf. Cyfansoddwyd pedwar darn siambr gan Elgar, ar gyfer y ffidil, pedwarawd llinynnol, pumawd piano a soddgrwth. Roedd y Concerto i'r Soddgrwth mewn E leiaf yn ddarn galarus, a chafodd ei ystyried fel adlewyrchiad o dristwch personol Elgar yn sgil dinistr y Rhyfel. Dyma ei waith mawr olaf, ac er nad oedd yn boblogaidd ar y pryd, y Concerto i'r Soddgrwth oedd un o'i ddarnau mwyaf nodedig, ar ôl y perfformiad cofiadwy yn Proms 1963, a recordiad EMI 1965 gan Jaqueline du Pré gyda'r LSO, dan arweiniad Syr John Barbirolli.

Ar ôl marwolaeth ei wraig yn 1920, daeth bywyd cerddorol Elgar i ben, a dychwelodd adref i Gaerwrangon. Yn 1924, cafodd Elgar ei wneud yn Feistr Cerddoriaeth y Brenin, ac fe'i ystyrir hyd heddiw fel cyfansoddwyr Prydeinig gorau erioed. Gweithiodd yn Abbey Road Studios, a recordio ei waith yno, gan arwain yr LSO yn aml ar ei ben ei hun, gyda Yehudi Menuhin, cerddor medrus 16 oed yn chwarae ei Goncerto i'r Ffidil yn 1932. Cymaint oedd ei bwysigrwydd i gerddoriaeth glasurol, gosodwyd plac glas yn ei enw yn Abbey Road Studios yn 1993.

Bu farw Syr Edward Elgar ar 23 Chwefror yn 76 oed ac fe'i claddwyd ger ei wraig annwyl Alice yn Little Malvern, yng ngolwg Bryniau Malvern, oedd yn ysbrydolaeth mor fawr ar ei waith.