Newyddion

Cyfoethogi bywydau trwy gerddoriaeth

2 Gorffennaf 2019

Ym mis Mawrth eleni, lansiodd Opera Cenedlaethol Cymru brosiect sy'n pontio'r cenedlaethau wedi'i leoli yn Abertawe ac sy'n canolbwyntio ar ddementia, o'r enw 'Cysur'. Cafodd y prosiect 'Cysur' ei gynllunio yn y lle cyntaf gyda chenhadaeth i gyflwyno dementia yn araf bach i blant ysgolion cynradd i wella eu dealltwriaeth o beth mae'n ei olygu i fyw gyda'r cyflwr a sut gall y gymdeithas gefnogi'r rheiny sy'n byw gyda'r cyflwr yn well. Yn ail, drwy greu'r Côr Cysur mae'n darparu lle i'r rheiny sy'n cael eu heffeithio gan ddementia i ddod ynghyd a mwynhau gyda ffrindiau a theulu trwy ganu cymunedol.  

Dechreuodd y cyfan yn ystafelloedd dosbarth Ysgolion Cynradd St Helen's a Parkland yn Abertawe ble cyflwynodd Claire Williamson a Richard Barnard weithdai ysgrifennu a chyfansoddi i blant rhwng saith a deg mlwydd oed. Nid oeddem am i'r plant ddysgu am ddementia yn unig, ond hefyd roeddem am iddynt allu mynegi'r hyn y maent wedi'i ddysgu a gadael iddynt ddangos eu cefnogaeth a dealltwriaeth i'r rheiny sy'n byw gyda'r cyflwr. Mae dros 100 o blant ysgolion cynradd lleol wedi cymryd rhan yn y prosiect.

I helpu'r rheiny sy'n cymryd rhan yn y prosiect i ddeall dementia, gofynasom i Gydlynydd Cyfeillion Dementia i gynnal gweithdai ymwybyddiaeth dementia i blant ysgol, rhieni a staff addysgu'r ysgolion a oedd yn cymryd rhan.

Ochr yn ochr â'n gwaith yn yr ysgolion, dechreuodd y Côr Cysur eu hymarferion bob nos Fawrth yng Nghanolfan Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys pobl sy'n byw gyda dementia, a'u ffrindiau a'u teuluoedd. Y bwriad wrth wraidd y syniad oedd creu côr hwyliog o bobl â phob gallu canu - roeddem am iddo fod yn brofiad llawen y gallai'r cyfranogwyr edrych ymlaen ato bob wythnos. Bob nos Fawrth bu i Arweinwyr y Côr, Ros Evans a David Fortey, a'r pianydd, Sian Davies, arwain y côr trwy ystod wych o gerddoriaeth boblogaidd yr oedd pawb yn ei hadnabod a'i mwynhau. Dywedodd David Fortey am ei brofiad:

Mae bod yn un o arweinwyr y côr wedi bod yn brofiad hynod hwyliog a gwerth chweil. Rwyf wedi cael cyfle i gyfarfod â phobl hyfryd dros y misoedd diwethaf. 'Uchafbwynt i mi oedd gweld a chlywed yr ymateb gan y cantorion i rai o'r darnau o gerddoriaeth yr ydym wedi'u dewis. Mae momentau arbennig lle mae caneuon penodol wir yn taro tant a gallwch weld y gall teimlad cân sbarduno cysylltiad ystyrlon â rhywun. Credaf mai'r peth pwysicaf yr wyf wedi'i ddysgu o'r prosiect yw nad yw'n bwysig sawl person yr ydych yn dod ynghyd o wahanol gefndiroedd bywyd; mae cerddoriaeth yn offeryn grymus sy'n helpu i gyfoethogi bywyd.

Bydd y Côr Cysur a'r plant o'r ysgolion cynradd yn dod ynghyd ar 4 Gorffennaf i ddathlu eu cyflawniadau a rhannu'r caneuon y maent wedi'u hysgrifennu a'u dysgu ers mis Mawrth. Byddant hefyd yn cael cwmni ensemble o offerynwyr o WNO a dau o gantorion Corws WNO. Mae WNO yn edrych ymlaen at ehangu'r prosiect Cysur yn Abertawe a'i gyflwyno mewn rhagor o ardaloedd yn y dyfodol.


Cefnogir y prosiect Cysur yn Abertawe gan 

Cefnogir gweithgaredd ieuenctid, cymunedol a digidol WNO gan rodd hael gan y Garfield Weston Foundation.