Newyddion

Archwilio'r Sea Interludes

17 Mawrth 2025

Mynd i'r afael â 'Sea Interludes' Britten 

Y 'Sea Interludes' yw rhai o weithiau enwocaf Britten ac maent yn enghreifftiau gwych o adrodd straeon cerddorol dramatig. Mae'r darnau cerddorfaol hyn i'w clywed rhwng y golygfeydd, a chyda'i gilydd maent yn gwneud cyfanswm o un rhan o bump o hyd yr opera. Mae pob un yn cyfleu delwedd trawiadol gwahanol o'r môr, ac maent wedi'u henwi ar ôl y cyflyrau môr amrywiol a gynrychiolir ganddynt - Dawn, Sunday Morning, Moonlight a Storm, ac mae Britten yn mynd ati'n feistrolgar i ddefnyddio'r interliwdiau hyn i gyfleu delweddau o'r môr ac i ragfynegi drama'r olygfa ddilynol, yn ogystal â rhoi awgrymiadau o gyflwr meddyliol Peter Grimes.  

Dawn

Yn Dawn, mae Britten yn cyfleu delwedd o lonyddwch toriad dydd. Y darn hwn yw'r interliwd gyntaf a glywir, ac mae'n cynnwys alawon feiolin esgynnol, adegau o chwythbrennau caboledig a chyfeiliant pres dwfn i gyfleu i'r gwrandawyr ei fod yn ddiwrnod tawel ar y môr, a bod popeth yn ddigynnwrf yn y fwrdeistref wrth i ddiwrnod newydd wawrio. Mae ei defnydd ar ddechrau a diwedd yr opera yn atgoffa'r gynulleidfa, er bod y ddrama a'r bobl yn y pentref yn mynd a dod, bod y môr yn rym digyfnewid sy'n aros am byth.   

Sunday Morning 

Mae'r ail interliwd, Sunday Morning, yn adnabyddadwy yn ôl y clychau eglwys ac alawon byrhoedlog sionc. Mae'r ddelwedd a gyflëir yma gan Britten yn un o dref brysur lle mae popeth yn dda, ond wrth i'r gerddoriaeth ddatblygu'n harmoni mwy anghytsain, mae Britten yn rhoi blas i'r gwrandawyr o'r ffaith nad oes unrhyw beth wedi newid yn yr olygfa sydd i ddod, a bod Grimes yn parhau i gamdrin ei brentisiaid.   

Moonlight

Mae'r alawon llinynnol hir a'r cordiau cynnes yn Moonlight yn cyfleu i'r gynulleidfa ei bod yn noson gynnes o haf yn y pentref, ond yn fuan wedyn mae Britten yn awgrymu bod cryn dipyn o aflonyddwch ar y gorwel yn y Fwrdeistref yn ystod yr olygfa nesaf. Mae'n dangos hyn drwy gyflwyno, mewn ffordd gynnil, mwy o anghyseinedd yn y cordiau ac ychwanegu hyrddiadau siarp o ffliwt i'r llinynnau cynnes. Mae'r nodweddion hyn yn Moonlight yn cyfleu'r ansefydlogrwydd yng nghyflwr meddyliol Grimes, a bod gronynnau o amheuaeth yn dechrau treiddio i mewn.   

Storm

Yn Storm, sef y fwyaf dramatig o'r pedair interliwd, mae storm yn cyrraedd y môr, ac mae grym y glaw, y gwynt a'r tonau sy'n disgyn ar y pentref yn Suffolk yn cael ei gyfleu gan yr offerynnau taro dwndrus a'r offerynnau pres byddarol, yn ogystal â'r alawon cyflym a'r harmonïau cryf. Nid oes unrhyw gynildeb yn y ddelwedd o aflonyddwch a bortreadir gan Britten y tro hwn, a gall y gwrandawyr glywed y Fwrdeistref yn mynd i anhrefn. Mae ansefydlogrwydd Grimes yn amlwg, gyda'r darn yn cyfleu ei frwydr feddyliol rhwng ei awydd i briodi Ellen a'i bryderon ynghylch y mân-siarad yn y Fwrdeistref.  

Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau mynd i'r afael â Sea Interludes Britten gyda ni. Bydd ein Cerddorfa WNO yn dod â'r interliwdiau'n fyw fel rhan o gynhyrchiad newydd sbon WNO o Peter Grimes yn ein Tymor y Gwanwyn 2025, sy'n agor yng Nghaerdydd ar 5 Ebrill cyn mynd ar daith tan 7 Mehefin 2025.