Newyddion

Pobl enwog sydd â chysylltiad â'r byd opera

22 Mai 2024

Bydd y seren bop Taylor Swift yn ymddangos ar lwyfan Stadiwm y Principality Caerdydd fel rhan o'i Thaith Fyd-Eang Eras lle bydd yn perfformio caneuon o'i halbymau, sydd wedi’u cyhoeddi dros gyfnod o 18 mlynedd, a hynny mewn un sioe anhygoel dair awr a hanner. Mae un o'i chaneuon o'i rhestr berfformio, Marjorie, yn sôn am ei pherthynas gyda'i diweddar fam-gu oedd yn gantores opera, ac mewn un man yn ystod y gân mae Swift yn canu 'deuawd' gyda hi wrth i recordiad o'i llais gael ei ddefnyddio fel llais cefndirol. Roedd Marjorie Finlay, mam-gu Swift ar ochr ei mam, yn soprano goloratwra a pherfformiodd mewn operâu yn Puerto Rico yn y 1950au, cyn ail-leoli i Singapôr yn y '60au lle perfformiodd, yn fwyaf nodedig, y brif ran yn The Bartered Bride Smetana. 

Nid Taylor Swift yw'r unig seleb gydag opera yn ei gwaed; beth am gymryd golwg ar ychydig o sêr eraill sydd yn fwy clasurol nag a feddyliech chi. 

Mae’r Pussycat Doll ac Enillydd Gwobr Olivier Nicole Scherzinger wedi datgan ar goedd ei bod yn ‘gantores opera wedi'i hyfforddi'n glasurol’; astudiodd theatr gerdd yn y coleg ac yn anhygoel mae ei llais yn cwmpasu pedair wythfed. Mae Scherzinger wedi arddangos ei hystod lleisiol fel Christine ochr yn ochr â The Four Phantoms ym Mherfformiad y Royal Variety a chydag Andrea Bocelli ar gyfer datganiad hyfryd o ‘Don’t Cry for Me Argentina’ fel rhan o ‘Bocelli Cinema’. 

Yn 2018, fe wnaeth y seren bop Jason Derulo drydar am ei gefndir mewn canu clasurol gan ddatgan iddo gael ei 'hyfforddi'n glasurol (operatig)' ynghyd â chlip fideo ohono yn perfformio 'Time to Say Goodbye', cân gafodd ei samplu ganddo ar gyfer ei sengl lwyddiannus Goodbye gyda David Guetta. Perfformiodd y gân yn ogystal ynnigwyddiad Jingle Bell Ball Capital yn 2018 ac mae wedi perfformio fersiynau operatig o ganeuon pop tra'n ymddangos fel gwestai ar raglenni sgwrsio. 

Er nad yw'n ganwr, mae gan yr actor a'r digrifwr Paul Whitehouse opera yn ei waed o hyd, gyda chysylltiadau clasurol cryf yn agos at ei gartref. Mae gan Whitehouse gysylltiadau gydag Opera Cenedlaethol Cymru gan fod ei fam, Anita, yn arfer bod yn Brif Soprano gyda'r Cwmni, ac fe chwaraeodd y brif ran yn La traviata ac Aida. Trafododd Whitehouse yrfa ei fam gyda'i gydweithiwr hirdymor, Bob Mortimer, ar y rhagen Gone Fishing Christmas Special yn 2020 lle rhoddodd Mortimer anrheg i Paul o recordiad finyl brand WNO o'i fam yn canu. 

Mae'r etifeddes gwestai Paris Hilton wedi troi ei llaw at bopeth o bersawr i droelli disgiau, a hyd yn oed wedi serennu yn yr opera roc Gothig Americanaidd Repo! The Genetic Opera yn 2008. Yn seiliedig ar opera 2002 o'r un enw, chwaraeodd Hilton ran Amber Sweet, egin berfformiwr opera sy'n gaeth i lawdriniaeth gosmetig. 

Yn ôl ei bywgraffiad IMDB, roedd golau perfformio cynnar Meryl Streep yn canolbwyntio ar opera yn hytrach na theatr neu ffilm. Yn amlwg, fe wnaeth y newid o opera i ffilm weithio'n dda iddi, ac mae'r actores sydd wedi ennill Gwobr Academi dair gwaith hyd yn oed wedi dychwelyd i'w gwreiddiau clasurol, er mai ar ffurf cantores opera wael oedd hynny, yn 2016, yn y ffilm fywgraffyddol Florence Foster Jenkins, am etifeddes o Efrog Newydd oedd yn enwog am ei haelioni a'i chanu gwael.  

Rhoddodd y gantores-gyfansoddwraig Bebe Rexha bostiad 'Ffaith ddiddorol' ar Instagram yn egluro ei bod ‘eisiau bod yn gantores opera [ac] wedi astudio cerddoriaeth glasurol’, ynghyd â fideo ohoni'n canu O mio babbino caro, o Gianni Schicchi Puccini, y byddwn yn ei pherfformio fel rhan o Il trittico yr haf hwn, ac ynghyd â Suor Angelica ar daith yn yr Hydref.