Newyddion

Ffydd, Ffawd a Theulu: dod o hyd i ddylanwadau Frank Martin

4 Medi 2020

Mae'n rhaid i artistiaid gael eu meddiannu gan yr awen ac nid yw cyfansoddwyr yn wahanol. Caiff cerddoriaeth Bach ei rhestru bob tro fel un o'r dylanwadau cyntaf a'r prif ddylanwad ar y cyfansoddwr, y diweddar Frank Martin, ond yma mae Opera Cenedlaethol Cymru yn codi cwr y llen ar beth arall oedd yn mynd â bryd y meistr hwn. Rydym wedi darllen llyfrau yn seiliedig arno, wedi gwrando ar gyfweliadau, wedi gwrando ar gyfweliad gyda'i wraig hyd yn oed, a phori drwy ei ôl-gatalog helaeth i weld pwy oedd y dyn sy'n gyfrifol am y gerddoriaeth.

Ac yntau yr ieuengaf o 10 o blant, a cherddoriaeth eisoes yn ei waed, nid yw'n syndod yr oedd ganddo ddoniau cerddorol a'i fod wedi cael llwyddiant o'r fath. Cafodd ei holl frodyr a'i chwiorydd eu hannog i chwarae offerynnau neu ganu, a'i daid oedd trysorydd y Geneva Convservatoire ac yn Ail Fasŵn i Gerddorfa Geneva. Astudiodd Martin Ffiseg a Mathemateg gan nad oedd cerddoriaeth yn cael ei hystyried fel trywydd gyrfa gan ei rieni; serch hynny, ni raddiodd fyth, ac yn hytrach, dewisodd gyfansoddi - dyna lwc!

Wedi'i fagu fel Protestant, mae'n debyg y bydd yn syndod i chi bod ei ddarnau cynharaf ar gyfer Offerennau lleisiol yn seiliedig ar destunau Catholig a oedd yn wahanol iawn i'w fagwraeth draddodiadol. Bu'n gweithio ar un darn penodol am amser maith, a'i gwblhau 40 mlynedd yn ddiweddarach, gan alw'r cyfansoddiad yn 'garwriaeth rhwng Duw a minnau.' Teimlodd fod unrhyw gerddoriaeth sanctaidd, nid yn unig cerddoriaeth Gatholig, 'yn annog y gwrandäwr i gredu yn rhywbeth y tu hwnt iddo ef'. Gallwch weld bod ei berthynas ei hun gyda chrefydd yn un fwy personol ac roedd ganddo ddiddordeb mewn ffydd fel rhywbeth unigol, preifat yn hytrach na syniad cyffredin, 'dylai teimladau crefyddol aros yn gyfrinach a pheidio â bod yn rhan o farn gyhoeddus.'

Yn ogystal, gallai fod wedi dwyn ysbrydoliaeth o'i deithiau ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymwelodd â nifer o lefydd, megis y Dwyrain Pell a'r Iwerddon, a gyfrannodd yn y pendraw at ei ddiddordeb mewn pynciau mor eang ac amrywiol ag Indiaidd, Bwlgaraidd, cerddoriaeth hynafol a cherddoriaeth werin yr Iwerddon. Yn ychwanegol at hynny, parhaodd â'i astudiaethau yn ninasoedd Ewrop, megis Zurich, Rhufain a Pharis. Cafodd ei ddiddordeb mewn rhythm ddylanwad sylweddol arno, a dywedodd: 'mae rhythm yn elfen o gyswllt rhwng ein henaid a'n corff.'

Roedd y thema marwolaeth yn ddylanwad mawr ar ei waith, felly dichon mai addas y bu farw ar yr union ddiwrnod y dywedodd wrth ei gyfeillion y byddai'n cwblhau ei ddarn olaf o waith.

I weld yr holl ddylanwadau rhyfeddol hyn ac i edmygu sgôr Martin, gwyliwch ein cynhyrchiad byr, siarp o Le Vin herbé i werthfawrogi'r meistr yn aeddfedu.