Newyddion

Pum llyfr annisgwyl sydd wedi troi’n Operâu

11 Gorffennaf 2025

Beth sydd am lyfr da sy'n cipio'n dychymyg? O lwynogod craff a chyfeillgarwch tyngedfennol i longau morfilod a chyfundrefnau distopaidd, mae rhai o'r straeon mwyaf annisgwyl wedi neidio o'r dudalen i lwyfan yr opera. Dyma ychydig o glasurol llenyddol sydd, yn erbyn pob disgwyl, wedi taro'r nodau cywir. 

Candide

Addaswyd nofel fer afaelgar Voltaire o 1759, Candide, yn operetta ddychanol gan Leonard Bernstein. Mae’r stori’n dilyn dyn ifanc diniwed, Candide, y mae ei diwtor, Dr Pangloss, yn ei addysgu eu bod yn byw yn y ‘gorau o bob byd posibl’. Ar ôl cael ei alltudio o’i gartref, mae Candide yn mynd ar daith fyd-eang ddi-drefn, gan oroesi rhyfel, llongddrylliad ac erledigaeth grefyddol, gan ddod i’r casgliad yn y pen draw (fel y gweddill ohonom) nad yw’r byd mor arbennig â’r disgwyl. Ond cyn belled â’n bod yn trin ein gardd ein hunain ac yn ‘gwneud y gorau gyda’r wybodaeth sydd gennym’ (fel a genir yn ingol yn Make Our Garden Grow), gallwn wneud y gorau o fywyd.  

Er nad oedd y cynhyrchiad gwreiddiol yn llwyddiant dros nos, drwy ryddhau albwm y cast, yr ail-weithiau niferus a thrac sain cofiadwy Bernstein, gwnaed Candide yn glasur cwlt yn y pen draw, sy’n boblogaidd iawn ymhlith ei gynulleidfaoedd hyd heddiw.

Fantastic Mr Fox 

Yn seiliedig ar lyfr 1970 Roald Dahl i blant, mae'r opera’n adrodd stori Mr Fox, lleidr clyfar sy’n ymosod ar ffermydd tri ffermwr creulon, Boggis, Bunce a Bean (wedi’u dewis fel bas, tenor a bariton, yn addas iawn) i fwydo ei deulu, ac wrth i’r ffermwyr geisio ei ddal, mae Mr Fox yn sicrhau help ei gymdogion anifeiliaid ac yn creu gwledd dan ddaear fawreddog. Wedi’i chomisiynu gan ystâd Dahl, ac wedi’i chyfansoddi gan Tobias Picker, perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn Los Angeles Opera ac mae hi wedi cael ei pherfformio mewn sawl fformat ers hynny, gan gynnwys fersiynau awyr agored a siambr, ac enillodd yr opera Grammy hyd yn oed yn 2020.

1984 

Comisiynwyd yr addasiad hwn o glasur dystopaidd Orwell gan y Bavarian State Opera ac fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf yn Nhŷ Opera Brenhinol Llundain. Mae’r plot, yn debyg i'r llyfr, yn dilyn Winston Smith, gweithiwr Gweinyddiaeth y Gwir, sy’n gwrthryfela’n gyfrinachol yn erbyn cyfundrefn dotalitaraidd y Brawd Mawr (Big Brother). Mae’n dilyn rhamant waharddedig ac yn ceisio dianc rhag rheolaeth yr ystâd, dim ond i gael ei fradychu a’i ail-raglennu. Mae’r opera’n cadw gweledigaeth ddigalon Orwell ac mae’n nodedig am wrth-droi rhai o’r normau operatig mwy arferol (fel castio Winston fel bariton a’r gwrthwynebydd O’Brien fel tenor).

Of Mice and Men 

Teitl sydd ychydig yn rhy gyfarwydd i fyfyrwyr TGAU ein cenedl. Addaswyd nofel fer Steinbeck o gyfnod y Dirwasgiad Mawr yn Opera Amercianaidd gan y cyfansoddwr Carlisle Floyd. Mae’r stori’n canolbwyntio ar George a Lennie, dau weithiwr sydd wedi ymfudo ac sy’n chwilio am sefydlogrwydd. Mae Lennie, sy’n byw gydag anabledd datblygiad, yn achosi helynt yn anfwriadol lle bynnag yr ânt, sy’n arwain at ddiweddglo trasig yn y pen draw. Mae'r opera’n adlewyrchu plot a thôn y llyfr yn agos, gan ddefnyddio cerddoriaeth sy’n deillio o draddodiadau gwerin a’r blŵs. Wedi’i pherfformio am y tro cyntaf yn Seattle Opera, mae'n un o’r operâu Americanaidd cyfoes sydd wedi’i pherfformio fwyaf.

Moby Dick  

Wedi’i chomisiynu yn 2005 gan Dallas Opera, addaswyd clasur opera forwrol epig Melville yn opera ar raddfa fawr gan Jack Heggie. Wedi’i gosod ar fwrdd y llong hela morfilod Pequod, mae'r opera’n dilyn stori helfa obsesiynol Capten Ahab am y morfil gwyn a wnaeth ei glwyfo. Mae’r naratif i’w weld yn rhannol drwy lygaid Ishmael, yr unig oroeswr. Mae addasiad Heggie’n defnyddio offeryniaeth ysgubol a llwyfannu morwrol anhygoel. Mae Ahab wedi’i ddewis fel tenor dramatig ac mae’r opera’n cyfleu brwydrau metaffisegol a ffisegol yn y môr. Fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf yn Dallas ac ers hynny, cafodd ei llwyfannu ledled y byd.

Wedi’ch ysbrydoli?  

Profwch y gorau o bob byd posibl yn ein cynhyrchiad o Candide sydd ar y gweill, dewch i’w weld yn fyw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, 17-21 Medi cyn mynd ar daith i Southampton, Llandudno a Bryste.