Newyddion

Pedwar Budd Iechyd Gwrando ar Gerddoriaeth Glasurol

28 Rhagfyr 2018

Mae’n bosibl credu bod cerddoriaeth glasurol yn llesol i’r enaid, ond a yw’n llesol i’n hiechyd? Dengys astudiaethau bod nifer o oblygiadau cadarnhaol o ran iechyd i wrando ar gerddoriaeth glasurol. Rydym wedi creu rhestr ohonynt i chi ei rhannu ac i’ch helpu i gyfiawnhau faint o arian ac amser yr ydych yn ei neilltuo ar gyfer mynychu cyngherddau cerddorfaol ac operâu.

Gall leihau pwysedd gwaed

Canfu astudiaeth gan Brifysgol Rhydychen bod cyfranogwyr a oedd wedi gwrando ar gerddoriaeth glasurol â lefelau pwysedd gwaed llawer is na chyfranogwyr nad oeddent wedi clywed unrhyw gerddoriaeth. Yn ôl pob tebyg, roedd gwrando ar gerddoriaeth gan Mozart a Strauss am 25 munud yn lleihau pwysedd gwaed y cyfranogwyr yn sylweddol. Awgryma ymchwilwyr, er mwyn i gerddoriaeth leihau pwysedd gwaed ni ddylai gynnwys geiriau, ni ddylai gynnwys llawer o newidiadau mewn sain neu rythm, dylai gael harmonïau ‘nad ydynt yn cyffroi, a dylai bod rhannau penodol o’r gerddoriaeth yn cael ei hailadrodd bob hyn a hyn.

ffynhonnell wybodaeth 

Mae’n lleddfwr poen naturiol

Wrth wrando ar gerddoriaeth gallwn ymgolli’n llwyr yn yr alaw. Ond canfu astudiaeth yn 2006 fod grwpiau o bobl sy’n dioddef o boen cronig yn teimlo llai o boen ar ôl gwrando ar gerddoriaeth glasurol o’i gymharu â’r rhai hynny nad ydynt yn gwrando ar gerddoriaeth o’r fath. Awgryma ymchwilwyr fod cerddoriaeth yn grymuso cleifion sy’n gwella o lawdriniaeth ac maent hyd yn oed yn annog nyrsys i’w defnyddio fel arf adfer; mae tystiolaeth yn profi y gall cerddoriaeth gael effaith ar ganolfan wobrwyo’r ymennydd sy’n helpu i leihau poen.

ffynhonnell wybodaeth

Mae’n lleihau lefelau straen

Mae’n anodd cadw lefelau straen yn isel yn yr oes sydd ohoni a thra bo rhai yn troi at ioga mae eraill yn troi at gerddoriaeth ac wedi llwyddo i leihau eu lefelau straen drwy wrando ar fymryn o Tchaikovsky. Dywed gwyddonwyr y gall cerddoriaeth glasurol helpu i leihau straen drwy ostwng lefelau cortisol yn y corff. Mewn un astudiaeth, adroddodd merched beichiog fod gwrando ar gerddoriaeth glasurol unwaith yr wythnos wedi lleihau eu lefelau straen a phryder. Yn ogystal â bod yn llesol i famau beichiog, canfuwyd bod hyn hefyd yn llesol i gleifion ysbyty a brofodd leihad mewn pryder cyn ac ar ôl llawdriniaeth.

ffynhonnell wybodaeth

Mae’n helpu i wella’ch cwsg 

Anghofiwch am synau morfil, ac yn hytrach er mwyn hwylio i gysgu gwrandewch ar gerddoriaeth glasurol. Os ydych yn gwrando ar eich hoff ddarn tua 45 munud cyn mynd i’ch gwely, gall helpu i wella ansawdd eich cwsg. Mae sawl astudiaeth wedi profi bod tempo’r gerddoriaeth yn bwysig a’r rhythm delfrydol ar gyfer paratoi i gael cwsg da yw oddeutu 60 curiad y munud. Felly byddem yn osgoi Flight of the Bumblebee, Rimsky Koraskov pe baem yn eich sefyllfa chi ac yn dewis Preliwd Rhif 1, Bach yn hytrach. 

ffynhonnell wybodaeth