Llun trwy garedigrwydd Getty images
Mae gan y band Queen berthynas hir a hyfryd gydag opera, o'u gwisgoedd theatraidd dros ben, i'w setiau byw dramatig a fideos cerddoriaeth anarferol. Fodd bynnag, mae cymaint mwy yn cysylltu'r ddau na'r pethau gweladwy. O'r amlwg, megis enw eu halbwm, A Night at the Opera, a fu'n gyfrifol am enwogrwydd cynyddol y band, i'r arlliwiau operatig yn Bohemian Rhapsody, a dreuliodd naw wythnos ar frig y siartiau. Yn ogystal â bod yn boblogaidd ar y pryd, cafodd ei henwi fel y 4edd gân a gafodd ei dewis amlaf gan Desert Island Discs, sy'n profi ei hatyniad bythol. Wrth i Opera Cenedlaethol Cymru archwilio llawenydd Pride, rydym yn edrych ar ddylanwad parhaol Queen, a'u dyn blaen bythgofiadwy.
Bu i'r dyn blaen bythgofiadwy hwn, Freddie Mercury, ddod yn un o gefnogwyr mwyaf opera, ar ôl cwrdd â Montserrat Caballé, a dod yn ffrind a phartner artistig iddi. Cafodd ei gyfareddu am y tro cyntaf wrth ei gwylio yn Llundain, yn y Tŷ Opera Brenhinol, ac yna, bu iddo ei gwahodd yn ôl i'w gartref wedi'r perfformiad, lle bu pawb yn canu o gwmpas y piano. Bu iddynt recordio Barcelona gyda'i gilydd, ac yn ôl y rhai hynny a oedd yn yr ystafell ar y pryd, roedd Freddie yn agos at ddagrau, ac yn llefain 'Edrychwch, mae gen i'r llais gorau yn y byd yn canu fy ngherddoriaeth.' Roedd cerddoriaeth glasurol, yn enwedig opera, o ddiddordeb mawr iddo yn ystod ei flynyddoedd olaf, a bu i Monsterrat siarad am gynlluniau'r ddau i wneud albwm clasurol cyfan gyda'i gilydd.
Ond nid Freddie yn unig a gafodd ei ddylanwadu gan opera, yn wir, bu i'r band cyfan groesawu'r gwisgoedd a'r cymeriadau a wnânt yn hynod operatig ar y llwyfan. Dywedodd Sue Lawley yn ei chyfweliad gyda Brian May ar ei Desert Island Discs, 'rydych yn creu cerddorfa a chwmni opera cyfan gyda dim ond y pedwar ohonoch chi.' Yn enwedig wrth recordio Bohemian Rhapsody, a oedd yn 'fer am opera, hir am gân bop' yn ôl Brian May. Yn hwyrach yn eu gyrfaoedd, roedd ganddynt gerddorfa gyfan y tu ôl iddynt wrth recordio caneuon megis Who Wants to Live Forever. Roedd y fideo cerddoriaeth yn cynnwys y National Philharmonic Orchestra, gyda phedwar deg o gôr-fechgyn a channoedd o ganhwyllau, a fyddai'n gweddu ar lwyfan WNO.
Ond peidiwch â chymryd ein gair ni'n unig, gadewch i Dave Doidge, Meistr ein Corws, egluro pam mae Queen ac WNO yn gyfuniad perffaith:
Nid yw'n gyfrinach bod nifer o ganeuon mwyaf poblogaidd Queen yn cynnwys elfennau operatig (Bohemian Rhapsody yn un enghraifft), felly pan roeddwn yn dewis cân i ddoniau WNO ei pherfformio ochr yn ochr â Luke Evans, roeddwn eisiau gwneud rhywbeth a fyddai'n cynrychioli WNO ar ei orau, ac yn cynnal y neges o amrywiaeth, cynwysoldeb, a dod â llawer o bobl ynghyd wedi blwyddyn heriol o fod ar wahân ac yn ynysig. Mae 'Pride' yn cynrychioli nifer o bethau, gyda'r brif neges yn cynrychioli 'cariad', ac rydym eisiau rhannu hynny gyda phawb sy'n agos atom ni - ac er bod Covid 19 wedi chwalu'r cyfle i ni ddathlu mewn torf, yma yn WNO, ni fyddwn yn methu'r cyfle i ledaenu'r neges o gariad ym mhell ac agos! Cadwch yn saff, cofion a Pride Hapus
Gyda hynny yn y cof, gwyliwch ein fideo yn dathlu Pride yn y ddinas yr ydym yn ei galw'n gartref, opera a Freddie wrth gwrs. Yn ystod ei flynyddoedd olaf, dywedodd wrth Peter Freestone, ei gynorthwyydd personol a chyfaill gydol oes, 'Gallwch wneud yr hyn a fynnwch gyda fy ngherddoriaeth...ond peidiwch â fy ngwneud i'n ddiflas.' Gobeithiwn ein bod wedi'i blesio yn WNO.