Yn Opera Cenedlaethol Cymru, rydym wedi bod yn croesawu ysbryd cariad wrth i ni baratoi ar gyfer Dydd San Ffolant. Does dim ffordd well o brofi crynhoad o emosiwn dynol na thrwy aria brydferth. O’r chwerwfelys i'r trasig llwyr, rydym wedi llunio ein rhestr o’r pum cân opera mwyaf rhamantus.
Cariad ar yr olwg gyntaf: Che geliada manina (Am law fach wedi’i rhewi) o La bohème
Noswyl Nadolig, yr Ardal Ladin, Paris. Mae bardd o’r enw Radolfo sy’n mynd drwy amser caled yn treulio’r noson (unwaith eto) ar ei ben ei hun. Mae’n clywed cnoc anochel ar y drws; ar yr ochr arall, mae ei gymdoges, Mimi, yn chwilio’n wyllt am gannwyll i ddychwelyd i’w hystafell. Yn sydyn, mae’r cyfarfyddiad tyngedfennol yn cymryd tro; mae Mimi yn colli ei hallwedd, ac wrth i olau’r gannwyll ddechrau crynu, mae’r chwilio’n cychwyn. Yng nghanol y cythrwfl, mae Rodolfo yn llwyddo i ddod o hyd i’r allwedd ond yn penderfynu ei guddio. Wrth iddo estyn allan yn y tywyllwch, mae’n cyffwrdd ei llaw, Am law oer sydd gen ti; gad i mi ei chynhesu i ti. Mewn arddull sy'n nodweddiadol o'r byd operatig, byddai hyn yn troi i fod yn un o ariâu mwyaf eiconig Puccini, Che geliada manina. Cân deimladwy sy’n crynhoi'r ymdeimlad gwefreiddiol o gariad ar yr olwg gyntaf.
Cariad digydnabod: The Flower Song o Carmen
Fel y mwyafrif ar Ddydd San Ffolant - mae’n debygol nad yw eich cariad o'r ddwy ochr. Peidiwch â phoeni; nid chi yw’r unig Casanova aflwyddiannus. Ymunwch â Don José, milwr diniwed sy’n syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â Carmen, y ferch gyfareddol. Yn ei ymdrechion lu i swyno Carmen, mae Don José yn canu’r aria enwog, The Flower Song, lle mae Don José yn dychwelyd y blodyn a daflodd Carmen ato yn yr act gyntaf. Am hyfryd. A hithau'n gân eithriadol o angerddol am gariad anghyraeddadwy, bu'n rhaid ei chynnwys ar yn ein rhestr.
Y cariad trasig: And the stars were shining o Tosca
Gan symud ymlaen o'r digydnabod i'r cwbl ddramatig. Mae E lucevan le stelle neu And the Stars Were Shining yn Opera o’r radd flaenaf. Mae Mario Cavaradossi, arlunydd sydd mewn cariad â'r gantores Tosca, yn canu ei aria dorcalonnus wrth aros i gael ei ddienyddio ar do Castel Sant’Angelo.
Gan ymrafael â'i farwoldeb ei hun a’i gariad tuag at Tosca, mae’r aria dorcalonnus hon yn cyfleu ymroddiad Mario i Tosca ac mae’n un o’r adegau mwyaf eiconig ym myd Opera.
Longing: Un bel dì from Madam Butterfly
Un bel di (One Fine Day) is a tragic aria which perfectly encapsulates the feeling of a longing for love. Cio-Cio San (Butterfly) awaits her long-absent husband, Pinkerton, to return to Japan. Her maid, Suzuki, however, is doubtful. In her effort to convince her maid, Butterfly sings a lyrically rich and extremely poignant aria about Pinkerton’s eventual return on a fleet of white ships.