Rydym ni yn WNO wedi bod yn ymchwilio i fywydau rhai o’r cyfansoddwyr mwyaf adnabyddus ac wedi crynhoi rhai ffeithiau diddorol, rhyfedd a rhyfeddol ynghylch eu bywydau.
Blodeuwr cerddorol hwyr
Yn rhyfeddol, dangosodd y cyfansoddwr mawr o weithiau megis The Ring Cycle, Richard Wagner, ychydig iawn o ddawn neu frwdfrydedd tuag at gerddoriaeth fel plentyn. Oherwydd ei ddiffyg diddordeb, ef oedd yr unig un o blith ei frodyr a chwiorydd i beidio cael gwersi piano. Parhaodd hyn nes iddo droi yn 13 oed pan ysgrifennodd ddrama gan fynnu bod angen ei gosod i gerddoriaeth. O ganlyniad, dechreuodd ddysgu ac mae’r gweddill yn hanes cerddorol.
Melltith y Meddyg
Yn ogystal â rhannu’r un flwyddyn geni a’i gilydd, roedd Johann Sebastian Bach a George Frideric Handel yn rhannu’r un llawfeddyg llygadol, John Taylor. Yn anffodus iddynt hwy, siarlatan oedd Taylor a gadawyd y ddau gyfansoddwr yn ddall ar ôl llawdriniaeth i achub eu golwg.

Swyndlysau
Cred rhai bod pedol ceffyl neu hyd yn oed deilen gynifer yn lwcus, ond roedd gan Edvard Grieg swyndlws diddorol. Byddai’n cadw model bach o lyffant yn ei boced trwy gydol yr amser a byddai’n ei rwbio cyn bob cyngerdd i gael lwc dda.
Cymhelliant Mozart
Ceir rhai pobl sy’n gweithio yn erbyn y cloc ac o fewn terfynau amser, ac yna ceir Mozart a ysgrifennodd agorawd Don Giovanni ar fore’r sioe agoriadol. Nid yn unig hynny, ond ysgrifennodd y cwbl wrth iddo ddioddef o ben mawr difrifol.

Pencampwr y Nodau
Gyda dros 40 o operâu i’w enw a sawl gwaith offerynnol a cherddorfaol, credir bod Handel wedi cyfansoddi mwy o nodau cerddorol nag unrhyw gyfansoddwr arall erioed.
Cadw pen…
Roedd y cyfansoddwr Rwsiaidd, Tchaikovsky, yn dioddef o hypocondria difrifol, cymaint felly nes y byddai wastad yn dal ei ên gydag un llaw wrth arwain. Ei resymeg dros wneud hynny oedd petai’n gollwng ei afael arni, byddai ei ben yn disgyn i ffwrdd.
