Ganwyd Gaetano Donizetti yn Bergamo yng ngogledd rhanbarth Lombardi yn yr Eidal i deulu tlawd heb addysg ffurfiol na thraddodiad cerddorol. O ystyried hyn, mae ei lwyddiannau fel un o gyfansoddwyr opera mwyaf poblogaidd yr Eidal yn llawer mwy sylweddol. Yr hyn a ffynnodd botensial Donizetti yn fachgen ifanc oedd Johannes Simon Mayr, gŵr dylanwadol a sefydlodd ysgol gerddoriaeth am ddim yn 1806. Donizetti oedd un o'r ysgolheigion cyntaf yn ysgol Mayr, a bu yno tan yn 16 oed. Bu i Mayr ddisgrifio Donizetti fel 'myfyriwr brwdfrydig iawn... yn cael ei ddwrdio ond eto'n ennill gwobrau!' ac roedd yn credu ei fod yn dalentog iawn.
Roedd Mayr yn annog Donizetti i ymestyn ei addysg gerddorol yn Bologna, ac yno y cychwynnodd gyfansoddi operâu. Yn ogystal, bu i Mayr gyflwyno Donizetti i'r impresario Zancla yn hwyr yn 1817, a chyfansoddodd ei bedair opera 'prentis' iddo.
Cychwynnodd yrfa Donizetti go iawn yn Rhufain, yn dilyn llwyddiant ei opera gyntaf Zoraida di Granata (Teatro Argentina, Ionawr 1822) - canlyniad cyflwyniad arall gan Mayr. Bu i Donizetti ddenu sylw Barbia, yr impresario opera enwog, a chafodd ei wahodd i Naples, a'i gomisiynu i gyfansoddi dwy neu dair opera bob blwyddyn, ac arwain gwaith cyfansoddwyr eraill. Mae llawer yn ystyried ei gyfnod yn Naples fel cyfnod 'Rossiniaidd' Donizetti. Nid oedd hyn yn syndod, gan fod Rossini wedi gadael Naples ychydig cyn i Donizetti gyrraedd, ac roedd ei ddylanwad fel cyfansoddwr opera mwyaf poblogaidd yr Eidal ar y cyfnod yn affwys.
Yn 1828, bu i Donizetti gyfarfod a phriodi Virginia Vasselli, merch cyfreithiwr Rhufeinig. Yn anffodus, bu i'w plant farw yn fabanod. Bu farw Virginia yn ystod epidemig colera yn 1837, a chafodd Donizetti ei lethu gan alar. Does dim amheuaeth y bu i'w brofedigaeth feithrin elfen fwy prudd yn llawer o gerddoriaeth ei flynyddoedd olaf.
Y trobwynt i yrfa Donizetti oedd llwyddiant Anna Bolena (1830), a gafodd ei pherfformio yn Llundain a Pharis. Parhaodd y llwyddiant gyda L’elisir d’amore (1832) a Maria Stuarda (1835). Yn 1835, gwahoddodd Rossini, Donizetti i Baris, lle cafodd ei gyflwyno i arddull opera grand opéra Meyerbeer. Roedd Donizetti wedi ei blesio gan y safonau cerddorol a theatraidd rhagorol ym Mharis, a'r gydnabyddiaeth well a roddwyd i gyfansoddwyr! Dychwelodd i Naples i gyflwyno Lucia di Lammermoor (Medi 1835). Roedd yn llwyddiant ysgubol, a bellach fe ystyrir yn elfen greiddiol o Ramantiaeth Eidalaidd. Addasodd Donizetti y sgôr ar gyfer fersiwn Ffrengig a derbyn llwyddiant rhyngwladol sylweddol. Yn dilyn Lucia, cafodd rhagoriaeth Donizetti ei sefydlu'n amlwg ymhlith ei gyfoeswyr.
Yn 1842, cafodd noson agoriadol Linda di Chamounix a'i waith fel arweinydd Stabat Mater gan Rossini ei gymeradwyo'n fawr, ond bu i berfformiad cyntaf Don Pasquale yn 1843 yn Théâtre-Italien ym Mharis ddod yn llwyddiant dros nos, a'i ystyried yn gyffredinol fel cyfanwaith comig mwyaf bythol Donizetti.
Ond gwaethygodd iechyd Donizetti wedi'r llwyddiant hwnnw. Erbyn 1844, nid oedd yn gallu canolbwyntio na chyfansoddi darnau o unrhyw hyd. Cafodd ddiagnosis o siffilis dwys, ac fe arweiniodd hyn at gyfnod mewn sanatoriwm. Ym mis Hydref 1847, trefnodd nai Donizetti iddo gael ei symud i'w gartref yn Bergamo, lle derbyniodd ofal gan ei ffrindiau hyd ei farwolaeth ar 8 Ebrill 1848.