Rydym yn falch o gyhoeddi bod y Sefydliad Garfield Weston wedi addo £300,000 dros dair blynedd i gefnogi ein rhaglen Ieuenctid, Cymuned a Digidol. Mae’r sefydliad wedi bod yn gefnogwr gwerthfawr o WNO am flynyddoedd lawer ac wedi chwarae rôl arwyddocaol ar gyfnodau allweddol yn natblygiad y Cwmni sydd wedi rhoi’r hyder i ni wynebu heriau newydd a chynllunio at y dyfodol.
Dros gyfnod hir ein perthynas, mae’r gwaith arloesol a gyflawnwyd gan y WNO i ymgysylltu gyda phobl o bob oedran a chefndir ym maes opera wedi bod o ddiddordeb penodol i’r Sefydliad. Mae gweithgaredd Ieuenctid, Cymuned a Digidol yn rhaglen sy’n datblygu’n barhaus ac sy’n gwneud opera a’r celfyddydau yn hygyrch i bawb.
Bydd doniau ifanc yn cael budd o gefnogaeth y Sefydliad wrth i ni barhau i ddatblygu’n gwaith yn benodol gyda thalent ifanc. Mae Opera Ieuenctid WNO yn cynnig llwyfan i artistiaid awyddus i ddatblygu’n broffesiynol, gan gynnig repertoire uchelgeisiol i gantorion ifanc wrth ddarparu blwyddyn o hyfforddiant proffesiynol yn ogystal â chyfleoedd perfformio gyda’r nod o feithrin talentau ifanc ar gamau nesaf eu gyrfaoedd. Rydym yn hynod werthfawrogol i’r ymddiriedolwyr yn Sefydliad Garfield Weston am gytuno i gefnogi datblygiad y gwaith angenrheidiol hwn yn ogystal â’n prosiectau Ieuenctid, Cymuned a Digidol eraill.
'Bydd y grant sy'n cael ei roi gan y Sefydliad Garfield Weston yn allweddol wrth ein galluogi i ddatblygu ein rhaglen Ieuenctid, Cymuned a Digidol dros y tair blynedd nesaf, ac i ddechrau sefydlu darpariaeth hirdymor yng nghalon y cymunedau, yn benodol mewn ardaloedd gyda llai o gyfleoedd o ran y celfyddydau. Mae’r buddsoddiad hwn yn golygu gallwn gynnig cyfleoedd cynaliadwy, gan gyrraedd ystod llawer ehangach o bobl, gyda buddion hirdymor i’r rhai a fydd yn cymryd rhan.' Emma Flatley, Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Phartneriaethau WNO