Newyddion

Gavan Ring yn perfformio am y tro cyntaf gyda

22 Chwefror 2018

Darllenwch fwy am berfformiad cyntaf Gavan Ring gyda WNO pan fydd yn chwarae rhan Don Giovanni. 

'Ni allaf ddweud wrthych gymaint rwyf yn edrych ymlaen at ymddangos am y tro cyntaf fel Don Giovanni - rydw i’n gwireddu breuddwyd.'  

Yg Ngwanwyn 2018 fe groesawyd Gavan Ring i WNO, a gallwch ddweud o’i ddyfyniad uchod fe oedd wrth ei fodd i fod yn chwarae’r brif ran Don Giovanni, rhan y mae llawer o leisiau bariton yn ystyried yn rôl glasurol a hyfryd iawn i'w chwarae. Cafodd Gavan, o Swydd Kerry, Iwerddon ei brofiad cyntaf o opera pan oedd yn bump oed pan chwaraeodd ei fam dâp o’r Tri Thenor Pavarotti, Domingo a Carreras yn y car. Daliodd ei ddychymyg ac ers hynny mae wedi caru cerddoriaeth. Aeth Gavan ymlaen i ddechrau gwersi canu clasurol yn 12 oed.  Cyn iddo ddod yn ganwr proffesiynol, astudiodd Gavan i fod yn athro ysgol gynradd, ond sylweddolodd yn gyflym nad yn y maes hwnnw oedd ei angerdd a phenderfynodd ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth. Aeth ymlaen i astudio cwrs Meistr mewn Perfformio Celf yn Academi Gerddoriaeth Frenhinol Iwerddon ac mae wedi cwblhau doethuriaeth yn Opera Gwyddeleg Ddechrau’r Ugeinfed Ganrif. 

Er mi oedd y tro cyntaf i Gavan berfformio gyda WNO, nid yw'n ddieithr i fyd yr opera. Mae wedi perfformio ar draws y byd ac wedi chwarae rhannau megis Dancaire; Carmen (Opera Royal de Versailles), Figaro; Il Barbiere di Siviglia (Taith Glyndebourne ac Opera Gogledd Lloegr), Ping; Turandot (Opera Gogledd Lloegr) a Guglielmo; Cosi fan tutte (Opera Gogledd Lloegr). Ond rhan Don Giovanni sydd ar frig y rhestr o rannau mae Gavan eisiau eu chwarae ac roeddwn yn edrych ymlaen yn ofnadwy i'w groesawu i'r Cwmni ac i’w weld yn perfformio ei ran ddelfrydol gyda ni.

Mae Don Giovanni yn ddyn carismatig a hunanbwysig sy'n hud-ddenu ei ffordd o gwmpas Ewrop. Pan fydd un o'i gariadon yn cael ei llofruddio, ymddengys bod ei lwc am newid. Mae’n canfod ei hun ar ffo, yn cael ei ddilyn gan hen gariadon a dyweddïau anfodlon a grym o du hwnt i’r bedd. Pan wrthoda ddangos edifeirwch, mae dial yn anochel ac yn arwain at ei dranc yn y pen draw.  

Ar ôl dechrau ymarfer ym mis Ionawr 2018 ni oedd Gavan yn gallu aros i ddechrau perfformio a theithio o gwmpas y wlad fel rhan o Dymor y Gwanwyn WNO. Fe berfformiodd rhan Don Giovanni am y tro cyntaf pan agorwyd yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 22 Chwefror 2018 ac wedyn fe deithiwyd gyda'r Cwmni i Firmingham, Bryste, Llandudno, Milton Keynes, Plymouth a Southampton.