Newyddion

Dod i adnabod Elizabeth Llewellyn

10 Hydref 2025

O gariad plentyndod at y piano i ganu ar lwyfannau opera mwyaf y byd, mae’r soprano o Brydain, Elizabeth Llewellyn, wedi creu llwybr anhygoel mewn cerddoriaeth glasurol. Cyn ei chyngerdd gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, bu i ni gwrdd ag Elizabeth i sgwrsio am ble cychwynnodd y cyfan, hudoliaeth perfformio a’r hyn sydd nesaf yn ei gyrfa drawiadol.

Syrthiais mewn cariad â sain y piano pan oeddwn tua saith neu wyth oed,’ meddai Elizabeth wrthym. ‘Erbyn i mi fod yn ddeg oed, roeddwn yn ei astudio o ddifri, tan oeddwn yn ddeunaw oed. Roedd fy athrawes piano wych a hael yn bwydo fy niddordeb mewn cerddoriaeth glasurol, ac roedd yn fy annog pan ddechreuais chwarae’r ffidil pan oeddwn tua 14 oed. Wrth gwrs, fyddai dim o hyn yn bosib heb i fy rhieni fod yn fodlon hwyluso a thalu am wersi’. 

Wedyn daeth y canu, bron ar hap; ar ôl ei chlywed yn canu gyda chôr yr ysgol, cynigiodd ei phennaeth dalu am wersi canu a thocynnau i gyngherddau clasurol a pherfformiadau opera. Agorodd y weithred fach yna o gefnogaeth y drws i’r hyn a fyddai’n dod yn llwybr sy’n newid bywyd. ‘Agorodd fyd sain cwbl newydd i mi. Roeddwn wedi synnu at bŵer, amlochredd a phleser y llais dynol ac roeddwn yn awyddus i weld a allwn i wneud hynny hefyd’. 

Er na wnaeth ei gyrfa ym myd yr opera ddim cychwyn o ddifri nes oedd yng nghanol ei thri degau, mae bywyd proffesiynol cynharach Elizabeth yn adrodd stori wahanol, un o uchelgais a’r gallu i addasu. Ar ôl gadael y coleg cerdd, bu’n gweithio mewn recriwtio, yna symud i reoli prosiectau yn y diwydiannau telegyfathrebu a TG. Yn nes ymlaen bu’n arwain timau mewn teithio arbenigol a chynllunio digwyddiadau, gan drefnu rhaglenni cymhelliant a chynadleddau o’r radd flaenaf yn Llundain. Heddiw, ochr yn ochr â pherfformio, mae Elizabeth bellach yn arwain ei chwmni cynhyrchu ei hun, gyda’r prosiect mawr cyntaf yn cael ei gyflwyno ddiwedd 2026.

Ymhlith y llu o uchafbwyntiau yn ei gyrfa, mae un foment yn parhau i sefyll allan yn swreal i Elizabeth; ei hymddangosiad cyntaf yn y Metropolitan Opera yn y brif ran o Bess yn Porgy and Bess. Roedd perfformio rôl mor Americanaidd yn y bôn, fel artist Prydeinig, yn brofiad bythgofiadwy. ‘Cymrodd beth amser i fi goelio’r peth’ cyfaddefodd. Iddi hi, nid yw perfformio byth yn ymwneud ag arddangos sgil er ei fwyn ei hun. Mae’n ymwneud ag adrodd straeon a chreu lle i rywbeth dyfnach ddigwydd. ‘Os wyf wedi gwneud fy ngwaith yn iawn ac wedi paratoi’n ofalus a medrus,’ meddai, ‘mae’n gwneud lle i’r eiliadau prin hynny mewn perfformiad pan allaf deimlo fod fy nghynulleidfa yn dod ar daith gyda mi, gan ddilyn cymhlethdodau fy stori. Mae’r eiliadau hynny yn hudolus, maent fel sgwrs, gweithred gyfeillgar gyda’r ystafell’.

Fis Hydref eleni, bydd Elizabeth yn dychwelyd i Gaerdydd i berfformio gyda Cherddorfa WNO yn Neuadd Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dan arweinyddiaeth Jiří Habart. Ers ei hymddangosiad cyntaf gydag WNO yn 2022 yn y brif ran, Jenůfa, mae hefyd wedi canu A Sea Symphony Vaughan Williams yn y Proms gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ac wedi teithio Cymru gyda Vier letzte Lieder Strauss ochr yn ochr â Carlo Rizzi a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Mae’r cyngerdd sydd ar y gweill yn cynnwys Wesendonck Lieder Wagner, cylch caneuon sy’n gyfoethog mewn agosatrwydd a chymhlethdod emosiynol. Dechreuodd Elizabeth astudio’r darn ychydig dros flwyddyn yn ôl a chafodd ei tharo’n syth gan ei naws. ‘Cefais fy syfrdanu gyda pha mor fanwl, llawn mynegiant, a diffuant ydynt, gyda throadau annisgwyl mewn harmoni a llinellau lleisiol, a llawer o ‘ddeuawdu’ gydag offerynnau unigol amrywiol yn y gerddorfa. I mi, mae’n teimlo fwy fel darn o gerddoriaeth siambr na chyfres o ganeuon offerynnol. Rwyf wedi datblygu cariad dwfn tuag atynt’. Ochr yn ochr â cherddoriaeth Wagner, bydd gweithiau atgofus gan Dvořák, Beethoven, a Haydn yn cael eu cynnwys yn y cyngerdd. Mae ail-ymuno a Cherddorfa WNO nawr, meddai, ‘yn teimlo’n arbennig iawn, mae’n reit anghyffredin clywed cerddorfa mewn lleoliad mor gartrefol â Neuadd Dora Stoutzker - bydd hyn bron yn teimlo fel clywed Cerddorfa WNO mewn perfformiad’.

Bydd Elizabeth Llewellyn yn perfformio gyda Cherddorfa WNO yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ddydd Gwener 24 a dydd Sadwrn 25 Hydref.