Yn parhau gyda phartneriaeth hirdymor Opera Cenedlaethol Cymru â National Opera Studio, yr wythnos hon croesawn y garfan ddiweddaraf o gantorion o’u Rhaglen Artistiaid Ifanc. Uchafbwynt y preswyliad wythnos o hyd yw arddangosfa na ddylid ei cholli yn Theatr hardd Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, dan gyfeiliant Cerddorfa WNO. Beth am gael paned o de a threulio 2 funud yn dod i adnabod Artist Ifanc y National Opera Studio, Su Chong.
Sut wnaethoch chi ddarganfod eich angerdd am opera?
Datblygodd fy nghariad at opera mewn cyfnod yn fy mywyd pan oeddwn yn teimlo ar goll yn llwyr. Wedi cwblhau gradd Baglor mewn Perfformio Cerddoriaeth, cymerais seibiant i geisio dod o hyd i gysylltiad newydd â cherddoriaeth. Pan ddychwelais i’r brifysgol i wneud ôl-radd mewn Cyfeiliant, dechreuais weithio gyda chantorion a theimlais gysylltiad yn syth. Dros y blynyddoedd nesaf, roeddwn yn dysgu mwy am gerddoriaeth nag erioed, o fod yn gweithio â chantorion. Roeddwn yn cael fy nghyffroi â’r syniad o theatr drwy destun ac emosiwn. Rwyf wedi gwirioni byth ers hynny.
Beth mae diwrnod arferol yn y Stiwdio yn ei gynnwys?
Mae pob diwrnod yn dod ag antur newydd. Gan gychwyn am 10.30 bydd gennym hyfforddwyr gwadd a repertoire newydd i weithio arnynt. Mae rhai dyddiau’n teimlo’n llawn hyd yr ymylon gydag ymarferion a hyfforddi, a dyddiau eraill ychydig yn ysgafnach a ninnau’n gallu canolbwyntio ar gynllunio ein repertoire ein hunain ar gyfer clyweliadau neu astudio sgoriau ac ieithoedd.
Yn ystod eich cyfnod yn NOS, rydych wedi cymryd rhan mewn sawl cyfnod preswyl. Sut maent wedi eich helpu i baratoi ar gyfer eich gyrfa?
Mae ein cyfnodau hyfforddi gydag amrywiol gwmnïau opera o amgylch y DU yn hynod ddefnyddiol, nid yn unig oherwydd y cysylltiadau a wnawn ond hefyd oherwydd y doethineb a’r wybodaeth sylweddol a gawn gan y staff cerdd. Mae cael y cyfleoedd i ddysgu gan artistiaid o safon mor uchel yn allweddol yn ein datblygiad fel artistiaid ifanc. Mae hefyd yn fraint sylweddol.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i repetiteur y dyfodol?
Manteisiwch ar bob cyfle. Gall bod yn repetiteur fod yn gymaint o hwyl, ond mae’n well fyth os ydych yn ymwybodol o’r hyn yr ydych yn ei wir hoffi amdano. Mae cymaint o agweddau i fod yn rep sy’n cymryd amser i’w meithrin, felly sicrhewch eich bod yn mwynhau’r cynnydd ar eich taith.
Pam ddylai pobl ddod i brofi Twyll a Chwant?
Y gerddoriaeth fendigedig. Mae popeth yn y cyngerdd hwn, o athrylith Mozart, hyfdra Rossini, cariad Puccini a drama Verdi. Mae ein cantorion anhygoel yn ymgorffori pob cymeriad, gan gyflwyno gwledd o emosiynau.
Pe na fyddech chi wedi mynd ar drywydd gyrfa yn y byd cerdd, beth fyddech chi’n ei wneud nawr?
Fedra i ddim dychmygu gyrfa y tu hwnt i gerddoriaeth. Byddwn eisiau bod yn ymwneud â’r celfyddydau, hyd yn oed pe na bawn i’n chwarae offeryn cerdd. Byddai’n ddiddorol archwilio addysg, gweinyddu, neu gynhyrchu. Fodd bynnag, pe na bai cerddoriaeth yn ddewis, byddwn yn archwilio seicoleg neu weithio gydag anifeiliaid.