Ers ein sefydlu yn 1943 hyd at 1966, roedd gwaith Opera Cenedlaethol Cymru â'i wreiddiau yn nwfn yn y gorffennol, ac eithrio Menna a Serch Yw'r Doctor. Wedi dweud hynny, uchafbwynt Tymor y Gwanwyn 1966 oedd sioe agoriadol opera newydd sbon, nid yn unig gan gyfansoddwr fyw ond gan gyfansoddwr Gymreig - Grace Williams. Caiff ei hystyried gan nifer fel un o gyfansoddwyr gorau Cymru ond yn rhy aml mae ei gwaith wedi mynd yn angof yng nghanol cerddoriaeth ei chyfoeswyr gwrywaidd.
Ganwyd Grace Mary Williams ar 19 Chwefror 1906 yn nhref arfordirol y Barri, Cymru, ac fe'i hanogwyd hi i olrhain ei brwdfrydedd dros gerddoriaeth o oedran ifanc. Roedd ei mam a'i thad yn athrawon, a cherddoriaeth yn agos iawn at galonnau'r ddau. Roedd ei thad, William Matthews Williams, yn gyfarwyddwr corawl amatur uchel ei barch nad oedd yn credu mewn addysgu cerddoriaeth i'w blant gyda llyfr ymarferion ac arholiadau traddodiadol. Yn hytrach, rhannodd ei lyfrgell eang o sgoriau cerddoriaeth gyda nhw, a oedd yn eu galluogi i archwilio a chanfod drostynt eu hunain, ac yn y pendraw, dyma a arweiniodd Grace Williams at ddod o hyd i'w dull cerddoriaeth hynod unigryw ei hun.
Dysgodd Williams i chwarae'r piano ac yn aml byddai'n chwarae yn ymarferion côr ei thad, a gartref byddai'n chwarae'r ffidil gyda'i brawd a'i thad. Ehangodd ei dealltwriaeth o gerddoriaeth gerddorfaol drwy recordiadau yr oedd ei thad wedi'u casglu'n frwd. Yn ferch ysgol, rhagorodd mewn mathemateg, cerddoriaeth a Saesneg a magodd ddiddordeb bythol mewn llenyddiaeth Ffrengig, a aeth â'i bryd drwy gydol ei hoes.
Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, symudodd i Lundain i astudio yn y Royal College of Music. Ymunodd â sawl cyfansoddwraig ddawnus arall gan gynnwys Elizabeth Maconchy, Dorothy Gow ac Imogen Holst - merch y cyfansoddwr Gustav Holst. Gydag anogaeth gan Vaughan Williams (neu Wncwl Ralph fel y byddai'n ei alw), byddai'r merched yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i glywed a beirniadu gwaith ei gilydd.
Roedd Williams yn fwyaf adnabyddus am weithiau cerddorfaol, megis y poblogaidd Fantasia on Welsh Nursery Tunes, Sea Sketches, Penillion a The Parlour, sef ei hopera gyntaf.
Bu opera yn agos at galon Williams drwy gydol ei hoes. Am nifer o flynyddoedd, coleddodd yr uchelgais o ysgrifennu opera; ond prin oedd y cyfleoedd i wneud hynny. Comisiynwyd ei hopera gyntaf gan Bwyllgor Cymru Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr yn 1959. Yn seiliedig ar y stori fer En Famille gan Guy de Maupassant, ysgrifennodd Williams y libreto ei hun. Cymerodd ddwy flynedd i gwblhau'r opera a chafodd ei pherfformio gan Opera Cenedlaethol Cymru ym Mai 1966. Ar ei noson gyntaf cafodd yr opera gymeradwyaeth faith gan y gynulleidfa yn New Theatre, Caerdydd, a disgrifiodd sawl beirniad hi yn bersain a swynol.
Roedd The Parlour yn llwyddiant artistig nodedig ac annisgwyl. Prin y cawsai opera gyntaf cyfansoddwr lwyddiant o'r fath; a phrinnach fyth yw opera gyntaf o'r fath safon yn parhau heb olynydd.
Ni lwyddodd cyfansoddwr arall o Gymru drefnu sgôr ar gyfer y gerddorfa symffoni fodern gyda'r fath fedrusrwydd a gwreiddioldeb â Williams. Cynorthwyodd i roi sylfaen newydd i gerddoriaeth gerddorfaol yng Nghymru a chyflwynodd flas nodweddiadol ar Gymru i'r neuadd gyngerdd am y tro cyntaf erioed.
Collodd Williams ei brwydr â chancr ar 10 Chwefror, 1977, dim ond naw diwrnod cyn ei phen-blwydd yn saith deg un oed. Dywedwyd mewn teyrnged iddi: 'Cyflwynodd gerddoriaeth Cymru i'r byd.'