Rydym i gyd yn llawenhau yn hwyl yr ŵyl erbyn hyn, ac yn cyfri'r dyddiau tan fydd Corws a Cherddorfa WNO yn perfformio Messiah gan Handel yn Neuadd Dewi Sant. Cafodd y campwaith ei gyfansoddi yn 1741 ar gyfer cerddorfa, corws a phedwar unawdydd. Mae rhan gyntaf y darn yn adrodd stori Nadolig geni'r Iesu, ond mae'r ail ran yn canolbwyntio ar stori'r Pasg a'r croeshoelio, a'r trydydd yn archwilio Cristnogaeth a bywyd tragwyddol. Roedd Handel ei hun yn cysylltu Messiah gyda'r Grawys a'r Pasg, fodd bynnag, erbyn heddiw, 280 o flynyddoedd ers ei berfformio gyntaf yn Nulyn ym mis Ebrill 1742, caiff ei ystyried fel un o'r goreuon Nadoligaidd. Mae'n parhau i fod yr un mor boblogaidd ag erioed, ac mae torfeydd yn dod ynghyd i wrando ar y campwaith hwn o hyd.
Mae gallu a dawn Handel yn amlwg yn y darn syfrdanol hwn o gerddoriaeth. Mewn camp ryfeddol o greadigrwydd, cyfansoddodd Handel y sgôr 260 tudalen mewn dim mwy na 24 diwrnod. Mae testun huawdl y darn, wedi'i dynnu o adnodau o'r Beibl, hefyd yn cyfrannu at boblogrwydd hirsefydlog y darn, gyda hanes bywyd Crist yn cael ei arddel fel y stori orau erioed. Yn ôl y sôn, roedd y Corws Haleliwia gorfoleddus wedi cael cymaint o effaith ar Frenin George II nes iddo godi ar ei draed yn ystod perfformiad, gan ysgogi'r gynulleidfa i wneud yr un fath, ac mae'r traddodiad o sefyll yn parhau hyd heddiw.
Heb os, roedd Handel ei hun yn hoff iawn o'r darn; roedd Messiah bob tro'n cael ei gynnwys yn ei gyngherddau budd blynyddol, ac yn 1759, er ei fod yn ddall ac yn wael iawn ei iechyd, mynnodd ei fod yn mynychu perfformiad yn y Theatre Royal yn Covent Garden ar 6 Ebrill. Bu farw yn ei gartref wyth diwrnod yn ddiweddarach.
Mae sawl rhan o'r darn i'w clywed mewn diwylliant poblogaidd, ond y Corws Haleliwia enwog sydd fwyaf adnabyddus. Yn ogystal â bod yn llafargan boblogaidd yn ystod cyfnodau o hapusrwydd, dyma rai o'n hoff enghreifftiau ohono'n ymddangos mewn diwylliant poblogaidd.
Ar ddiwedd y ffilm Dumb & Dumber o 1994, mae Lloyd a Harry (Jim Carrey a Jeff Daniels) mewn twll, yn crwydro'r anialwch, pan mae bws yn stopio wrth eu hymyl. Mae'r ffenestri'n agor i synau Haleliwia, ac mae dwsin o ferched penfelyn hardd yn camu oddi ar y bws. Fodd bynnag, nid yw'r cyfarfod hwn yn gwella lwc Lloyd a Harry.
A ydych chi'n cofio pan oedd Fflachfobiau ym mhob man? Yn ôl yn 2010, trefnodd Alphabet Photography Inc. rhodd Nadolig annisgwyl ar gyfer cwsmeriaid, a pherfformio dehongliad tanbaid o Gorws Haleliwia. Ysbrydolodd hyn i nifer o bobl fynd ati ac ail-greu'r perfformiad, gan gynnwys mewn maes awyrennau yn Florida a'r Adeilad Wanamaker yn Philadelphia.
Mae cartŵn hwyliog, ond hefyd ychydig yn hunllefus, Nickelodeon, Ren & Stimpy, yn aml yn cynnwys Haleliwia yn eironig. Ymddangosodd gerddoriaeth Handel am y tro cyntaf yn y bennod beilot, a daeth yn nodwedd gyson, fel arfer yn ystod eiliad ewfforig sydd ar fin cael ei chwalu.
Yn Thoroughly Modern Millie, mae Julie Andrews yn edmygu ei bos, Trevor Graydon (John Gavin). I bwysleisio ei theimladau, aeth y cyfansoddwr, Elmer Bernstein, ati i blethu ychydig o Haleliwias rhwng geiriau Richard Morris, gan ganu allan bob tro mae Graydon yn cyfleu proffil.
Yn olaf, ond yn bendant yr un mor bwysig, ni allwn anghofio ei ymddangosiad mewn fersiwn ddiweddar o glasur Charles Dickens, A Christmas Carol. Mae Corws Haleliwia wedi'i gynnwys yn Scrooged, sy'n serennu Bill Murray fel swyddog gweithredol yn y byd teledu sy'n cael ei ddilyn gan dri ysbryd sy'n ceisio addysgu gwersi bywyd iddo ar Noswyl Nadolig.
Gallwch wrando ar y campwaith hynod boblogaidd a llon hwn yn ei holl ogoniant yn Neuadd Dewi Sant ddydd Gwener 9 Rhagfyr.