
Cyn ein cynhyrchiad newydd sbon o Peter Grimes, Benjamin Britten, mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi ffurfio partneriaeth â The Fishermen’s Mission, yr unig elusen yn y DU sydd â’r pwrpas o ddarparu cefnogaeth i’r diwydiant pysgota, a’r cyfansoddwr a chanwr o Gymru, Gareth Bonello (The Gentle Good), mewn prosiect newydd arloesol.
Yn 1945, ysgrifennodd Britten, ‘Wrth ysgrifennu Peter Grimes, roeddwn yn awyddus i fynegi fy ymwybyddiaeth o frwydr wastadol dynion a merched y mae eu bywoliaeth yn ddibynnol ar y môr’. Mae ‘r Sea Interludes enwog yn Peter Grimes, Dawn, Sunday Morning, Moonlight a Storm, yn funudau cerddorfaol sy’n cyflawni swyddogaeth ddramatig bwysig drwy gyfleu harddwch gwirioneddol a grym y cefnfor ynghyd â rhythmau bywyd mewn tref glan môr.
Cysylltodd Cynhyrchydd Prosiectau WNO, Michael Graham, â The Fishermen’s Mission, ynglŷn â chydweithio, gan ddefnyddio eu profiad hwy a’n cynhyrchiad ni, sydd ar y gweill, o Peter Grimes, i daflu goleuni ar y problemau y mae’r dynion, y merched a’r teuluoedd sy’n ddibynnol ar y diwydiant pysgota yn dal i’w hwynebu. Gyda chefnogaeth Gareth, dechreuodd prosiect y Sea Interludes.
‘Bwriad ein prosiect yw parhau â gwaith Britten. Wrth sgwrsio a chydweithio â chyfranogwyr o gymunedau pysgota Gorllewin Cymru a Chernyw, mae Gareth wedi creu casgliad newydd o ganeuon sy’n darlunio’n wych amrywiaeth o’r profiadau hyfryd, doniol, brawychus, a hynod deimladwy y bobl sydd wedi ymroi i, ac yn hollol ddibynnol ar, y môr’.
(Mae’r holl bobl yn y llun yn gweithio yn y diwydiant pysgota yn Aberdaugleddau).

Michael Graham
Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn galluogi cynulleidfaoedd heddiw i ddeall rhai o’r cymeriadau ffuglennol, sydd wedi’u llunio’n wych, yn opera Britten. Er ei bod yn stori am gymuned bysgota yn oes Fictoria, mae themâu yn Peter Grimes y gall pysgotwyr a’u cymunedau barhau i uniaethu â hwy, gan gynnwys peryglon ffisegol y môr a’r effaith feddyliol a gaiff yr unigedd a’r ansicrwydd amgylcheddol arnynt.
‘Mae wedi bod yn fraint o’r mwyaf cael siarad ag aelodau o’n cymunedau pysgota fel rhan o’r prosiect hwn, ac rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi rhannu eu stori. Cefais fy ysbrydoli gan straeon byw o fywyd ar y môr, a fy nghyffwrdd yn arw gan y caledi a ddioddefodd llawer o bobl. Mae wedi bod yn fraint cael cyfansoddi caneuon newydd gyda Seb Goldfinch mewn ymateb, ac rwy’n gobeithio ein bod wedi gwneud cyfiawnder â phawb a gymrodd ran. Hoffwn ddiolch i’n holl gyfranwyr, Seb, WNO a Fishermen’s Mission. Rwy’n gobeithio y bydd ein cerddoriaeth yn helpu i dynnu sylw at y gwaith hanfodol y mae’r Fishermen’s Mission yn ei wneud i gefnogi’r rhai sy’n mentro eu bywydau ar y môr.'
Gareth Bonello

Bydd y Sea Interludes yn cael eu perfformio gan bedwarawd llinynnol ac ensemble telyn cyn pob perfformiad oPeter Grimes yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar 5, 8 ac 11 Ebrill.
Bydd fersiwn wedi’i symleiddio hefyd yn cael ei pherfformio ar y gitâr gan Gareth yn y Theatre Royal Plymouth cyn y perfformiad o Peter Grimes ddydd Sadwrn 7 Mehefin. Ymunwch â ni i fwynhau’r darnau hyfryd hyn o gerddoriaeth.