Newyddion

Cariadon Ofer y Byd Opera

28 Tachwedd 2022

Mae'n debyg bod rhamant ac opera yn mynd law yn llaw, ond gall pethau fynd o chwith braidd i'r cyplau ar y llwyfan o bryd i'w gilydd. Dyma bum enghraifft o gyplau ofer y byd opera. 

Tristan ac Isolde 

Newidiodd gerddoriaeth am byth ar ôl ymddangosiad yr opera epig hon gan Wagner. Wrth wraidd y ddrama mae stori garu drychinebus ynghylch cwpl sy'n teithio ar long ac yn yfed diod serch wrth gyrraedd glannau Cernyw. Erbyn diwedd Act III, mae Tristan wedi'i anafu ac yn marw. Yna, cana Isolde un o ariâu mwyaf adnabyddus y byd opera, y Liebestod. Yn fras, mae'n golygu 'marwolaeth serch', ac mae'n cynrychioli'r ffaith mai dim ond drwy farwolaeth y caiff cariad y ddau gymeriad ei wireddu. Yma, mae holl naws ramantus y gerddoriaeth yn cyrraedd ei hanterth. 

Mimì a Rodolfo 

Yn opera delynegol Puccini, La bohème, mae Rodolfo yn cwrdd â Mimì wrth iddi guro'r drws, a fflam eich channwyll wedi hen ddiffodd. A hithau wedi colli ei hallweddi, mae'r ddau'n mynd ati i chwilio amdanynt yng ngolau'r lleuad; dyna ddechrau eu stori garu. Er i'r berthynas fod yn llawn addewid ar y dechrau, mae Rodolfo yn gadael Mimì wrth i'w hiechyd waethygu – argoel dywyll i ddiweddglo'r opera.

Violetta ac Alfredo 

Mae stori'r cwpl hwn o La traviatara gan Verdi, yn dechrau wrth i Alfredo gyffesu ei edmygedd tuag at Violetta. Nid yw Violetta yn teimlo'r un fath yn syth, ond mae ei meddwl yn crwydro i fywyd ffantasi gydag ef. Erbyn dechrau'r ail act, mae'r ddau yn byw gyda'i gilydd. Fodd bynnag, erbyn dechrau'r drydedd act, mae Violetta yn wynebu oriau terfynol ei bywyd – patrwm cyffredin iawn yn yr operâu hyn am straeon caru trasig.

Carmen a Don José

Mae stori garu'r opera hon, sy'n cynnwys nifer o ariâu adnabyddus, yn llawn hynt a helynt. Pan mae'r ddau gymeriad yn cwrdd am y tro cyntaf, mae Carmen yn taflu blodyn at y corporal José, gan mai ef yw'r unig ddyn heb ei hudo ganddi. Caiff Carmen ei dal mewn ysgarmes, ac yn fuan wedi hynny, anfonir José i'r carchar. Ar ôl ei ryddhau, cyfle José nawr yw taflu ei ddyrnau. Mae'r holl ddrama'n parhau hyd at y diwedd, gan arwain at anterth hunllefus.

Dido ac Aeneas

Mae'r opera faróc hon gan Purcell yn cynnwys stori garu drasig arall. Egyr yr opera drwy daro goleuni ar deimladau cymhleth Dido tuag at Aeneas. Fodd bynnag, ar ôl cael sgwrs gyda'i morwyn, Belinda, mae Dido yn derbyn cynnig Aeneas i'w phriodi. Ar ôl i'r holl ddrama ddod i ben, gweler Dido yn marw, wedi torri ei chalon. Mae'n canu'r aria alarnadus, ‘When I am laid in Earth’, sy'n cynnwys alawon disgynnol ysgafn y feiolinau.

Os yw'r holl straeon caru hyn wedi'ch perswadio chi i roi cynnig ar opera, yna dewch i wylio cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o La bohème, sy'n mynd ar daith tan 3 Rhagfyr, gan ymweld â Rhydychen.