Newyddion

Sgwrs gyda Lindy Hume

29 Ebrill 2022

Mae’n rhaid i opera gysylltu â’r byd go iawn er mwyn bod yn berthnasol. Mae’n rhaid iddi gysylltu â’r zeitgeist a’i holl gymhlethdod wrth iddi esblygu tu hwnt i synwyrusrwydd diwylliannol y 18fed, 19eg a’r 20fed ganrif. Dyna’n union a wna cynhyrchiad diweddaraf Opera Cenedlaethol Cymru o Madam Butterfly. Cawsom sgwrs gyda Lindy Hume, cyfarwyddwr yr ail-gynhyrchiad cyfoes o’r opera boblogaidd hon gan Puccini.

‘Rwy’n cofio tair eiliad benodol wnaeth ennyn fy niddordeb a’m hangerdd mewn cyfarwyddo. Y gyntaf oedd pan oeddwn yn ddawnsiwr yn Lucia di Lammermoor gyda Dame Joan Sutherland yn Nhŷ Opera Sydney. Roedden tua 18 oed, ac roeddwn wedi fy rhyfeddu gan y rhyngweithio rhwng y cyfarwyddwr John Copley, y cyfarwyddwr cynorthwyol Elke Neidhardt, a’r cast niferus. Mi feddyliais - ‘Dyna’r swydd i mi’.

Yr ail oedd pan oeddwn yn cyfarwyddo y Carmen gyntaf. Roeddwn yn cyfarwyddo Act 4 ac yn sydyn sylweddolais y gallwn fynegi rhywbeth hynod bersonol drwy’r cymeriadau benywaidd hyn - roedd honno’n ennyd gyffrous. Efallai mai’r peth mwyaf gwefreiddiol oedd dod o hyd i fy hafan o fewn y gelfyddyd unigryw hon.

Y drydedd eiliad oedd pan wnes i ddarganfod opera baroque. Roedd fel agor y drws i fyd arall - yn emosiynol, yn esthetig, yn gerddorol a dramatig.

Pan gefais wahoddiad i gyfarwyddo cynhyrchiad diweddaraf Opera Cenedlaethol Cymru o Madam Butterfly, mi feddyliais tybed beth mae cymuned sy’n dod allan o gyfnod mor gythryblus yn ei ennill o wylio’r llygoden druan yma yn rhedeg drwy ddrysfa unwaith eto? Tybed a welwn Butterfly nid fel ‘yr ecsotig arall’ neu’r ‘arwres drasig’ ond yn hytrach fel person mewn angen sy’n cael ei thrin yn greulon? Roeddwn eisiau dod o hyd i ffyrdd, i eiliadau o harddwch a chysylltiad dynol ddisgleirio i’r gynulleidfa drwy greulondeb y gwaith, drwy gysylltu sefyllfa Butterfly gyda rhai o gerhyntau cymdeithasol ein bïosffer ein hunain.

Fy hoff eiliadau yn y cynhyrchiad yw’r eiliadau o gysylltiad – yn wrthdaro a gwir dynerwch - rhwng Butterfly a Suzuki. Mae hyn yn teimlo fel stori garu go iawn yr opera i mi, mae eu bywydau wedi eu rhwydo gymaint. Bu bron i’r tro cyntaf inni wneud y ddeuawd flodau yn llawn, gyda’r plentyn yn gosod ei degan deinosor gyda’r blodau, fy lladd...roedden nhw i gyd mor hapus yn yr eiliad honno, ond eto fe wyddwn mor gamarweiniol a bregus yw eu dathlu.

 Mae adfywio fy nghynyrchiadau fy hun bob amser yn ddiddorol oherwydd bod rhywun yn dod o hyd i bethau newydd gyda phobl newydd yn y sioe a beth bynnag sy’n digwydd o amgylch y byd. Mae adfywio sioe a chadw’n driw yn anoddach na’i gwneud y tro cyntaf mewn sawl ffordd, oherwydd bod y cyfarwyddiadau llwyfan a chiwiau troi wedi eu gosod yn y cynhyrchiad cyntaf, dylai aros yn dynn, ond eto’n hyblyg ac yn llifo’n ddigonol i groesawu ystod o gast ac amgylchiadau. Mae’n rhaid canolbwyntio ar grisialu bwa’r athroniaeth, seicolegol a’r cymhelliant gwleidyddol tu ôl i’r sioe. Mae’r Butterfly yma’n enghraifft dda o hyn.