Newyddion

Sgwrs gyda Siân Griffiths

2 Mawrth 2022

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn croesawu artistiaid ifanc arbennig National Opera Studio (NOS) am gyfnod preswyl yr wythnos hon. Cawsom sgwrs â’r mezzo soprano Siân Griffiths a fydd, ochr yn ochr â’i chydweithwyr â Cherddorfa WNO, yn perfformio rhaglen sydd wedi’i chyfarwyddo a’i chreu’n arbennig ar Lwyfan Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sul, o’r enw Anarchiaeth yn yr Opera.

Sut wnaethoch chi ddarganfod eich angerdd dros ganu?

Mae fy rhieni yn gantorion opera hyfforddedig, a fy mam oedd fy athrawes ganu pan oeddwn yn yr ysgol, ond ni sylweddolais mai dyma oeddwn i eisiau ei wneud tan i mi ymuno â chynhyrchiad Opera Ieuenctid Glyndebourne o Knight Crew gan Julian Philips. Yn fuan wedyn, es i am glyweliad ymgynghorol yn Guildhall School of Music and Drama, lle cwrddais â fy athro canu presennol, John Evans, a datblygodd popeth o hynny. 

Beth mae diwrnod arferol yn y Stiwdio yn ei gynnwys?

Mae diwrnod arferol yn dechrau am 10:30am ac yn gorffen am 5:30pm, ac mae’n cynnwys hyfforddiant llais gydag aelodau o staff yr adran gerddoriaeth a hyfforddwyr gwadd, hyfforddiant ieithyddol, gwersi actio, sesiynau datblygiad corfforol a sesiynau gwirio gyda’r Pennaeth Gweinyddu Artistig a’r Cyfarwyddwr Datblygu Artistiaid. Rydym hefyd yn cynnal dyddiau recordio unwaith neu ddwywaith y tymor er mwyn recordio unrhyw beth sydd ei angen arnom ar gyfer cyflwyniadau a cheisiadau am glyweliadau. 

Pam ddylai pobl ddod i brofi Anarchiaeth yn yr Opera?

Mae gan Anarchiaeth yn yr Opera rywbeth at ddant pawb. Mae cydbwysedd gwych rhwng comedi a drama ac arddulliau cerddorol - o’r repertoire operatig glasurol Alcina gan Handel i The Mikado gan Gilbert a Sullivan, i ddarn mwy cyfoes Julietta gan Martinů. Y golygfeydd rwy'n eu mwynhau’n benodol yw'r ddwy olygfa o Les Mamelles de Tirésias gan Poulenc – unawd y Prolog wedi’i ganu gan Josef Ahn a'r ddeuawd yn ddiweddarach gyda Laura Lolita Perešivana a Philip Clieve; ac rwyf wrth fy modd yn perfformio'r pumawd o Il turco in Italia gan fod Rossini yn hawlio lle arbennig yn fy nghalon.

Yn ystod eich cyfnod yn NOS, rydych wedi ymgymryd â sawl cyfnod preswyl. Sut maent wedi eich helpu chi i baratoi am eich gyrfa?

Mae’r cyfnodau preswyl yn rhoi cyfle gwych i ni weithio at safon broffesiynol gyda chyfarwyddwyr ac arweinwyr anhygoel ar repertoire y byddwn yn ei berfformio yn y pen draw fel rôl lawn mewn cynyrchiadau yn y dyfodol. Mae’n ein galluogi i feithrin cysylltiad proffesiynol gyda’r cwmnïau hyn. Yn ystod ein cyfnodau preswyl, bydd y timau castio yn arsylwi’r broses ymarfer a pherfformio ac yn ein gwahodd am glyweliad o’u blaenau.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sy’n dymuno bod yn ganwr opera?

Gallwch ddilyn gyrfa yn y byd opera heb radd israddedig mewn cerddoriaeth. Mae astudio pwnc arall (wrth gael gwersi canu preifat) wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy llais heb bwysau conservatoire cerddoriaeth, a rhoddodd ymdeimlad o’r byd y tu hwnt i gerddoriaeth i mi. 

Yn ogystal, mae beirniadaeth a chael eich gwrthod yn rhan o'r broses ddysgu, nid ydynt yn ddiwedd llwyr. Rwyf wedi dysgu mwy wrth fethu nag unrhyw lwyddiant, ac, yn y pen draw, mae pawb yn profi methiant. Byddwch â ffydd yn eich hun. 

Pe na fyddech chi wedi mynd ar lwybr gyrfa yn y byd cerdd, beth fyddech chi’n ei wneud nawr?

Cyn i mi astudio fy ngradd ôl-raddedig mewn canu, astudiais BA Hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Reading, felly mae'n debyg y byddwn wedi mynd ar drywydd sy’n ymwneud yn fwy â hanes/ymchwil, yn enwedig mewn perthynas â'r Aifft Hynafol gan fod fy nhraethawd hir yn ymwneud â’r Pharo Akhenaten ac Amarna, y ddinas a adawodd. Efallai un diwrnod, y gallaf uno fy niddordebau a chanu rôl Nefertiti yn opera Philip Glass, Akhnaten