Heddiw, ddydd Sadwrn 8 Mawrth, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn ymuno â dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Merched – digwyddiad byd-eang sy’n cydnabod cyflawniadau a chyfraniad merched, ac yn hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau – mae bellach wedi datblygu i hyrwyddo cynhwysiant a grymuso. Felly, yn WNO, hoffem daflu goleuni ar rai o’n merched sy’n ein harwain, sef Sarah Crabtree ac Adele Thomas, a ymunodd ag WNO fel Cyd-Gyfarwyddwyr Cyffredinol/Prif Swyddogion Gweithredol fis Ionawr 2025.

Mae Sarah wedi mwynhau gyrfa lewyrchus fel Cynhyrchydd Creadigol yn Opera Holland Park a The Royal Opera. Mae hi wastad wedi cefnogi datblygiad gwaith newydd ac artistiaid y dyfodol ac mae'n hynod frwd dros hyrwyddo tegwch yn y celfyddydau. Mae Adele, wedi’i geni a'i magu ym Mhort Talbot, De Cymru, wedi dod un o gyfarwyddwyr opera a theatr fmwyaf poblogaidd a chyffrous y DU, a hithau wedi gweithio i Glynderbourne, The Royal Opera, Royal Court Theatre, theatr Globe Shakespeare, National Theatre of Wales ac, wrth gwrs, yma yn WNO gyda Rigoletto yn ddiweddar.
Cyfarfu'r ddwy wrth weithio gyda’i gilydd fel Cynhyrchydd (Sarah) a Chyfarwyddwr (Adele) ac maent wedi cadw cysylltiad â’i gilydd. Nid yn unig maen nhw’n rhannu brwdfrydedd tuag at opera, ond dwy gred bwysig iawn.
mai opera yw prif ffurf ddynamig ar gelfyddyd ein hoes, a'r llall yw ein bod eisiau datblygu cwmni opera ar gyfer y 21ain ganrif. Rydym ni eisiau esblygu'r ffurf arbennig hon ar gelfyddyd.
Eglurodd Adele: ‘yn y byd sydd ohoni, mae sefyll dros yr hyn yr ydych chi’n ei gredu yn dod yn fwyfwy pwysig ond hefyd yn heriol tu hwnt. Mae bod yn ddewr a chadarn, yn enwedig yn wyneb amgylchiadau heriol y celfyddydau, yn anodd. Ond mae’n hollbwysig - oherwydd, i bob pwrpas, nid dros gynulleidfaoedd ac artistiaid heddiw yr ydym ni’n brwydro, ond y cenedlaethau sydd i ddod mewn byd lle allant ffynnu a datblygu.’
Ychwanegodd Sarah ‘Yn ein diwydiant, rwy’n credu’n gryf na fydd opera yn bodoli oni bai ein bod ni’n meddwl yn wahanol am sut beth fydd opera yn y dyfodol, ac mae hynny’n arbennig o gyffrous. Mae opera wedi bod yn ffurf ar gelfyddyd sydd wedi adlewyrchu ei chyd-destun diwylliannol. Mae wedi addasu a datblygu ar draws cenedlaethau, ac mae’n rhaid i ni gofio hynny wrth i ni lywio’r bennod nesaf. Mae'n bleser gen i arwain WNO gydag Adele – does yna neb arall y byddwn i’n fodlon gweithio gyda nhw wrth i ni ymgymryd â’r her anferthol hon.’
Bydd WNO yn dathlu 80 o flynyddoedd y flwyddyn nesaf a Sarah ac Adele yw Cyfarwyddwyr Cyffredinol benywaidd cyntaf y sefydliad, gydag Adele hefyd yn arweinydd Cymraeg cyntaf y sefydliad. Gyda'i gilydd, nhw yw Cyd-arweinwyr cyntaf cwmni opera rhyngwladol mawr. Maen nhw’n ymuno â’r categori hwn ar adeg pan mae sawl un o gwmnïau opera y DU yn meddu ar arweinwyr benywaidd, y cwbl yn torri tir newydd er mwyn sicrhau dyfodol cryf ar gyfer y byd opera.
Felly, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni, dewch i ni ddathlu’r merched hyn a’r holl ferched eraill sy’n gweithio gyda'i gilydd, yn cydweithio ac yn cyfrannu at y byd opera, boed hynny ar y llwyfan neu gefn llwyfan. Brave donne!