Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn lansio grŵp canu newydd sbon yn Abertawe ar gyfer pobl sydd â dementia, eu ffrindiau a'u teuluoedd. Bydd y sesiynau'n dechrau ar 12 Mawrth, pob dydd Mawrth, rhwng 6:30 a 8:30pm, fel bod pobl sy'n gweithio yn ystod y dydd yn gallu ymuno hefyd.
Mae croeso cynnes i unrhyw un sy'n byw gyda dementia a'u cefnogwyr (sydd dros 18 oed) ymuno â'r côr. Bydd y sesiynau wythnosol yn cael eu cynnal yn Taliesin Create, Campws Singleton, Prifysgol Abertawe, gyda pherfformiad terfynol, anffurfiol i ffrindiau a theulu ar 4 Gorffennaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin.
Nid oes yna unrhyw glyweliadau, na chostau, ac mae croeso i gantorion o bob safon, dyma gyfle gwych i fwynhau cerddoriaeth gyda'ch teuluoedd ac i wneud ffrindiau newydd. Byddwn yn canu amrywiaeth o gerddoriaeth, o'r Beatles i Beethoven, a bydd yr arweinwyr côr Ros Evans a David Fortey yn eich tywys ar hyd y ffordd. Bydd y pianydd Sian Davies yn cyfeilio a bydd y repertoire yn datblygu i fodloni dyheadau aelodau'r grŵp. Bydd pob sesiwn yn cloi gyda lluniaeth, a fydd yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod aelodau eraill y côr.
Mae'r côr hwn yn rhan o brosiect ehangach y mae WNO yn ei gynnal yn Abertawe, byddwn hefyd yn gweithio gyda dwy ysgol gynradd i annog y plant i feddwl am heneiddio, cyfnewid rolau, gofalu tosturiol ac yn bwysicach, i ddysgu mwy am ddementia a'r effaith y mae'n ei gael ar y rai sy'n byw â'r cyflwr. Caiff y gwaith hwn ei ddarparu trwy gyfres o weithdai creadigol ynghyd â sesiynau dan arweiniad 'Cyfeillion Dementia' y Gymdeithas Alzheimer, bydd cyfle hefyd i'r plant ysgol gwrdd â phobl sy'n byw gyda'r salwch, a threulio amser gyda nhw.
Mae gofalu a thosturi yn ganolog i'r prosiect 'Cysur', y nod yw dathlu'r hyn sy'n bosib a hybu dealltwriaeth ehangach o ddementia. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i ddatblygu cymunedau mwy goddefgar a gofalgar a fydd yn galluogi pobl sy'n byw â'r cyflwr i fyw bywyd mor llawn a chreadigol â phosib.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jenn Hill ar 029 2063 5063 neu jennifer.hill@wno.org.uk