Newyddion

Ailddyfodiad La traviata

15 Medi 2023

Cyn hir, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn croesawu un o straeon mwyaf poblogaidd ac oesol, La traviata yn ôl i’r llwyfan. Wrth ddisgwyl am y noson agoriadol yng Nghaerdydd cawsom sgwrs gyda’r cyfarwyddwr adfywiol a chydweithiwr oes WNO Sarah Crisp, i ddysgu mwy am y cynhyrchiad arfaethedig.

Yr Hydref hwn bydd cynhyrchiad enwocaf WNO La traviata yn dychwelyd i’r llwyfan. Fel cyfarwyddwr, sut ydych chi’n dod â chynhyrchiad mor unigryw yn ôl yn fyw a'i gadw'n ffres ar gyfer cynulleidfaoedd newydd?

Rwyf wedi gweithio ar y cynhyrchiad hwn ers iddo gael ei berfformio gyntaf gan WNO yn 2009 ac ers hynny rwyf wedi cadw cofnod manwl o'r opera, yn cynnwys nodiadau ar gyfarwyddiadau'r cyfarwyddwr gwreiddiol Syr David McVicar a'i resymau drostynt. Fel gydag unrhyw lyfrau neu ffilmiau poblogaidd, mae yna haenau newydd i'w darganfod bob amser gyda phob adfywiad, ac mae'r cantorion newydd sy'n dod i berfformio gyda ni'n ein cynorthwyo i gadw'r perfformiad yn ffres a chyffrous. Mewn ymarferion, rydym yn gweithio'n agos i archwilio eu syniadau nhw ynghylch y cymeriadau a'u hymgorffori i'r llwyfannu presennol. Ar ôl pump adfywiad, mae hynny'n llawer o gantorion, felly mae fy nghofnod bellach yn llyfr eithaf trwchus, ac mae'n sicr yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed!

Beth ydyw am La traviata sy'n gwneud i gynulleidfaoedd ddychwelyd?

Mae themâu La traviata am gariad a cholled mor berthnasol heddiw ag oeddent pan gyfansoddwyd yr opera, gan alluogi'r gynulleidfa gyfoes uniaethu â phrofiadau'r cymeriadau. Mae Violetta'n gwneud y dewis i fentro popeth er mwyn profi cariad ac yna'n gorfod gwneud y dewis anoddach fyth o ildio'r cariad hwnnw oherwydd y pwysau cymdeithasol yn ei herbyn. Ac wrth gwrs, mae'r gerddoriaeth yn anhygoel.

Beth allwch chi ei ddweud wrthym am yr hyn sy'n ddiddorol am y llwyfaniad hwn o'r opera?

Mae yna nifer o nodweddion sy'n gwneud llwyfaniad cywrain sy'n eich dal ac mae llawer o symboliaeth wrth ragfynegi diwedd yr opera. Yn gyntaf, os edrychwch chi'n ofalus, fe welwch fod geiriau wedi eu hysgythru ar y llawr - mae'r holl gynhyrchiad wedi ei lwyfannu ar garreg fedd Violetta. 

Yn ddiweddarach, yng Ngolygfa Un Act Dau mae'r naratif yn symud yn gyflym iawn rhwng tri gwahanol le yn encil cefn gwlad Violetta ac Alfredo. Cyflawnir hyn drwy sgrinio un ochr o'r llwyfan gyda llenni a'r digwyddiadau yr ochr arall, golygfa gyflym iawn, a chip achlysurol ar droed rhywun!

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am ddod yn ôl at WNO ar gyfer y cynhyrchiad hwn?

Mae La traviata gyda'i gwisgoedd anhygoel yn weledol hardd, felly mae'n wledd i'r llygaid yn ogystal â'r clustiau. Mae'n braf dod yn ôl at WNO gan fy mod wedi bod â pherthynas waith gyda'r Cwmni ers dros 20 mlynedd ac mae cymaint o'r bobl yno'n gyfeillion yn ogystal â chydweithwyr. Rydym yn rhannu hanes a pherthynas wedi ei seilio ar atgofion a llawer o hwyl. Mae'n wych cael eich croesawu mor gynnes yn y gweithle ac mae'n brofiad rwy'n ei werthfawrogi bob amser.  

Er mwyn weld y cynhyrchiad llwyddiannus hwn o La traviata, peidiwch â cholli perfformiadau yng Nghaerdydd, Llandudno, Bryste, Plymouth, Birmingham, Milton Keynes a Southampton rhwng 28 Medi a 24 Tachwedd 2023.