Galw ar holl gefnogwyr brwd cerddoriaeth glasurol – gwrandewch ac edrychwch ar y rhestr isod, sy’n ymwneud â phleserau gwrando ar gerddoriaeth glasurol. Pwy a ŵyr, efallai y gallant fod yn ddefnyddiol i chi...
1. Cysylltu’r annisgwyl
Pwy feddylia y byddai cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth metel trwm yn denu gwrandawyr â phersonoliaethau tebyg? Mae’n anodd cysylltu’r ddau gan eu bod yn fathau o gerddoriaeth mor wahanol. Ond mae’r math o bersonoliaeth sy’n hoff o gerddoriaeth metel a’r bersonoliaeth sy’n hoff o gerddoriaeth glasurol, yn rhannu’r un dyhead i glywed rhywbeth dramatig a theatraidd, ‘cariad at y mawreddog.’
2. Dawns gwe’r pryf cop
A oeddech chi’n gwybod bod pryf cop yn hoff o wrando ar gerddoriaeth glasurol? Yn ystod astudiaeth i weld a oedd cerddoriaeth yn effeithio ar y ffordd mae pryfed cop yn creu eu gweoedd canfuwyd bod pryfed cop wrth wrando ar gerddoriaeth techno a rap yn creu eu gweoedd mor bell i ffwrdd o’r seinydd ag yn bosibl. Ond wrth wrando ar gerddoriaeth Bach, gwnaethant eu gweoedd mor agos at y seinydd ag yn bosibl. Efallai mai dyma pam fod eich system sain yn hel llwch?
3. *Ahem*
Efallai eich bod, neu efallai nad ydych, wedi sylwi wrth ymweld â’r theatr, ar y cryn besychu sy’n digwydd yn yr awditoriwm, ond dyma ffaith ddiddorol i chi ei rhannu â’ch cyd-selogion cerddoriaeth glasurol. Mae pobl yn pesychu mewn cyngherddau cerddoriaeth glasurol ddwywaith mor aml ag arfer, ac mae’r gyfradd yn cynyddu yn ystod cerddoriaeth gymhleth a digywair o’i gymharu â darnau traddodiadol.
4. Dim i ni diolch
A oeddech chi’n gwybod rhwng 1966 a 1978 roedd cerddoriaeth glasurol wedi ei gwahardd yn Tsieina? Cafodd ei gwahardd o dan yr unben Mao Zedong, a gyflwynodd y ‘Chwyldro Diwylliannol’ ym 1966, rhaglen i gael gwared ar elfennau ‘chwyldroadol’ yng nghymdeithas Tsieina. Roedd hyn yn cynnwys cerddoriaeth glasurol, a dechreuodd gyda cherddoriaeth Claude Debussy, a dargedwyd am athrod ideolegol.
5. Nid yw cerddoriaeth glasurol bob amser yn tawelu’r dyfroedd...
Nid yw cerddoriaeth glasurol fel y cyfryw yn achosi terfysgoedd ond ar 29 Mai 1913 pan berfformiodd Stravinsky ei gerddoriaeth gyfoes newydd, The Rite of Spring, am y tro cyntaf, achosodd gryn gynnwrf ac arweiniodd at derfysg. Syfrdanwyd aelodau’r gynulleidfa gan y gerddoriaeth dreisgar. Dechreuasant ddyrnu ei gilydd a cherddodd y cyd-gyfansoddwr Camille Saint-Saëns allan yn ei wylltineb.