Newyddion

Ffrydio byw - yn Oes Fictoria

15 Medi 2020

Does dim byd tebyg i'r teimlad o brofi perfformiad byw yn y theatr, ond yn y cyfnod digyffelyb hwn mae nifer ohonom wedi bod yn gwneud yn fawr o'r cyfleoedd i wylio cantorion, offerynwyr a dawnswyr yn perfformio ar ffrydiau byw o bedwar ban byd. Er mor arloesol ac o flaen yr oes y gall hyn ymddangos, cyflwynwyd y byd i ffrydio byw bron i 150 o flynyddoedd yn ôl. Cyn apiau fel Facebook, Instagram, YouTube a Periscope, roedd pobl yn defynddio’r théâtrophone.

Yn 1881 roedd Paris yn cynnal yr Arddangosiad Rhyngwladol Trydan cyntaf yn y Palais de l'Industrie ar y Champs-Élysées. Creodd yr arddangosfa dipyn o wefr, gyda phobl yn heidio i ‘Ddinas y Goleuni’ er mwyn gweld rhyfeddodau trydan, o'r bwlb oedd newydd ei ddyfeisio gan gan Edison i ffôn Alexander Graham Bell. Cafodd y théâtrophone ei ddyfeisio gan Clément Ader, sy'n cael ei gofio'n bennaf am ei waith gydag awyrennau ac fel arloeswr o fewn maes beicio yn Ffrainc. Yn ôl y New Scientist, ei ddyfais ef oedd y sain stereo cyntaf i gael ei darlledu erioed. Gallai ymwelwyr godi'r théâtrophone a chlywed perfformiad byw o'r Paris Opéra, ddwy filltir i ffwrdd.

Cafodd y théâtrophone, a gwasanaethau tebyg, eu mabwysiadu gan uchelfannau'r gymdeithas ledled Ewrop. Rhoddodd yr artist celfyddyd pop Belle Époque, Jules Chéret, anfarwoldeb i'r théâtrophone mewn lithograff yn cynnwys merch mewn ffrog felen, yn gwenu wrth iddi wrando ar berfformiad. Y tu ôl iddi, mae ciw o gwsmeriaid eraill yn aros am eu tro i'w gweld yn cilio i'r pellter. Roedd tafarndai ar eu hennill yn ariannol oherwydd y poblogrwydd, wrth annog pobl i wrando ar berfformiadau i gychwyn diwrnod o ddathlu, gan ragflaenu tafarndai'n dangos gemau chwaraeon ar y teledu heddiw. Yn y DU byddai grwpiau o ferched a dynion cefnog yn ymgynnull mewn parlyrau i brofi cerddoriaeth fyw, ac roedd gan hyd yn oed y Frenhines Victoria danysgrifiad! Un arall o gefnogwyr enwocaf y théâtrophone oedd Marcel Proust.

Yn ôl bywgraffiad William C Carter: 'Cadwodd Proust y Théâtrophone wrth ochr ei wely, a phob nos pan oedd yr opera honno'n cael ei pherfformio (Pelléas et Mélisande), gosododd ei glust wrth ymyl y trwmped du a chael ei swyno gan gerddoriaeth Debussy.'

Yn 1913, trosglwyddodd y cwmni Théâtrophone Faust y Paris Opéra yn uniongyrchol i danysgrifwyr yr Electrophone ar draws y Sianel, tra gwnaeth y cwmni Prydeinig ymateb â detholiad o Tosca o Covent Garden. Cyn hir, roedd darllediadau o operâu cyflawn a chyngherddau uchafbwyntiau opera yn cael eu perfformio ledled America hefyd, rhai ohonynt wedi'u cyflwyno gan ganwr 25 oed o'r enw Milton Cross, a ddaeth yn enwog fel cyflwynydd darllediadau’r Met yn ddiweddarach. Y darllediad opera byw cyflawn cyntaf oedd Hänsel und Gretel, o lwyfan y Metropolitan Opera, Efrog Newydd, ar ddiwrnod Nadolig, 1931. Erbyn hyn, mae'r gyfres gerddoriaeth glasurol hwyaf yn hanes darlledu America wedi dod â byd opera i filiynau o gartrefi.

Daeth y New York Metropolitan Opera ag opera'n gadarn i'r 21ain ganrif hefyd. Yn 2006/2007, cychwynnwyd y gwaith o drosglwyddo perfformiadau Met HD yn fyw yn uniongyrchol i sgriniau theatrau ffilmiau yng Ngogledd America ac Ewrop, a dilynwyd eu harweiniad gan gwmnïau opera eraill, gan gynnwys San Francisco Opera, La Scala Milan a'r Royal Opera House, Covent Garden. Yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd y Royal Opera House ei Dymor Sinema Hydref/Gaeaf 2020, gan gynnwys Manon Lescaut a Macbeth a fydd yn cael eu darlledu ledled y byd yn ddiweddarach eleni. Tan hynny mae digon o amser o hyd i wylio ein cynhyrchiad 2017 o Le Vin herbé  gan Frank Martin ar OperaVision.