Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r manteision sy’n perthyn i gerddoriaeth ac i gymuned yn fwy amlwg nag erioed o’r blaen. Amcangyfrifir bod 71,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef effeithiau hirdymor yn sgil y Coronafeirws, felly mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi creu cymuned gerddorol newydd i gefnogi pobl yng Nghymru sy’n dioddef o ddiffyg anadl, straen neu orbryder oherwydd COVID hir.
Gan gydnabod yr effaith ddifrifol a gwanychol y gall Covid hir ei gael ar iechyd, crëwyd Lles gyda WNO mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf Morgannwg. Caiff y rhaglen grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy gyfrwng Cronfa Iechyd a Llesiant y Loteri. Fe’i cynlluniwyd gyda gweithwyr meddygol proffesiynol o’r GIG, mewn ymgynghoriad ag English National Opera (ENO), ac mae wedi’i seilio ar brosiect ‘Breathe’ gwreiddiol ENO.
Emma Flatley, WNO Director of Programmes and EngagementThe response to the programme has been amazing and we expect the formal evaluation results due shortly to support this. There are many life-affirming stories and testimonials from the people who’ve taken part. People have also avoided urgent trips to hospital by using the techniques and advice given.
Lansiwyd y rhaglen beilot gyntaf ym mis Tachwedd 2021 a rhoddwyd ail raglen beilot, a oedd yn para 6 wythnos, ar waith ym mis Ionawr 2022. Cynhaliwyd y sesiynau yn y Gymraeg a’r Saesneg ac fe’u cyflwynwyd trwy Zoom er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau daearyddol. Yn sgil hyn, bu modd i bobl a oedd yn dioddef o orflinder fynychu’r sesiynau heb orfod teithio.
Wellness with WNO participantHumming averted the emergency trip to hospital. I tried the [WNO] breathing exercises first when my oxygen went dangerously low. Within half an hour I tried humming and got out of the danger zone avoiding hospital admission. And the cost of that was averted. Knowing that I could do that myself was amazing.
Ym mis Mehefin 2021, lansiodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Cymru raglen o’r enw ‘Adferiad’. Mae’r rhaglen hon wedi’i seilio ar Lwybr Cymunedol All Wales ac mae’n cynnig pecyn addysg ac adnoddau cynhwysfawr i weithwyr iechyd proffesiynol ar gyfer rheoli COVID hir trwy GIG Cymru. Erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad arall o £5m mewn gwasanaethau adfer ar ôl COVID hir yng Nghymru.
Eluned Morgan, Health MinisterInnovative programmes like the one being run by WNO show significant benefits to health and wellbeing and I hope this funding will create opportunities for patients to take up other programmes like this to support their recovery and rehabilitation
Ar ôl cael ymateb eithriadol o gadarnhaol, yn gorfforol ac yn seicolegol, bydd Lles gyda WNO yn cael ei ymestyn yn ystod 2022/23 er mwyn cyrraedd ychwaneg o bobl mewn byrddau iechyd eraill yng Nghymru.
Wellness with WNO participantThis programme has a magical sort of transformation…. you can't put a price on that. It’s the first thing that has given me hope for my breathing. This programme is special. It gives us hope. It gives you something to make you look forward.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch ebost at wellness@wno.org.uk