Newyddion

Llythyr agored i Gyngor Celfyddydau Lloegr gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus

1 Mawrth 2024

Annwyl Gydweithwyr yng Nghyngor Celfyddydau Lloegr, 

Rwy’n Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru, rôl yr wyf yn teimlo’n freintiedig i fod ynddi ac yr wyf yn teimlo rheidrwydd, ynghyd â’m cydweithwyr nodedig Syr Bryn Terfel, Carlo Rizzi, Syr David Pountney, Geraint Talfan Davies, Y Fonesig Judith Weir, Mathew Prichard, Natalya Romaniw, yr Athro Paul Mealor a Rebecca Evans i wneud y datganiad canlynol o ganlyniad i’r toriadau ariannol enfawr sy’n niweidiol i fodolaeth WNO. 

  • Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cael ei ystyried yn eang fel un o’r cwmnïau opera mwyaf dylanwadol a diddorol yn Ewrop gydag enw da yn rhyngwladol, hanes gwych o gyflawniadau, a’r safonau artistig uchaf. Fel Cwmni Opera Cenedlaethol, mae wedi darparu gwasanaeth diwylliannol a chymunedol unigryw i'r wlad gyfan. Mae WNO yn ased ac yn drysor i’r Deyrnas Unedig gyfan, a dylid ei dehongli felly. 
  • Mae'r cyllid y mae WNO yn ei dderbyn ar y cyd gan ACE a Chyngor Celfyddydau Cymru yn galluogi'r Cwmni i weithio ar y lefel uchaf o ragoriaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r trefniant ariannu ar y cyd yma wedi para am 40 mlynedd, ac mae’n sicrhau bod gan Gymru a Lloegr fynediad at gwmni opera mawr o’r radd flaenaf am ffracsiwn o’r gost i bob gwlad. Fodd bynnag, bydd WNO yn ei chael yn anodd cynnal ei hunaniaeth a safonau Opera Cenedlaethol ar gyllideb nad yw hyd yn oed yn ddigonol ar gyfer theatr ranbarthol fach, o gymharu â gwledydd Ewropeaidd eraill. Bydd y cwmni’n dioddef oherwydd y gostyngiad anochel mewn teitlau a pherfformiadau opera dros y blynyddoedd nesaf. Mae’n debyg i ofyn i dîm pêl-droed yr Uwch Gynghrair chwarae ac ennill gemau gyda 6 chwaraewr yn lle 11! Mae uniondeb y cytundeb cyd-ariannu bob amser wedi’i gydnabod fel cryfder mawr ac felly mae’r penderfyniad i dorri ar lefel mor sylweddol heb ymgynghori yn ymddangos yn amharchus ac yn ddi-hid. 
  • Mae WNO yn rhan hanfodol o ecoleg cerddoriaeth y DU gan ddarparu rhaglenni ymgysylltu a hyfforddi proffesiynol ar gyfer conservatoires yn Lloegr, cyfleoedd artistiaid cyswllt, gwaith addysg a phrosiectau i blant, a chael effaith gymdeithasol gadarnhaol trwy ein gwaith cymunedol helaeth mewn meysydd sydd fel arfer yn cael eu tanwasanaethu. Fel y manylodd yr Arglwydd Murphy arno yn ystod dadl yn Nhŷ’r Arglwyddi ym mis Chwefror, dim ond pan fyddwch yn lleihau perfformiadau a phan ddaw cynhyrchu i ben mewn gwahanol rannau o’r wlad y byddwch yn gwneud opera yn elitaidd, ac nid oes angen i hynny fod. Dylai opera fod i bawb. 
  • Nid difyrru yn unig yw pwrpas opera, ond adrodd storiau pwysig a hyd yn oed anodd, gofyn cwestiynau a chwilio am atebion. Felly, mae opera yn wasanaeth cyhoeddus pwysig sy’n mynd ymhell y tu hwnt i’r gymuned artistig, gan gyfoethogi a gwella bywyd y gymdeithas. Mae’r cyfuniad o gerddoriaeth a geiriau, o glywed a gweld, yn ei wneud yn ffurf unigryw ar gelfyddyd sy’n uno pobl a chymunedau. 
  • Mae Cerddorfa WNO wedi cael llwyddiant rhyngwladol mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys perfformio cyngerdd agoriadol Gŵyl Wanwyn Prague yn 2023 i groeso brwd a pherfformio yn y digwyddiad agoriadol yn World Expo Dubai yn 2021. Mae hyn yn cadarnhau rôl a phwysigrwydd Opera Cenedlaethol Cymru ym mywyd diwylliannol yr 21ain ganrif a gallu’r Cwmni i gynrychioli Cymru a’r Deyrnas Unedig ar y llwyfan rhyngwladol. 

  • Rydym yn deall yn iawn resymeg agenda “lefelu i fyny” y llywodraeth ac yn ystyried WNO fel cwmni opera sy’n perfformio i ddinasoedd rhanbarthol, fel un sy’n cyflawni’n union yr hyn sy’n ofynnol gan y polisi hwn. Fodd bynnag, mae hon yn dasg hynod o anodd gyda gostyngiad mor fawr mewn cyllid. 
  • Yr hyn a’m denodd, arweinydd Tsiec sy’n teithio’r byd a cherddorion eraill (cantorion, arweinwyr, cyfarwyddwyr) o safon ryngwladol i weithio gyda WNO yw ansawdd ac ehangder y gwaith y mae’r cwmni hwn wedi’i gyrraedd a’r cariad a’r angerdd am opera yr ydym yn eu rhannu gyda chynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig. 

Rydym yn deall fod Cyngor Celfyddydau Lloegr yn cynnal adolygiad o opera yn y Deyrnas Unedig, a gobeithiwn y caiff y llythyr hwn ei ystyried yn gyfraniad pwysig at y broses hon. Mae’n sicr yn gyfnod heriol i gwmnïau opera edrych ar ffyrdd newydd o ymgysylltu, ond er mwyn gwneud hyn mae angen iddynt gael adnoddau priodol. 

O ganlyniad i’r toriad ariannol hwn, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn ei chael ei hun ar groesffordd wrth iddo lywio drwy’r cyfnod anodd hwn a’i nod yw cadw holl elfennau unigryw ac uchelgais artistig cwmni teithiol cenedlaethol a rhyngwladol gyda pherfformiadau o safon fyd-eang tra’n cynnig a chyflwyno profiadau opera eithriadol a dylanwadol yn ein cymunedau. 

Os bydd ein cenhedlaeth ni’n methu ag amddiffyn y trysor hwn, ac yn gadael iddo ddiflannu, byddai’n anodd i genedlaethau’r dyfodol ddod o hyd i unrhyw gyfiawnhad drosto. 

Tomáš Hanus 
Arweinydd a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO 

Sir Bryn Terfel CBE
Carlo Rizzi Ordine della Stella d’ Italia (OSI)
Sir David Pountney CBE
Geraint Talfan Davies OBE, DL
Dame Judith Weir DBE
Mathew Prichard CBE, DL
Natalya Romaniw
Professor Paul Mealor LVO, OStJ
Rebecca Evans CBE