Newyddion

Ludwig van Beethoven, 'The Master'

26 Mehefin 2020

Ganwyd Ludwig Van Beethoven, y dyn sy'n gysgod dros gerddoriaeth gyfan y 19eg ganrif, yn Bonn, yr Almaen yn 1770. Roedd ei dad, Johann, cerddor lleol, yn breuddwydio am fowldio ei fab i fod y Mozart nesaf. Er ei fod yn eithriadol o dalentog, yn dysgu'r piano, organ a ffidil yn ifanc iawn, nid oedd Beethoven erioed wedi dangos nodweddion trawiadol Mozart. Roedd ei fywyd teuluol yn anhrefnus; roedd ei dad yn alcoholig ac yn ei fwlio i ymarfer am oriau hir, a bu farw ei fam, Maria, yn sydyn pan oedd ond yn 17 oed. Wedi'r drasiedi honno, dirywiodd sefyllfa ei deulu hyd yn oed yn fwy ac achosodd hyn iddo adael ei gartref yn 1790 a theithio i Fienna i astudio cyfansoddi.

Croesawodd y gymdeithas Fienaidd Beethoven fel etifedd Mozart, yn gyntaf fel pianydd ac yna fel cyfansoddwr.

Gyda'i fyddardod yn gwaethygu, ac yntau'n cydnabod nad oedd modd gwella hynny, cytunodd ei hun na allai fyth fod yn berfformiwr cyhoeddus gwych ac yn hytrach, penderfynodd ymroi i gyfansoddi. Yn Fienna, daeth Beethoven yn gyfansoddwr llawrydd, a’r cyntaf mewn hanes. Er ei fod yn gyfeillgar gyda llawer o aristocratiaid - gan gynnwys Iarll Waldstein a'r Archddug Rudolph - ac yn fodlon derbyn cefnogaeth ariannol, bu'n gwrthryfela yn erbyn system nawddogaeth y 18fed ganrif, lle'r oedd cerddor wedi'i glymu i wasanaeth cyflogwr.

Wedi'i addysgu gan Haydn, ei ysbrydoli gan J. S. Bach a Mozart, a'i annog gan dywysogion, siapiwyd cerddoriaeth Beethoven gan rai pobl bwysig a dylanwadol iawn.

Ni amharwyd ar lwyddiannau Beethoven yn sgil colli ei glyw, yn hytrach, enillodd gyfoeth a grym. Roedd ei fyddardod, mewn sawl ffordd, yn symbol o'r hyn a welai fel cymdeithas a garcharwyd ac roedd yn awyddus i ryddhau dyn rhag gormes. Nid yw ei Symffoni Rhif 3, yr Eroica, yn bortread o fywyd arwr sy'n ymladd dros ryddid yn unig, ond y brwydrau yn erbyn adfyd hefyd. Mae'r ddwy thema hon yn codi dro ar ôl tro yn ei waith – Symffoni Rhif 5, gyda'i hergyd agoriadol enwog o dynged, y Symffoni Rhif 7 gofidus, wedi ei hysgrifennu yn ystod carwriaeth ofer. Ac wrth gwrs Symffoni Rhif 9, gyda'i hergyd emosiynol enfawr a'i gweledigaeth epig ar gyfer y dyfodol.

Fel cyfansoddwr, gweithiodd Beethoven gydag anhawster, gan ddiwygio ei frasluniau gwreiddiol yn ddiflino nes ei fod yn fodlon. Cafodd ei unig opera, Fidelio neu Leonore fel y'i gelwid yn wreiddiol, ei chyfansoddi dros gyfnod o bron i 10 mlynedd, o'r methiant cyntaf yn 1805 i fersiwn derfynol 1814, cafodd y ddrama ramantaidd hon ei diwygio sawl gwaith.

Nid oes modd gorbwysleisio effaith Beethoven ar ddiwylliant y gorllewin - yn Dduw ymhlith cyfansoddwyr, gwnaeth Beethoven gerddoriaeth glasurol yn berthnasol i'r oes fodern ar ei liwt ei hun, gyda gweithiau sy'n dal i swnio'n newydd hyd heddiw. Roedd yn gyfrifol am y pontio rhwng y cyfnod Clasurol a'r oes Ramantaidd, gan ysbrydoli a dylanwadu ar y Rhamantwyr a'i dilynodd - Mahler, Brahms, Schoenberg.

Bu Beethoven farw yn 56 ar 26 Mawrth 1827 yn Fienna; ond byddai ei gerddoriaeth yn byw yn llawer hirach. Mae ei ddylanwad ar y 190 mlynedd diwethaf o gerddoriaeth yn ddihafal.

A dyna ni, stori Ludwig van Beethoven, y dyn a oedd yn naturiol yn ffafrio nodau cerddoriaeth dros eiriau.