Newyddion

Making Mimì your own

27 Hydref 2022

Mae La bohème yn un o’r operâu a berfformir amlaf yn y byd. Mae cynhyrchiad bythol Opera Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i'r llwyfan gyda chast llawn sêr, fel rhan o'n rhaglen ar gyfer Tymor yr Hydref 2022. Ond, gyda chymaint o gynyrchiadau a pherfformiadau’n cael eu cynnal ar draws y byd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, sut mae’n bosib creu cynhyrchiad arbennig a rhoi gwedd unigryw ar y cymeriadau hynod boblogaidd hyn? Eisteddom â’n dwy Mimì, Anush Hovhannisyan ac Elin Pritchard, i glywed rhagor am eu hysbrydoliaeth, proses greadigol a sut aethant ati i wneud Mimì yn gwbl unigryw iddynt.

O ble cawsoch eich ysbrydoliaeth pan oeddech yn paratoi ar gyfer rôl Mimì?

Elin: Teimlais fy mod angen dinoethi Mimì’n llwyr a dechrau o’r cychwyn cyntaf gyda’r cymeriad hyfryd hwn. Gwrandewais ar nifer o recordiadau, darllenais lawer am yr opera a Puccini a’i fywyd tuag adeg cyfansoddi La bohèmea dechreuais astudio pobl wrth gael coffi neu ginio i weld a oedd ganddynt unrhyw rai o nodweddion personol Mimì ynddynt.

Anush: Diolch i ddawn athrylith Puccini mae popeth yn y gerddoriaeth, ni fu’n rhaid i mi dyrchu’n ddwfn i ganfod cymeriad Mimì. Mae’n bleser pur i allu gweithio ar ddarn sydd wedi’i lunio mor wych.


Sut aethoch ati i geisio gwneud Mimì yn gwbl unigryw i chi?

Anush: Rwyf wedi perfformio rhan Musetta mewn nifer o gynyrchiadau, ac rwyf wrth fy modd â hi. Pan ddechreuais weithio ar Mimì, plannais ran o Musetta ym Mimì. Rwy’n credu bod mwy o nodweddion tebyg rhwng y ddau brif gymeriad benywaidd nag a welir ar yr olwg gyntaf. Mae’n rhaid i’r ddwy ohonynt gymryd gofal o’u hunain ac maent yn ceisio mwynhau bywyd o fewn ffrâm y gymdeithas ar y pryd. Maent yn llawn hwyl ac antur, ond mae’r ddwy’n gymeriadau didwyll ac aeddfed o’u cymharu â’r bechgyn sydd i raddau’n bodoli mewn byd afreal, dychmygol.

Elin: Mae Mimì yn anodd ei chwarae, mae’n hawdd mynd dros ben llestri gyda hi rhwng mynd i’r afael â’r testun, cerddoriaeth, natur gorfforol, perthnasoedd ag eraill ar y llwyfan, ac wrth gwrs, y canu. Gyda lwc, rwy’n gallu ymgorffori perfformiad gonest ohoni.

Beth sy’n gwneud Mimì mor hoffus?

Elin: Mae hi’n onest a gofalgar. Mae hi wastad yno i bawb arall.

Anush: Mae hi’n llawn hwyl, yn benderfynol, ac yn anturus. Er ei bod wrth ei bodd yn cael hwyl, mae hi’n ffyddlon ac ymroddgar. Hi yw’r optimist llwyr sy’n ei gwneud yn gymeriad cadarn iawn.


A oes unrhyw beth yng nghymeriad Mimì sy’n berthnasol i chi?

Anush: Mae’r awch am fywyd a’r ffordd mae hi’n cyd-dynnu â phobl yn debyg iawn i mi. Bydd y rhai sy’n cael gwylio’r sioe yn gweld gwir gyfeillgarwch ar y llwyfan ymysg y cast. Cawsom gymaint o sbort yn ystod yr ymarferion, i’r fath raddau bod yn rhaid ein gwahanu ar adegau.

Elin: Mae yna rywbeth am Mimì sy’n bersonol iawn i mi. Oddi ar y llwyfan a gartref rwy’n dawel a hoffwn feddwl fy mod yn ofalgar am eraill o’m hamgylch. Nid wyf yn credu y byddwn o anghenraid yn syrthio mewn cariad gyda Rodolfo fel y mae hi, fodd bynnag teimlaf fy mod yn gyson, ystyriol, gofalgar, a diymhongar fel Mimì.

Mwynhewch ddehongliadau Anush ac Elin o Mimì yn ein cynhyrchiad bendigedig o La bohèmegan Puccini y Tymor hwn, yn dod i Plymouth, Birmingham, Southampton, a Rhydychen tan 3 Rhagfyr.