I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Presgripsiynu Cymdeithasol 2025, sy’n amlygu’r pwysigrwydd o gysylltu pobl i adnoddau a gweithgareddau cymunedol i wella iechyd a llesiant, rydym yn rhannu manylion am lwyddiant ein peilot, Lles gydag WNO: Rhaglen i Reoli Poen Parhaus.
Mae’r rhaglen ganu ac anadlu chwe wythnos wedi dangos gwelliannau sylweddol i gyfranogwyr sy’n byw â phoen parhaus. Mae’r adroddiad gwerthuso gan Milestone Tweed yn datgelu ystadegau syfrdanol:
- 67% o welliant mewn poen ac anesmwythdra
- 67% o welliant mewn gorbryder ac iselder
- 69% ag ansawdd bywyd gwell o ran iechyd
Yr hyn sy’n gwneud y canlyniadau hyn yn drawiadol iawn yw cyfradd ymgysylltu uchel y rhaglen, gyda 95% o’r cyfranogwyr yn parhau i ddefnyddio’r technegau ac ymarferion anadlu ar ôl cwblhau’r rhaglen.
Dywed June Evans, cyfranogwr y rhaglen o Bowys: ‘Mae’r rhaglen wirioneddol wedi newid fy mywyd. Yn byw â phoen a gorflinder parhaus, rwyf bob amser yn teimlo’n well ar ôl mynychu sesiwn. Mae’r ymarferion ysgafn a’r canu’n tynnu sylw fy meddwl o’r poen a’r straen, ac mae’r buddion yn parhau am ddiwrnodau.’
Mae’r dysteb hon yn pwysleisio’r hyn mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi cydnabod yn gynyddol: gall ymyriadau creadigol ategu dulliau meddygol traddodiadol yn sylweddol, gan gynnig ffyrdd ychwanegol o leddfu poen. Mae effeithlonrwydd cost y rhaglen yn nodedig dros ben. Mae bob sesiwn yn costio tua £12 yr awr i bob person, tra mae Ffisiotherapydd Band 7 y GIG yng Ngwasanaethau Poen Parhaus yn costio £34.30.
Mae’r model darpariaeth canolog hwn yn cael gwared ar yr angen i fyrddau iechyd unigol sefydlu rhaglenni costus, a hynny wrth gydymffurfio â chanllaw NICE ac achosi arbedion sylweddol.

Dywedodd Owen Hughes, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Poen Parhaus, GIG Cymru: Bu’r bartneriaeth hon gyda WNO yn hynod o lwyddiannus. Mae’r adborth gan gyfranogwyr wedi bod yn wych gydag amryw yn dweud wrthym fod cymryd rhan yn y rhaglen wedi newid eu bywydau.
Nid yn unig maent wedi mwynhau dysgu sut i ddefnyddio anadl a chanu i reoli eu poen, ond hefyd fe lwyddodd i roi hyder iddynt gymdeithasu unwaith eto. Dywedodd amryw ohonynt eu bod wedi mynd ymlaen i ymuno â chorau ac mae rhai yn dymuno mynd yn ôl i weithio. Mae grym cerddoriaeth a chân wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau.’
Mae llwyddiant cynllun peilot Rhaglen Boen Parhaus yn ychwanegu at ein rhaglen Lles gydag WNO bresennol ar gyfer unigolion sy’n byw â COVID HIR, syddbellach yn ehangu ei chyrhaeddiad i gynnwys cyflyrau hirdymor eraill megis ME/CFS a ffibromyalgia, sy’n cyd-fynd â rhaglen Adferiad Llywodraeth Cymru.
Yn ychwanegol, rydym yn datblygu mentrau presgripsiynu cymdeithasol newydd, gan gynnwys:
- Rhaglen i fyfyrwyr ysgolion uwchradd sy’n profi gorbryder a diffyg hyder
- Partneriaeth â Chanolfan Canser Felindre i gefnogi diffyg anadl
- Rhaglen beilot i unigolion mewn Gofal Cefnogol, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Un o brif gryfderau’r rhaglen yw ei hygyrchedd. Mae’r sesiynau’n cael eu cyflwyno ar-lein yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan sicrhau bod unigolion yn gallu ymuno o gysur eu cartrefi i gefnogi eu symptomau ymhellach, a hynny heb i leoliad daearyddol fod yn rhwystr.
Amlygodd Emma Flatley, Cyfarwyddwr Rhaglenni WNO ac Ymgysylltu, botensial y rhaglen: ‘Rydym yn falch o weld effaith fuddiol y Rhaglen Boen Parhaus Lles gydag WNO yn yr adroddiad hwn. Mae cyfraddau ymgysylltu uchel y rhaglen, yn ogystal â’r effeithlonrwydd cost a chanlyniadau trawsnewidiol ar iechyd hirdymor unigolion yn amlygu potensial y rhaglen fel ymyriad gwerthfawr.’
Y Diwrnod Cenedlaethol Presgripsiynu Cymdeithasol hwn, rydym yn falch o amlygu’r rhaglen hon sy’n taro deuddeg o ran helpu pobl ledled Cymru, gan ddangos bod y feddyginiaeth fwyaf effeithiol weithiau’n dod drwy gyfrwng pŵer trawsnewidiol cerddoriaeth, y gymuned, a mynegiant creadigol.