
Pleser yw cyflwyno’r Athro Medwin Hughes fel Cadeirydd newydd Opera Cenedlaethol Cymru (WNO). Ac yntau’n arweinydd addysg uwch yng Nghymru ac yn un o gefnogwyr tanbaid y Gymraeg a diwylliant Cymru, mae Medwin yn meddu ar doreth o brofiad mewn llywodraethu ac arwain trawsnewidiol.
Wrth i WNO gychwyn ar bennod newydd a chyffrous yn ei hanes, yn barod ar gyfer dathlu 80 mlynedd ers ei sefydlu yn 2026, gofynnwyd i Medwin drafod ei weledigaeth ar gyfer y Cwmni, ei gariad gydol oes tuag at opera, a’r hyn y mae arwain y Cwmni i’r dyfodol yn ei olygu iddo.
Beth mae bod yn Gadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru yn ei olygu i chi?
Mae’n fraint ac yn gyfrifoldeb. Opera Cenedlaethol Cymru yw un o brif sefydliadau diwylliannol Cymru – mae’n adrodd straeon sy’n codi uwchlaw iaith, hanes a daearyddiaeth. Mae gallu chwarae rhan fechan mewn partneriaeth gyda dau Gyfarwyddwr Cyffredinol newydd – sef Sarah Crabtree ac Adele Thomas – yn golygu llawer iawn.
Byddaf yn canolbwyntio ar stiwardiaeth: gan helpu i sicrhau y bydd y Cwmni yn cynnal ei draddodiad balch, ond y bydd hefyd yn ffynnu mewn byd cyfnewidiol. I mi, mae a wnelo hyn â chryfhau gwytnwch y Cwmni, gan ddyfnhau ei ymgysylltiad â chymunedau a chan sicrhau y bydd yn parhau i adlewyrchu a dathlu hunaniaeth a bywyd cyfoethog Cymru.
Beth yw eich perthynas bersonol gydag opera? A oes gennych hoff opera, neu a oes un o berfformiadau WNO yn aros yn eich cof?
Ers fy nghyfnod yn y brifysgol pan arferwn sefyll y tu allan i Covent Garden yn ciwio am oriau i gael tocynnau myfyrwyr, rydw i wastad wedi mwynhau’r ffurf hon ar gelfyddyd. I mi, mae opera bob amser yn cynrychioli’r ffordd fwyaf aruchel o adrodd straeon lle mae geiriau, cerddoriaeth a theatr yn cyfuno i wefreiddio cynulleidfaoedd.
Mae gennyf gof byw o’r tro cyntaf y deuthum i gysylltiad ag WNO. Llwyddodd graddfa eithriadol y cynyrchiadau, grym emosiynol y gerddoriaeth, ac ymrwymiad y perfformwyr i greu argraff barhaol arnaf. Dros y blynyddoedd, mae gweithiau fel Carmen a The Magic Flute wedi aros yn fy nghof, nid yn unig oherwydd eu harddwch ond oherwydd y ffordd y maent yn cysylltu ar draws diwylliannau a chenedlaethau. Ond yn fwy nag unrhyw opera unigol, gallu WNO i gyflwyno perfformiadau o’r radd flaenaf i gynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt sy’n taro tant gyda mi’n bersonol.
Rydych wedi arwain prosiectau trawsnewidiol mawr mewn addysg uwch – sut y bydd y profiad hwnnw’n llywio eich dull fel Cadeirydd WNO?
Er mwyn trawsnewid, rhaid cael pwrpas clir, dewrder i addasu a sensitifrwydd tuag at bobl. Mewn addysg uwch, rydw i wedi gweithio trwy gyfuniadau cymhleth, newidiadau sefydliadol a fframweithiau llywodraethu newydd. Mae hyn wedi dangos imi pa mor bwysig yw pennu strategaeth glir, meithrin ymddiriedaeth a gwneud penderfyniadau uchelgeisiol a chynaliadwy. Mae a wnelo hyn â meithrin cymunedau ymarfer cryf.
Gwelaf nifer o gyfatebiaethau ag WNO: rhaid inni anrhydeddu traddodiad, ond hefyd rhaid inni arloesi; rhaid inni gynnal rhagoriaeth, ond hefyd rhaid inni ehangu mynediad; a rhaid inni sicrhau bod dulliau llywodraethu a gwytnwch ariannol yn ategu ein gweledigaeth artistig. Does neb yn honni mai gwaith hawdd neu syml fydd cyflawni hyn, ond mae pawb yn cytuno mai tasg werth chweil fydd cynnal a datblygu’r cwmni gwych hwn ar gyfer y dyfodol.
A chithau’n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, pa mor bwysig yw’r Gymraeg a diwylliant Cymru i hunaniaeth a dyfodol WNO?
Mae’n gwbl ganolog. Nid cwmni teithiol yn unig yw WNO –WNO yw cwmni opera cenedlaethol Cymru. Law yn llaw â hyn, daw rhwymedigaeth i adlewyrchu iaith, diwylliant a chymunedau’r genedl hon.
Mae’r Gymraeg yn dreftadaeth fyw; yn hytrach na’i chyfyngu i weithredoedd arwynebol neu symbolaidd yn unig, dylid ei hymwreiddio’n naturiol yn hunaniaeth a repertoire y Cwmni. Ar yr un pryd, rhaid i WNO gynrychioli amrywiaeth y Gymru fodern: cynhwysol, eangfrydig, amlieithog, a hyderus ar lwyfan y byd.
Ein tasg yw adrodd hanesion gonest ynglŷn â phwy ydym fel pobl a chenedl, gan ragori mewn rhagoriaeth artistig. Rhaid inni fod yn feiddgar, yn hyderus ac yn arloesol wrth guradu diwylliant. Dyna sut y gallwn greu celfyddyd o’r radd flaenaf ac adrodd straeon llawn grym.
Sut y gall opera barhau i fod yn berthnasol ac yn hygyrch i gynulleidfaoedd amrywiol ledled Cymru a thu hwnt?
Mae creu cysylltiad yn hollbwysig yn hyn o beth. Rhaid i opera barhau i adrodd straeon sy’n berthnasol i gynulleidfaoedd y dydd sydd ohoni, pa un a wneir hynny trwy ailddehongli’r clasuron, trwy gomisiynu gweithiau newydd neu trwy gyrraedd ysgolion, canolfannau cymunedol a phlatfformau digidol.
Yn ei hanfod, mae hygyrchedd yn golygu chwalu rhwystrau – rhwystrau ariannol, daearyddol, ieithyddol a chymdeithasol. Mae teithio yn hanfodol, ond mae addysg ac allgymorth yn hollbwysig hefyd, gan roi cyfle i bobl o bob oed a chefndir brofi opera am y tro cyntaf.
Mae opera yn rhywbeth i bawb; ni ddylid cyfyngu opera i un neuadd, un iaith nac un gynulleidfa.
Beth sy’n eich cyffroi fwyaf ynglŷn â gweithio gyda’r tîm arwain ac aelodau newydd y bwrdd?
Mae angerdd, creadigrwydd ac ymdeimlad o genhadaeth y tîm yn destun cyffro mawr imi. O ran arweinyddiaeth, nid un unigolyn sy’n bwysig: mae a wnelo arweinyddiaeth â chydweithredu, ymddiriedaeth a gweledigaeth gyffredin.
Yn WNO, ceir criw eithriadol o artistiaid, gweinyddwyr ac ymddiriedolwyr, ac maent yn cynnig sgiliau a phrofiadau gwahanol. Rydym mor ffodus bod Adele a Sarah wrth y llyw. Fy rôl i yw eu cynorthwyo, eu herio a’u grymuso fel y bydd modd inni fynd ati gyda’n gilydd i greu Cwmni a fydd yn ardderchog yn artistig, ac yn gadarn yn ariannol, ynghyd â Chwmni a fydd yn esgor ar effaith gymdeithasol fawr. Yr hyn sy’n fy nghyffroi fwyaf yw’r cyfle i siapio dyfodol lle bydd WNO yn parhau i ysbrydoli yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol.