Ers 2001, mae'r Mental Health Foundation wedi arwain Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, gyda’r nod o ddod â’r DU ynghyd i ganolbwyntio ar weithio tuag at iechyd meddwl da i bawb. Eleni, cynhelir yr wythnos o ddydd Llun 12fed i ddydd Sul 18fed Mai a’r thema yw ‘cymuned’, rhywbeth sy’n ganolog i’n gwaith ni yma yn Opera Cenedlaethol Cymru.

Mental Health Foundation, 2025Rydym eisiau defnyddio’r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i ddathlu grym a phwysigrwydd cymuned.
Mae bod yn rhan o gymuned gadarnhaol a diogel yn hanfodol i'n hiechyd meddwl a’n llesiant. Rydym yn ffynnu pan mae gennym gysylltiadau cryf ag eraill a chymunedau cefnogol sy'n ein hatgoffa ni nad ydym ar ein pennau ein hunain. Gall cymunedau roi ymdeimlad o berthyn, diogelwch, cefnogaeth ar adegau heriol, a rhoi ymdeimlad o bwrpas i ni.
Mae Cerddoriaeth yng Nghymru, yn arbennig canu, yn rhan sylweddol o hunaniaeth genedlaethol Gymreig, gyda chyfeiriadau at Gymru yn aml fel “gwlad y gân”. Mae cymunedau wrth wraidd y dreftadaeth hon, o’r pyllau glo i ochrau caeau chwaraeon.
Mae gan WNO ddwy raglen gymunedol sydd â’r nod o wella iechyd meddwl a chorfforol cyfranogwyr drwy rym cerddoriaeth a chymuned.

Llesiant gyda WNO
Ers 2021 mae’r rhaglen Llesiant gyda WNO wedi bod yn cefnogi pobl sy’n byw gyda COVID Hir ac, yn fwy diweddar, cyflyrau eraill sy’n cyfyngu ar egni ac ôl-feirysol fel M.E./CFS a ffibromyalgia. Mae'r rhaglen ar-lein yn galluogi cyfranogwyr i ymuno â WNO mewn amgylchedd anffurfiol a hamddenol i archwilio technegau perfformio a all fod o gymorth i reoli symptomau yn y dyfodol.
Wedi cwblhau’r rhaglen 6-wythnos gychwynnol, gall cyfranogwyr barhau i weithio gyda WNO drwy’r sesiynau galw heibio bob pythefnos.
Drwy ddefnyddio ymarferion anadlu a thechnegau canu i gyfrannu tuag at well rheolaeth anadl, gweithrediad yr ysgyfaint, cylchrediad ac ystum, mewn amgylchedd llawen a chymdeithasol, nod WNO yw cysylltu cyfranogwyr â’u cyfoedion.
Yn ogystal â’r buddion corfforol, mae’r adborth yn canolbwyntio’n bennaf ar fuddion iechyd meddwl oherwydd creu cymuned gynhwysol, gefnogol, ddiogel heb feirniadu.
Cyfranogwyr Llesiant gyda WNOMae’n adnodd hynod bwerus. Gall canu godi calon. Mae yna fuddion iechyd meddwl a chorfforol. Nid oes llawer o bethau y gallwch eu cyflawni ar y soffa gyda’ch gliniadur sy’n rhoi’r ddau i chi.
Mae’n cynnig cymaint o werth yn emosiynol, corfforol a chymunedol. Mae’n helpu gyda theimlo’n ynysig. Budd annisgwyl oedd gweld sut oedd eraill yn ymateb. Rydych yn gweld pobl yn ei chael hi’n anodd, ond roedd mynychwyr yn annog ei gilydd.
Mae fy rhwystredigaeth yn diflannu pan wyf mewn ystafell yn llawn pobl sy’n fy neall.

Côr Cysur
Rhaglen gymunedol arall gan WNO yw Côr Cysur WNO. Prosiect sy’n pontio cenedlaethau yw Côr Cysur, gyda’r bwriad o gyfoethogi bywydau’r rhai sy’n byw hefo dementia, eu teuluoedd a’u ffrindiau. Ar hyn o bryd mae yna gorau yn Aberdaugleddau, Llanelli a Llandeilo. Mae’r gymuned gefnogol hon yn cynnig cyfle wythnosol i aelodau gymdeithasu wyneb yn wyneb, ailymweld ag atgofion melys ac archwilio ystod o gerddoriaeth mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol.
Cyfranogwr Côr Cysur WNOMae’n amgylchedd cynnes a chefnogol, rhywbeth i’w drysori.
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglenni hyn, gan gynnwys cymhwysedd a’r broses gyfeirio, cysylltwch â’r tîm Rhaglenni ac Ymgysylltu: wellness@wno.org.uk.