Newyddion

Butterfly: metamorffosis clasur oesol

4 Tachwedd 2021

Fe gafodd Madam Butterfly ei hysgrifennu ar ddechrau'r ugeinfed ganrif a'i pherfformio am y tro cyntaf yn 1904 yn La Scala, Milan. Yn 1905 yn y Royal Opera House y cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn y DU. Perfformiodd WNO yr opera am y tro cyntaf ar 29 Ebrill 1948 yn Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd. Ers hynny, mae opera Puccini wedi cadw ei lle yn gyson ymhlith y deg opera a berfformir fwyaf yn fyd-eang. Mae Madam Butterfly yn glasur sy'n dod â deigryn i'r llygad, a gyda cherddoriaeth Puccini'n darparu'r effaith emosiynol, mae'n un o'r operâu mwyaf angerddol, torcalonnus a dylanwadol.


Ysbrydolwyd Puccini gan ddrama un act David Belasco yr aeth i'w gweld yn y West End yn Llundain ym mis Mehefin 1900. Yn dwyn y teitl Madam Butterfly: A Tragedy of Japan, roedd yn seiliedig ar stori fer John Luther Long, awdur o America, a oedd hefyd yn dwyn y teitl Madame Butterfly, a gyhoeddwyd yn 1898. Eto, roedd hon yn seiliedig ar waith arall, sef Madame Chrysanthème – nofel Ffrangeg gan Pierre Loti a gyhoeddwyd yn 1887.


Er hyn, nid fersiwn Puccini oedd cam olaf metamorffosis Madame Butterfly. Mae'r ffilmiau a gafodd eu dylanwadu gan y stori yn cynnwys Madame Butterfly o 1932 gyda Cary Grant yn chwarae rhan Pinkerton - fersiwn ffilm o ddrama Belasco a oedd yn cynnwys cerddoriaeth Puccini yn y sgôr. Mae'r clasur o'r 1980au, Fatal Attraction gyda Michael Douglas a Glenn Close, yn cynnwys detholiadau o opera Puccini yn ogystal â nifer o gyfeiriadau ati. Yn 1993 fe ffilmiodd David Cronenberg fersiwn o'r ddrama gan David Henry Hwang, M Butterfly, gyda Jeremy Irons ifanc ynddi, sy'n adrodd stori am gariad a bradychu yn Tsieina yn y 1960au, gyda thro annisgwyl nad yw'n rhan o stori glasurol Butterfly.


Mae dylanwad y stori'n parhau ar lwyfannau eraill hefyd, gyda ballets llwyddiannus yn cael eu creu i adrodd y stori - cynhyrchodd David Nixon fersiwn ar gyfer Northern Ballet yn 2002. Cafwyd addasiad cynharach gan The Australian Ballet yn 1995 a grëwyd gan Stanton Welch. Hwn oedd y ballet cyntaf ganddo, a hynny pan oedd yn 25 mlwydd oed. Datblygodd ddiddordeb mewn coreograffi tra'r oedd yn gweithio i The Australian Opera. Llwybr perffaith ar gyfer trawsnewidiad i Butterfly, siwr o fod?


Un o'r trawsnewidiadau mwyaf enwog yw'r un yn sioe gerdd Cameron Mackintosh o'r 1980au, Miss Saigon - cynhyrchiad llwyfan arall sydd wedi parhau'n boblogaidd. Gyda'r digwyddiadau wedi eu symud o Japan i Fietnam yn y 1970au ar ddiwedd y rhyfel, mae'n adrodd stori am garwriaeth drychinebus yn dilyn 'bargen' a drefnwyd rhwng dau ddyn.


Mae'r opera wedi gadael ei hôl ar y byd ffasiwn hyd yn oed - roedd casgliad Couture Gwanwyn/Haf 2007 John Galliano ar gyfer Dior yn cyfuno ‘New Look’ eiconig y label gydag ysbrydoliaeth o'r opera. Gan dalu teyrnged go iawn i'r opera, fe gerddodd y modelau i lawr y 'catwalk' tra'r oedd sgôr Puccini'n chwarae. Ond un rhyfeddach fyth, efallai, yw'r albwm Pinkerton a ryddhawyd yn 1996 gan Weezer, band roc amgen o America. Roedd yr albwm yn seiliedig yn fras ar yr opera, ac yn ôl y sôn byddai'r prif leisydd yn gwrando arni bob nos ar ôl eu sioeau byw. Yna, ceir y sengl Madam Butterfly o ddechrau'r 80au gan y seren pync-roc Malcolm McLaren a oedd yn cynnwys yr aria Un bel dì o fewn y trac.


Nid yw stori am dor-calon byth yn colli ei hapêl, a bydd dylanwad stori fel un Butterfly bob amser yn creu argraff. Mae'n gallu, ac mae wedi, trawsffurfio i gyd-fynd ag unrhyw gyfnod ac unrhyw ran o'r byd - mae'n stori sy'n taro tant ac yn gwrthsefyll treigl amser. Beth am ddod i weld cynhyrchiad newydd WNO i'ch atgoffa eich hun o'i stori dorcalonnus?