Newyddion

Migrations – Yr ysgrifenwyr y tu ôl i'r llenni

20 Mehefin 2022

O awduron poblogaidd i feirdd o fri, a chyfarwyddwr opera adnabyddus, cafodd ein hopera epig newydd, ei hysgrifennu gan grŵp o unigolion talentog o gefndiroedd amrywiol. Gadewch i ni ddod i adnabod yr awduron sydd y tu ôl i'r straeon hyn sy'n procio'r meddwl.

Edson Burton

Mae Dr Edson Burton yn ddyn sy'n gallu troi ei law at unrhyw beth; mae'n academydd, yn fardd, yn ogystal ag yn ysgrifennydd ar gyfer radio, drama, y llwyfan a'r sgrin. Mae ei arbenigeddau academaidd yn cynnwys Hil a Chynrychiolaeth, Bryste a'r Fasnach Gaethwasiaeth Drawsatlantig (i enwi rhai yn unig), ac felly mae ei waith ysgrifenedig ar gyfer Migrations yn cynnig mewnwelediad diddorol ac addysgol. Edson yw cyd-awdur y stori Flight, Death or Fog yn Migrations, sy'n adrodd hanes Pero, caethwas Affricanaidd Caribïaidd ym Mryste yn yr 18fed ganrif. 

Miles Chambers

Yn gweithio ochr yn ochr ag Edson i ysgrifennu Flight, Death or Fog, mae Miles Chambers. Yn bendant, mae gan y Bardd Perfformio rhyngwladol, Pencampwr Slam, Dramodydd a Bardd Dinas cyntaf Bryste, ddawn hyfryd gyda geiriau. Mae barddoniaeth Miles yn cael ei harddangos ledled Bryste ac mae hyd yn oed wedi'i cherfio ar waliau metel y theatr weithredol barhaus hynaf yn y byd Saesneg, Bristol Old Vic.

Eric Ngalle Charles

Wedi'i eni yng Nghameroon ond yn byw yng Nghymru, mae'r awdur, bardd a dramodydd, Eric Ngalle Charles, yn un o ‘ysgrifenwyr BAME gorau'r DU’. Gyda llais theatraidd unigryw, enillodd Eric Ddyfarniad Creadigol Cymru 2017/2018 am ei waith yn mynd i'r afael â phynciau mudo, trawma a'r cof. Mae'r arbenigedd hwn wedi llywio ei ddarn Birds; rhan o'r opera sy'n cynrychioli mudo fel symudiad naturiol sydd wedi bodoli ers cychwyn amser. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Llenyddiaeth Cymru.

Syr David Pountney

Mae gan David Pountney, cyn-Gyfarwyddwr Artistig WNO, dros 45 mlynedd o brofiad ym myd opera; o ysgrifennu libretos arloesol i gyfarwyddo darnau heriol. Mae David wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau opera gorau'r byd ac yn 2019, cafodd ei urddo'n farchog am ei wasanaethau i opera. Yn ogystal â chyfarwyddo Migrations, mae David hefyd wedi cyfansoddi'r libreto ar gyfer y Mayflower; hanes grŵp o ymsefydlwyr a hwyliodd i America 400 mlynedd yn ôl.

Shreya Sen-Handley

Gyda'i phrofiad sylweddol, mae'r awdures lwyddiannus, Shreya Sen-Handley, yn cyfrannu’n rheolaidd fel colofnydd ar gyfer The Guardian a National Geographic ac yn addysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caergrawnt. Gan ychwanegu at ei rhestr syfrdanol o lwyddiannau, mae Migrations yn golygu mai Shreya yw'r fenyw gyntaf o Dde Asia i ysgrifennu opera ryngwladol. Mae ei rhan hi o'r opera, This is the Life! yn cynnig golwg ddoniol ar brofiadau meddygon Indiaidd yn y GIG.

Sarah Woods

Mae Sarah Woods yn ddramodydd, actifydd ac addysgwr sy'n credu y gall, ac y dylai'r celfyddydau gynrychioli trawstoriad o bobl, adlewyrchu cymunedau, a chaniatáu i bobl weld eu hunain a phobl eraill hefyd. Ar gyfer Migrations, mae Sarah wedi ysgrifennu libreto ar gyfer Treaty 6 - hanes cymuned sy'n ymladd i achub ei thir yn erbyn dadleoli a gwladychu mudwyr Prydeinig a The English Lesson –  Hanes grŵp o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dod ynghyd i ddysgu Saesneg.


Dewch i brofi straeon anhygoel y chwe awdur yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 29 Mehefin, 1 a 2 Gorffennaf, gyda pherfformiadau ychwanegol ar daith ledled Cymru a Lloegr yn ystod Tymor yr Hydref 2022. 



Y gerddoriaeth

Y storiau

Yr ysgrifennu


Pa fath o gerddoriaeth sydd yn Migrations?

The Stories of Migrations