Newyddion

Mozart - un o ffigurau mwyaf trasig hanes

25 Awst 2020

Ganwyd Wolfgang Amadeus Mozart ar 27 Ionawr 1756 yn Salzburg, Awstria. Er nad oedd yn cael ei werthfawrogi fel cyfansoddwr yn ystod ei oes, ef yw cyfansoddwr gorau ac enwocaf y cyfnod clasurol a'r athrylith cerddorol mwyaf dawnus erioed.

Nid oedd Mozart fel unrhyw ryfeddod arall. Nid dawn sylweddol yn unig oedd ganddo, roedd yn athrylith. Yn bedair oed, gallai ddysgu cân ar y piano mewn dim ond 30 munud. Dysgodd ei hun i ganu'r harpsicord, yr organ a'r ffidil hefyd. Rhaid cyfaddef mai ei dad oedd un o'r athrawon ffidil gorau ei oes, ond serch hynny, roedd Mozart yn gallu hau'r hedyn a'i dyfu ar ei ben ei hun.

Dechreuodd chwarae'n gyhoeddus yn chwech oed. Roedd yn teithio, neu'n hytrach, yn cael ei roi ar daith, yn ddi-baid. Treuliodd 14 o'i 36 mlynedd oddi cartref. Roedd y perfformiwr ifanc yn llonni cynulleidfaoedd bonheddig, a oedd yn ei wobrwyo â geiriau teg yn hytrach nag arian. Ni fyddai Mozart wedi bod y cyfansoddwr y daeth i fod heb brofi cerddoriaeth cyfansoddwyr blaenllaw diwedd yr 18fed ganrif yn bersonol yn ystod ei deithiau.

Ar ôl y teithiau o amgylch yr Eidal, dychwelodd Mozart i Salzburg a dechreuodd gyfansoddi ar gyfer y Tywysog-Archesgob Hieronymus von Colloredo, ond nid oedd y gwaith yn heriol. Yn 1778, cafodd Mozart ei anfon i Baris gan ei dad uchelgeisiol, gyda'r gorchymyn i 'roi dy hun yng nghwmni'r mawrion'. Ond nawr, yn 22 oed, nid oedd Mozart yr un bachgen rhyfeddol a oedd yn treulio amser â Marie Antoinette. Roedd yn gerddor ac yn oedolyn, nad oedd â llawer o Ffrangeg.

Wedi'i adael allan o fyd y boneddigion ac yn rhedeg allan o arian, roedd Mozart a'i fam, a oedd gydag ef, yn byw mewn gwesty oer a oedd wedi mynd â'i ben iddo. Aeth ei fam yn wael, a bu farw ym mis Gorffennaf 1778. Ar ben ei hun ac yn rhy ofnus i ddweud wrth ei dad beth oedd wedi digwydd, gofynnodd Mozart i'w ffrind, Abbé Bullinger, ddweud y newyddion wrtho. Penderfynodd Leopold Mozart feio ei fab am ei marwolaeth.

Yn 26 oed, priododd Mozart â Constanze Weber, ar ôl iddo gymryd ffansi at ei chwaer, Aloysia, rai blynyddoedd yn flaenorol. Yn yr un flwyddyn, mae ei opera newydd, Die Entfuhrung aus dem Serail, yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf ac mae'n dechrau ysgrifennu chwe Phedwarawd Llinynnol Haydn Rhifau 14-20, wedi'u neilltuo i'r dyn ei hun, ei ffrind Joseph Haydn.

Ysgrifennwyd llawer o ddarnau gorau Mozart oherwydd angen ariannol, neu oherwydd swydd benodol a oedd ganddo ar adeg benodol, yn hytrach nag oherwydd awydd i fod yn greadigol er mwyn bod y greadigol. Roedd yr un mor gyfforddus yn ysgrifennu symffonïau ag y roedd yn cyfansoddi operâu ac roedd yn rhagori ar greu campweithiau corawl, yn union fel y gwnaeth pan ddaeth i ysgrifennu concertos piano. Daeth Mozart i fod yn hoff o'r clarinét, yn ei newid yn aml ar gyfer yr obo. Roedd hefyd yn hoff iawn o soniarusrwydd y corn Ffrengig.

Beth sy'n gwneud gwaith Mozart mor chwyldroadol? Nododd Johannes Brahms 'burdeb' eithriadol ei gerddoriaeth. I'r cyfansoddwr Americanaidd Leonard Bernstein, roedd gwaith Mozart wedi'i 'ymdrochi mewn gliter a allai fod wedi dod o'r 18fed ganrif yn unig, o'r oes honno o olau, ysgafnder a goleuni... drosto mae'r cyfan yn hofran yr ysbryd gorau sef ysbryd Mozart - ysbryd tosturi, cariad hollfyd, hyd yn oed dioddefaint - ysbryd nad yw'n adnabod unrhyw oes, sy'n perthyn i bob oes.

Bu farw Mozart yn oriau mân y bore ar 5 Rhagfyr 1791 ac mae wedi'i gladdu ychydig y tu allan i Fienna mewn bedd heb ei farcio.