Newyddion

Cowbois, Gwenyn a Gwrachod: cerddoriaeth i'r rhai bychain

10 Awst 2020

Mae'r rhyfeddod o fod yn blentyn yn golygu nad oes gennych hen syniadau am opera yn rhywbeth crand, neu gerddoriaeth glasurol yn rhy heriol; yn hytrach, rydych yn gweld pethau fel maen nhw'n ymddangos ar y wyneb. Os yw cân yn efelychu sŵn gwenyn, rydych yn cael eich plesio, ac yn mwynhau os yw cerddoriaeth yn gwneud i chi fod eisiau symud eich traed bychain i fyny ac i lawr - gwych. Ni fyddwch yn galw eich hun yn aficionado am eich bod chi'n bump oed ac nid ydych yn gwybod beth yw ystyr y gair (os ydych chi'n gwybod rydym yn llawn edmygedd.) Yn Opera Cenedlaethol Cymru, rydym yn canmol dyfeisgarwch plant bychain ac yn ymddiried yn eu syniad o gerddoriaeth.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn adnabod y brawddegau agoriadol enwog hyn i The Young Person's Guide to the Orchestra, gan Benjamin Britten, ‘In order to show you how a big symphony orchestra is put together, Benjamin Britten has written a big piece of music…’ Cafodd y darn hwn ei ganmol gan gyfansoddwyr megis Leonard Bernstein, a ddechreuodd Young People's Concerts yn y New York Philharmonic, sef y gyfres hynaf o gyngherddau cerddoriaeth glasurol i deuluoedd yn y byd hyd heddiw. Ond nid oes rhaid i chi fynd i gyngerdd yn y Phil i gyflwyno eich plant i fyd gogoneddus cerddoriaeth glasurol.

Gallwch greu eich cyngherddau eich hun yn eich cegin; y cyfan sydd ei angen arnoch yw seinydd a ffôn, ac ychydig o botiau a sosbenni fel drymiau. Y ffordd orau i gyflwyno'r rhai ieuengaf i gerddoriaeth glasurol, yw defnyddio'r math sy'n adrodd stori megis Agorawd William Tell, lle gallwch ddychmygu eich hun fel cowboi ar gefn ceffyl yn carlamu ymhell i'r machlud, yn enwedig petaent yn eich gweld chi'n smalio carlamu ar geffyl wedi'i wneud o goes brwsh. Ac wrth siarad am goesau brwsh, mae'r gân Hocus Pocus o Hansel and Gretel hefyd yn ddewis gwych o fyd yr opera, neu os yw fymryn yn rhy arswydus, bydd y Can-Can yn sicr yn codi gwên ar eich wyneb neu goes yn yr awyr.

Os oes gennych ddawnsiwr brwdfrydig yn y teulu, bydd The Nutcracker neu Dance of the Sugar Plum Fairy gan Tchaikovsky yn cynnig ysbrydoliaeth ar ffurf bale i fireinio'r troelliadau. Os oes gennych ganwr brwdfrydig yn eich plith, Carmen, Bizet yw'r sioe ar ei gyfer, gyda chaneuon mawr megis Habanera; ond rhaid cofio am y corws o blant sy'n coroni'r cyfan, yn dynwared y milwyr i alaw fachog Avec la garde montante. Ac mae pwyntiau ychwanegol am ddysgu Ffrangeg! Felly, beth bynnag sy'n diddori'r rhai bychain, mae rhywbeth ar gael i bawb mewn cerddoriaeth glasurol, ac mae Chwarae Opera WNO yn darparu gemau a gweithgareddau sy'n ei wneud yn fan cychwyn delfrydol.