Newyddion

Traddodiadau cerddorol y Pasg

6 Ebrill 2023

Mae'r Pasg yn adeg i fynd ar helfeydd wyau Pasg, bwyta bara croglith i frecwast a mwynhau cinio dydd Sul, ond mae hefyd yn gyfnod o fyfyrio cerddorol a chrefyddol ledled y byd. Dewch inni ystyried rhai o'r darnau cerddoriaeth mwyaf adnabyddus sy'n cael eu perfformio a'u dathlu yn draddodiadol yr adeg hon o'r flwyddyn. 

Cerddoriaeth y Dioddefaint

Mae'r Dioddefaint yn cyfeirio at y dyddiau olaf yn arwain at farwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist. Mae efengylau Mathew, Marc, Luc ac Ioan oll yn adrodd hanes y Dioddefaint, ac mae eu testunau wedi cael eu defnyddio fel sail ar gyfer sawl dehongliad cerddorol o'r stori. Yr enwocaf o'r rhain yw'r Dioddefaint yn ôl Sant Ioan a'r Dioddefaint yn ôl Sant Mathew gan J S Bach.

Gwaith ar gyfer unawdwyr, côr a cherddorfa yw'r Dioddefaint yn ôl Sant Ioan, ac fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf ar Ddydd Gwener y Groglith 1724. Yr oratorio yw stori'r Dioddefaint wedi'i chyflwyno gan yr Efengylwr (Sant Ioan), cyn trosglwyddo i rannau Iesu, Peilat a Pedr, gyda chymorth gan y côr.


Stabat Mater

Emyn o'r 13eg ganrif yw Stabat Mater.

Mae gosodiad hyfryd a phoblogaidd Giovanni Battista Pergolesi o Stabat Mater yn cyflwyno stori galar a dioddefaint y Forwyn Fair yn ystod croeshoeliad ei mab. Caiff ei berfformio'n rheolaidd yn ystod cyfnod y Pasg gan ei fod yn myfyrio ar erchyllter y croeshoelio. Ar hyd y canrifoedd, mae nifer fawr o gyfansoddwyr wedi gosod y geiriau i gerddoriaeth, ond mae gosodiad Pergolesi o'r emyn o'r 13eg ganrif yn un ar gyfer soprano, alto, llinynnau a basso continuo, a gyfansoddwyd yn ystod blynyddoedd olaf bywyd y cyfansoddwr.


Messiah

Perfformiwyd Messiah gan Handel am y tro cyntaf yn Nulyn ym mis Ebrill 1742, ac mae'n un o'r oratorios a berfformir amlaf ledled y byd. Er mai'r bwriad gwreiddiol oedd iddo gael ei berfformio yn ystod y Pasg, erbyn heddiw mae'r darn wedi dod yn ffefryn adeg y Nadolig. Mae'n seiliedig ar destunau o sawl rhan o'r Beibl sy'n adrodd stori geni, bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist. Yn Eglwys St Ann yn Nulyn, lle perfformiwyd Messiah am y tro cyntaf, bydd y darn yn cael ei berfformio adeg y Pasg fel traddodiad blynyddol i gofio ei hanes arbennig.


Miserere mei

Miserere mei yw testun Lladin Salm 51 o'r Hen Destament. Caiff ei berfformio yn ystod y Grawys a'r Pasg. Mae'r salm yn erfyn ar Dduw am faddeuant.

Mae'n debyg mai Miserere Gregorio Allegri yw'r gosodiad enwocaf o'r testun. Fe'i cyfansoddwyd ar ddechrau'r 17eg ganrif ar gyfer gwasanaethau'r Capel Sistinaidd (yn Ninas y Fatican, Rhufain) yn ystod Wythnos y Grog, sef yr wythnos yn arwain at Sul y Pasg. Oherwydd bod y darn mor hyfryd, gosododd y Pab waharddiad rhag ysgrifennu'r gerddoriaeth, er mwyn ei chadw o fewn Rhufain. Ganrif a hanner yn ddiweddarach, pan oedd Mozart yn ifanc, fe glywodd y darn yn y Fatican a llwyddodd i'w ysgrifennu o'i gof. 


Crucifixus

Dyma ddewis poblogaidd mewn lleoliadau crefyddol adeg y Pasg. Daw testun y Crucifixus (sy'n disgrifio croeshoeliad Crist) o adran Credo ('Credaf') yr Offeren Ladin.

Erbyn hyn, cyfansoddiad enwocaf Antonio Lotti yw ei Crucifixus ar gyfer wyth llais, o'i Missa Sancti Christophori. Mae caniadau'r darnau corawl unigol yn adeiladu'n raddol gyda gohiriannau harmonig cyfoethog, yn cyfleu poen a dioddefaint y croeshoelio. Bellach, caiff ei berfformio fel darn annibynnol mewn gwasanaethau litwrgïaidd ac mae'n enwog fel darn unigol.


Sut bynnag y byddwch yn dathlu eleni, hoffai WNO ddymuno amser hapus a heddychlon ichi dros y Pasg.