Newyddion

Opera yn yr Afal Mawr

11 Ebrill 2023

Yn 1986, aeth New York City Opera ati i lwyfannu Candide yn Lincoln Centre, a chafodd y perfformiad ei ddarlledu'n fyw ledled Gogledd America. Mae Candide wedi dychwelyd i Efrog Newydd sawl gwaith ers hynny, a nawr, bydd cynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o glasur Bernstein yn mynd ar daith i leoliadau ledled Cymru a Lloegr dros yr haf.

Nid opera yn unig sy'n serennu yn Efrog Newydd, mae sîn gerddoriaeth gyfoethog ac amrywiol i'w mwynhau ar draws y ddinas. Efrog Newydd yw un o ddinasoedd mwyaf diwylliannol amrywiol y byd, gyda'r boblogaeth fwyaf yn y UDA a thua 800 o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad yno. Mae ei phoblogaeth amrywiol wedi'i rhannu mewn pum bwrdeistref, Manhattan, Brooklyn, y Bronx, Queens, a Staten Island, a phob un yn cynnig gwahanol nodweddion ac atyniadau. Symudodd nifer o Wyddelod, Eidalwyr, Iddewon, pobl o Asia ac Americanwyr Sbaenaidd i Efrog Newydd drwy gydol yr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif, gan ddylanwadu'n sylweddol ar ei diwylliant a'i gwedd.

Mae'r diwylliannau hyn wedi golygu bod Efrog Newydd wedi datblygu sîn gerddoriaeth hynod eclectig; dechreuodd Hip Hop a Rap yn y Bronx yn wreiddiol, a daeth Jazz yn boblogaidd yn Harlem, Manhattan. Cafodd Disgo, Pync-roc a Metel Trwm eu geni yn y ddinas, sy'n gartref i rai o leoliadau cerddoriaeth mwyaf enwog y byd. O'r Bowery Ballroom, a elwir y 'clwb gorau yn America' yn ôl Rolling Stone, i gartref y Rockettes, Radio City Music Hall, mae cerddoriaeth fyw yn nodwedd gyson ledled Efrog Newydd.

Mae’r Brooklyn Academy of Music yn ganolfan aml-gelfyddydol sydd wedi bod yn gartref i artistiaid, cynulleidfaoedd a syniadau mentrus, yn ymgysylltu â chymunedau lleol a byd-eang, ers dros 150 o flynyddoedd. Perfformiodd Opera Cenedlaethol Cymru Falstaff gan Verdi yma yn 1989 ac roedd ein cyn-noddwr, y Dywysoges Diana, yn bresennol. Cafodd yr ymweliad ei gynnwys yn y bedwaredd gyfres o The Crown.

Mae Madison Square Garden, arena dan do aml-ddefnydd, yn gartref i dimau hoci iâ y New York Rangers a phêl-fasged y New York Knicks. Mae hefyd wedi croesawu rhai o gerddorion enwocaf hanes, gan gynnwys Elvis Presley, The Rolling Stones, Madonna, Elton John, Bruce Springsteen, Taylor Swift a Luke Bryan. Ym mis Ionawr 2014, daeth Billy Joel y fasnachfraint gerddoriaeth gyntaf erioed i'r lleoliad, yn chwarae un cyngerdd bob mis ac, ym mis Gorffennaf 2015, chwaraeodd 'y Piano Man' ei 65fed sioe, gan osod record newydd ar gyfer y nifer mwyaf o berfformiadau gan unrhyw artist yn MSG. Yn ddiweddar, Harry Styles oedd yr artist cyntaf i werthu pob tocyn i 15 perfformiad yn olynol.

Mae Carnegie Hall yn dirnod hanesyddol cenedlaethol sy'n cynnwys tri lleoliad; Stern Auditorium / Perelman Stage, Zankel Hall ac Weill Recital Hall yn ogystal â chefnogi gweithgareddau addysgiadol ledled Efrog Newydd drwy ei Weill Music Institute. Ers ei agor yn 1891, mae Carnegie Hall wedi croesawu rhai o oreuon y byd cerddorol, o Tchaikovsky, Dvořák, Mahler, a Bartók i George Gershwin, Billie Holiday, Benny Goodman, Judy Garland, a The Beatles.

Y lle gorau i ddod o hyd i sioeau cerdd yn Efrog Newydd yw'r Theater District wedi'i lleoli ar draws Broadway a Times Square, mae'r ardal yn gartref i dros 30 o theatrau a lleoliadau cerdd, gan gynnwys Lyric Theatre, Winter Garden Theatre a Gershwin Theatre. Yn ogystal, ceir y Majestic Theatre, sef cartref sioe gerdd hiraf Broadway, The Phantom of the Opera, ers 1988.

Mae'r Metropolitan Opera House wedi sefyll o fewn Lincoln Center, campws 16 erw, sy'n gartref i un ar ddeg o sefydliadau celfyddydol amrywiol, ers 1966. Ers ei sefydlu yn 1883, mae'r Met wedi cynnal y dangosiad cyntaf yn yr UDA o Die Meistersinger von Nürnberg gan Wagner, yn ogystal â 32 perfformiad cyntaf y byd, gan gynnwys La Fanciulla del West ac Il Trittico gan Puccini, Königskinder gan Humperdinck, The Great Gatsby gan John Harbison, a'r clytwaith Baróc, The Enchanted Island, wedi'i dyfeisio gan Jeremy Sams, a cherddoriaeth gan Handel, Vivaldi, Rameau, ymysg eraill.