Newyddion

Y GIG yn 75

5 Gorffennaf 2023

Mae 5 Gorffennaf 2023 yn nodi tri chwarter canmlwyddiant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ers y cychwyn un mae’n GIG wedi bod yn arloesol ac ymaddasol wrth fodloni anghenion pob cenhedlaeth ddilynol, gan sicrhau bod y cleifion wrth graidd yr holl wasanaeth.

Wedi’i sefydlu gan Aneurin Bevan, Aelod Seneddol Cymreig, ar 5 Gorffennaf 1948, ac wedi ei ysbrydoli gan Gymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar, y GIG oedd y system iechyd gynhwysol cyntaf i fod ar gael i bawb, a hynny am ddim ar adeg ei ddarparu. Mae’r egwyddorion hynny yn parhau i fod yr un mor werthfawr a pherthnasol heddiw, ag yr oeddent bryd hynny.

Yn ystod y pandemig, bu i’r GIG arddangos ei wydnwch yn ystod amser anodd iawn. Roedd yn arweinydd blaenllaw o ran ymchwil, a llwyddodd i ddarparu rhaglen frechu lwyddiannus dros ben o Fis Rhagfyr 2020. Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, ei chynllun uchelgeisiol er mwyn helpu’r GIG yng Nghymru i adfer o’r pandemig, trawsffurfio gofal wedi'i gynllunio a lleihau amseroedd aros yng Nghymru.

Wedi’i darparu mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd GIG Cymru, mae’r WNO wedi cynnal rhaglen ganu ac anadlu ar gyfer pobl sydd â COVID Hir.

Mae Lles gyda WNO yn rhaglen chwe wythnos sy’n cefnogi pobl sy’n fyr eu gwynt ac yn orbryderus ac sydd wedi parhau i ddioddef am gyfnod hirach ar ôl symptomau cychwynnol feirws COVID-19.

Cyflwynir y rhaglen, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2021, mewn gosodiad anffurfiol, hamddenol lle mae cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i archwilio technegau canu a pherfformio a ddefnyddir yn Opera Cenedlaethol Cymru, gyda’r nod o gefnogi gwell rheolaeth anadl, gweithrediad yr ysgyfaint, cylchrediad ac ystum.  Hyd yma, mae dros 100 o gyfranogwyr wedi cwblhau’r rhaglen, gyda nifer ohonynt hefyd yn parhau â’u cynnydd drwy fynychu sesiynau galw heibio sy’n cael eu cynnig yn hirdymor gan y Cwmni.

Bu Lles gyda WNO o gymorth i wella rhannu profiadau a chysylltiadau ag eraill, gyda chyfranogwyr yn gwerthfawrogi cymorth rhwng cyfoedion â’i gilydd. Y canlyniadau iechyd corfforol mwyaf amlwg oedd anadlu’n well, a dywedodd 94% o’r cyfranogwyr bod y technegau anadlu’n effeithiol. Roedd newid i iechyd meddwl yn cynnwys emosiynau cadarnhaol cynyddol a hyder a llai o orbryder, iselder, gorfeddwl a phanig. Roedd sawl cyfranogwr wedi penderfynu ymuno â chôr ac ail-ddechrau canu karaoke ar ôl eu hamser ar y rhaglen.

Newidiodd pob agwedd ar fy mywyd ar ôl COVID. Roedd tasgau dydd i ddydd yn cymryd mwy o amser i’w cwblhau gan fod angen i mi orffwys yn rheolaidd. Yn gorfforol, cefais ymarferion anadlu ymarferol o’r rhaglen Lles gyda WNO i leddfu tyndra yn y cyhyrau o amgylch fy asennau. Yn emosiynol, roedd y cymorth a gefais yn gwneud i mi sylweddoli nad oeddwn ar ben fy hun. Yn ystod y sesiynau, roedd fy ngofidiau’n diflannu ohona i a chefais bleser pur o gymryd rhan mewn canu. Mae'n ffordd wych o godi’r galon

Gabby Curly, Cyfranogwr Lles gydag WNO

Ym Mis Ionawr eleni, cyhoeddwyd y byddai Lles gyda WNO yn ehangu ledled Cymru a bydd saith bwrdd iechyd yng Nghymru nawr yn gallu cynnig y gwasanaeth adsefydlu i gleifion

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

‘Mae hi wedi bod yn galonogol gweld llwyddiant y prosiect Llesiant gydag WNO a’r buddion sylweddol mae wedi ei ddarparu ar gyfer iechyd a llesiant pobl. Rwy’n falch bod y rhaglen hon am gael ei ehangu fel bod hyd yn oed mwy o bobl yn gallu cymryd rhan yn y prosiect i gefnogi eu hadferiad a’u hadsefydliad’

Ni fyddai'r rhaglen Lles gyda WNO yn bodoli heb gymorth a mewnbwn anhygoel staff y GIG ledled Cymru.

Dywedodd April Heade, Cynhyrchydd Celfyddydau ac Iechyd WNO:

‘Rydym ni yn WNO yn teimlo’n hynod lwcus o gael gweithio mewn partneriaeth agos gyda chlinigwyr sy’n cynnig tosturi, caredigrwydd ac arbenigedd diddiwedd – gan ein galluogi i ategu i waith eu gwasanaethau drwy ein hymyrraeth anghlinigol sy’n cefnogi cleifion gyda’u symptomau, creu hapusrwydd, a hyd yn oed helpu pobl i osgoi bod angen triniaeth ysbyty.

Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i’r holl staff GIG a fu’n cefnogi ein rhaglen Dewch i Ganu yn yr Ysbyty, mewn wardiau ysbyty ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd. Mae’n bleser mawr gennym gael darparu profiad cerddorol wythnosol i’r unigolion sydd ar arhosiad hir dymor, ac yn bwysig, y staff sy’n gofalu amdanynt.

Edrychaf ymlaen at weld sut fydd ein partneriaeth gyda’r GIG yn datblygu, er mwyn i ni allu parhau i gefnogi iechyd a lles cymaint o bobl â phosib gyda’n gilydd, a hynny ar draws cymaint o gymunedau â phosib. Bwriadwn barhau i ganu gyda’n gilydd am flynyddoedd i ddod!’