Y penwythnos hwn (dydd Sad 22 Medi) mae WNO yn falch iawn o fod yn rhan o Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru unwaith eto, gan berfformio yn y gadeirlan hyfryd yn Llanelwy.
Am yr ail flwyddyn, mae WNO wedi creu Corws Gŵyl i berfformio ochr yn ochr ag unawdwyr WNO a NEW Sinfonia. Mae gan Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru hanes hir a llwyddiannus o gael Corws Gŵyl wrth ei chalon. Fel rhan o raglen Ieuenctid a Chymunedau Gogledd Cymru Opera Cenedlaethol Cymru, mae partneriaeth barhaus a llewyrchus wedi’i sefydlu rhwng GGRGC, WNO a Venue Cymru i greu’r ail Gorws Gŵyl Cymunedol hwn. Yn 2017, perfformiodd y corws yng nghyngerdd A Magnificat Journey yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru ochr yn ochr â NEW Sinfonia, Côr Siambr Canolfan Gerdd William Mathias ac unawdwyr WNO, dan arweinyddiaeth Robert Guy.
Eleni mae’r rhaglen yn cynnwys Materna Requiem gan Rebecca Dale (sioe agoriadol fyd-eang), Requiem gan Mozart a Duruflé (detholiadau), Spiegel im Spiegel (Arvo Pärt) a 4’33’ (John Cage). Bydd y Corws Gŵyl a NEW Sinfonia yn cael cwmni’r unawdwyr Katy Thomson, Rebecca Afonwy-Jones, Robert Lewis a Julian Close, a’r Arweinydd Robert Guy.
Daeth Rebecca Afonwy-Jones yn Artist Cyswllt yn Opera Cenedlaethol Cymru ar gyfer Tymor 2013/2014 lle roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys Anna Kennedy Maria Stuarda, gyda pherfformiadau yn y Tŷ Opera Brenhinol, Oman a’r 4edd Wyryf Noeth/Merch Wael Moses und Aron, gyda pherfformiadau yn y Royal Opera House, Covent Garden. Wedi hynny, mae hi wedi perfformio rhagor o rolau gyda WNO, gan gynnwys unawdydd Sleeping Mat–Ballad gan Judith Weir (comisiwn arbennig), Flora La traviata, Cardotwraig Sweeney Todd, Lola Cavalleria rusticana a Suzuki Madam Butterfly gyda pherfformiadau yn Dubai Opera – ac mae hi ar hyn o bryd yn ymddangos yn ein cynhyrchiad o La traviata sy’n mynd ar daith yr Hydref hwn.
Mae Katy wrth ei bodd ei bod yn dychwelyd i berfformio gyda WNO a NEW Sinfonia yn dilyn ei rôl fel unawdydd soprano yn A Magnificat Journey yn GGRGC 2017; ymunodd Robert â chast 2013 o gynhyrchiad canmlwyddiant Opera Ieuenctid WNO o Paul Bunyan gan Benjamin Britten a dychwelodd yn 2015 fel aelod tenor o ensemble wyth rhan yn yr opera Gymraeg Gair ar Gnawd gan Pwyll ap Siôn; dychwelodd Julian i Opera Cenedlaethol Cymru yn 2017 i roi portread o Don Juan yn From the House of the Dead a’n cynyrchiadau o Der Rosenkavalier a Khovanshchina.
Mae’r holl docynnau ar gyfer y cyngerdd hwn bellach wedi’u gwerthu.