Newyddion

Agor opera i gyfarwyddwyr ifanc

21 Ionawr 2021

Mae Opera Cenedlaethol Cymru'n falch o fod wedi cael ei ddewis fel un o'r 50 sefydliad celfyddydau dewisol i gynnig cymrodoriaethau fel rhan o Raglen Bwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood 2020 - 2022. Nod y rhaglen hon yw denu mwy o bobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel i mewn i yrfaoedd diwylliannol. Mae rôl newydd Cymrawd Cyfarwyddo WNO wedi ei hanelu'n benodol at bobl sydd wedi profi rhwystrau cymdeithasol a/neu economaidd at gyflogaeth mewn opera.

Fel sefydliad, rydym yn falch o'r camau rydym wedi eu cymryd hyd yn hyn at wella cynwysoldeb, fodd bynnag, ystyrir opera yn elitaidd hyd heddiw, ac rydym yn gwybod fod angen mwy o amrywiaeth o fewn ein gweithlu i sicrhau bod WNO yn cael ei ystyried yn opsiwn agored a hygyrch ar gyfer gyrfa yn y celfyddydau.

Eglurodd Kathryn Joyce, Pennaeth Rheolaeth Artistig WNO 'Mae hon yn rôl lle nad yw'r ymgeisydd angen addysg ffurfiol - dim gradd gerdd neu ddrama, neu angen siarad unrhyw ieithoedd tramor. Nid yw'n ofynnol eich bod wedi gweld opera hyd yn oed. Rydym eisiau sicrhau bod WNO yn berthnasol i'r cynulleidfaoedd mae'n ei wasanaethu ledled y DU, a'r unig ffordd i ni wneud hynny yw drwy ddweud stori opera drwy nifer o leisiau gwahanol.'

Mae'r Gymrodoriaeth yn addas i ymgeisydd sydd eisiau ennill profiad mewn opera, drwy weithio ar gynyrchiadau mawr a bach, byw a digidol; rhywun sydd â diddordeb yn y celfyddydau perfformio, a beth allant ei gynnig i gymunedau a chynulleidfaoedd. Bydd WNO yn darparu cyfleoedd datblygu, adnoddau, a chymorth gyda gyrfa yn ystod y gymrodoriaeth. Bydd y rhaglen waith yn cynnwys cymysgedd o waith ymarferol, goruchwylio, trafod gydag ymarferwyr profiadol a chyflwyniad i gyfleoedd pellach.

Bydd y Cymrawd yn gweithio'n rheolaidd gyda grŵp Opera Ieuenctid WNO, gan gynnwys ar gynhyrchiad newydd; byddant hefyd yn cynorthwyo ar gynhyrchiad raddfa fawr yn ogystal â chydweithio gyda Chynhyrchwyr WNO i guradu, cynllunio a chymryd rhan mewn digwyddiadau cyfranogol ychwanegol o gwmpas y cynyrchiadau. Bydd y Cymrawd yn cael golwg unigryw ar waith cwmni teithio mawr, ac yn gweithio gyfochr â chyfarwyddwyr gwadd fydd yn darparu cipolwg i'w crefft yn ystod y broses greadigol, ac yn derbyn mentora strwythuredig gan Gyfarwyddwr Staff WNO, Caroline Chaney.

Os yw hwn yn gyfle fyddai o ddiddordeb i chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, cliciwch yma am yr holl wybodaeth a manylion ymgeisio.