Gall mynediad at gerddoriaeth glasurol ac opera fod yn heriol i rai, boed yn rhwystr emosiynol, meddygol neu ddaearyddol. Mae Opera Cenedlaethol Cymru am i gymaint o bobl â phosib brofi grym opera a’i gofleidio. Gan gydnabod bod gan blant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu lluosog (PMLD) fynediad cyfyngedig i ddigwyddiadau diwylliannol, aethom ati i ddatblygu cyngerdd gyda’u hanghenion nhw mewn golwg. Tri mis yn ddiweddarach, crëwyd Opera Tutti.
Mae Opera Tutti yn gyngerdd hamddenol a rhyngweithiol sy’n caniatáu cyfranogwyr nid yn unig i wrando ar y gerddoriaeth, ond i ymgysylltu â’r emosiwn, y naratif a’r olygfa sy’n unigryw i opera.
Dyfeisiwyd y cyngerdd gyda 35 o bobl ifanc o Ysgol Arbennig Mayfield yn Birmingham dros gyfnod o ddau dymor. Roedd yr holl bobl ifanc yn ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, yn ddieiriau ac roedd gan lawer ohonynt namau corfforol, synhwyraidd a dysgu ychwanegol ynghyd ag anghenion iechyd cymhleth.
Bob wythnos roedd y tîm artistig, a oedd yn cynnwys tîm bach o gerddorion, cantorion, a myfyrwyr o Conservatoire Birmingham, yn cyflwyno amrywiaeth o gerddoriaeth operatig, glasurol a gwerin, yn amrywio o 'Habanera' o Carmen gan Bizet a Hansel a Gretel gan Humperdinck i 'Can-Can' Offenbach a detholiadau o Four Seasons gan Vivaldi. Ochr yn ochr â’r gerddoriaeth, cyflwynodd y tîm amrywiaeth o adnoddau synhwyraidd i adlewyrchu naws y gerddoriaeth ac archwilio ffyrdd o gyflwyno’r stori a’r naratif. Roedd hyn yn amrywio o arlantau blodau artiffisial persawrus ar gyfer ‘Y Ddeuawd Flodau’ a phypedau adar fflwfflyd ar gyfer ‘Deuawd Papageno’ a helpodd i ddod â’r stori’n fyw i’r plant ac annog rhyngweithio.
GofalwrRoedd hwn yn gyfle na fyddant fwy na thebyg wedi’i brofi fel arall yn eu bywydau oherwydd yr heriau niferus y maent yn eu hwynebu
Mae’r cyngerdd sy’n deillio o hyn yn brofiad cerddorol awr o hyd, sy’n dilyn taith gerddorol alegorïaidd drwy’r tymhorau o’r gwanwyn i’r gaeaf. Mae'r tymhorau'n rhoi cyfle i archwilio ehangder naws a thempo: o ddeffroad tyner y gwanwyn i lawenydd ac afiaith yr haf; yna'r anghytgord a'r awyrgylch stormus a gynigir gan yr hydref yn dirwyn i ben i aeaf llonydd.
Cafodd y cyfranogwyr eu swyno gan y llais operatig ac roedd y gerddoriaeth gyflym yn annog gwenu, chwerthin, clapiau, ac ymatebion bywiog, gyda llawer yn lleisio eu llawenydd a’u cyffro. Fodd bynnag, nid y plant yn unig sy’n elwa o Opera Tutti. Cafodd yr athrawon a’r gofalwyr ymateb emosiynol tra dysgodd y cerddorion sut i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o wahanol anghenion heb fod angen cyfathrebu llafar.
Martin Goodwin, Arbenigwr PMLD, Ymgynghorydd, AthroRoedd y perfformiadau’n galluogi disgyblion i ymateb i ddigwyddiadau cymdeithasol, rhyngweithio a chyfathrebu ag eraill, dangos ymwybyddiaeth, archwilio a rheoli ysgogiadau. Cefnogodd y prosiect ddatblygiad sgiliau echddygol manwl, integreiddio synhwyraidd a sgiliau gweledol a chlywed. Yn bwysig, cafodd disgyblion gyfleoedd i ymarfer a chynnal sgiliau a ddysgwyd yn flaenorol a chyffredinoli cysyniadau gyda phobl newydd ac o fewn profiadau newydd
Un o nodau Opera Cenedlaethol Cymru yw sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i brofi pŵer, drama ac emosiwn amrwd opera, a thrwy brosiectau fel hyn, rydym yn gwneud hynny’n bosibl. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sandra Taylor, Cynhyrchydd WNO trwy: sandra.taylor@wno.org.uk