The Magic Flute Mozart
Archived: 2022/2023Trosolwg
Yr ymchwiliad am wirionedd a darganfyddiad
Camwch i fyd o ddirgelwch, hud a lledrith ac antur. Gyda ffliwt hudol a chasgliad o glychau hud i’w amddiffyn mae Tamino, ynghyd â’i gyfaill, y Daliwr Adar annwyl, yn cychwyn ar ei daith i achub Pamina o afael swynwr drygionus. Ar y ffordd mae’n dod ar draws cymeriadau bythgofiadwy – o Frenhines y Nos ryfeddol i anifeiliaid sy’n cael eu swyno gan gerddoriaeth. Ond wrth iddo oresgyn cyfres o heriau, nid yw popeth fel y mae’n ymddangos…
Mae The Magic Flute yn opera ar gyfer pob oed, gydag enw da am fod yr opera gyntaf berffaith. Mae cynhyrchiad newydd WNO yn cymryd y stori dylwyth deg hudolus hon ac yn rhoi tro modern iddi. Wedi’i lleoli mewn byd o ffantasi, rhowch wledd i’ch llygaid gyda’r setiau a gwisgoedd lliwgar i gyfeiliant cerddoriaeth syfrdanol Mozart a stori ffraeth.
#WNOflute
Archebu rhaglen
Archwiliwch du ôl i'r llenni
Mae cynyrchiadau a chomisiynau newydd WNO yn cael eu cefnogi gan y John Ellerman Foundation
Cefnogwyd gan
Defnyddiol i wybod
Cenir yn Saesneg, gydag uwchdeitlau yn Gymraeg a Saesneg
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Am ddisgrifiad clywedol, cliciwch yma
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns
Synopsis
Yn ddwfn ym Mhalas y Nos, mae Tamino, Tywysog cwsg, yn cael hunllef, ac mae anghenfil na all ymladd yn ei erbyn yn ymosod arno. Daw tair cynorthwywraig bersonol y Frenhines i mewn, gan roi diwedd ar ymosodiad yr anghenfil. Maen nhw'n gadael i fynd i nôl y Frenhines. Mae Papageno’n cyrraedd yn canu'n hapus am ei fywyd fel daliwr adar Teyrnas y Nos. Caiff Tamino a Papageno aduniad hapus. Mae’r Boneddigesau yn dychwelyd ac yn ceryddu Papageno. Maen nhw'n rhoi clo ar ei geg ac yn adrodd yr hanes am herwgipiad ofnadwy Pamina wrth Tamino a Papageno. Heddiw yw'r diwrnod y mae'n rhaid i Tamino adael Palas y Nos a mynd i balas ofnadwy'r Haul.
Daw Brenhines y Nos i mewn gan roi ei hochr hi o’r stori herwgipio. Os bydd Tamino yn achub Pamina, bydd yn profi ei fod yn wir dywysog y Nos, ac felly gall dreulio’i fywyd gyda'i merch. Mae Tamino’n derbyn yr her yn eiddgar, ac mae Papageno'n cytuno o’i anfodd i fynd gydag ef. Mae'r Cynorthwywyr yn darparu ffliwt hud, clychau hud a Thri o Rai Ifanc i'w harwain at gatiau Palas yr Haul.
Yn y cyfamser, mae Pamina mewn gwers wyddoniaeth ddiflas ym mhalas yr Haul, yn dysgu am ffyrdd y Dydd gan ei hathro, Monostatos. Mae Papageno’n baglu i mewn – gan ddychryn Monostatos a’i ddosbarth o Geeks. Mae Papageno a Pamina yn aduno, mae Pamina eisiau dysgu am y Dydd ar ôl treulio cyhyd yn y tywyllwch. Dywed Papageno wrthi fod Tamino wedi dod i'w hachub.
Wrth gatiau Palas yr Haul, mae Tamino yn dal i aros i weld a yw Papageno wedi canfod ffordd i mewn. Mae'r Llefarydd yn ei atal wrth iddo geisio symud ymlaen. Mae'n egluro i Tamino fod dwy ochr i bob stori - mai dim ond ochr y Frenhines sy’n gyfarwydd i Tamino, ac efallai na fyddai Sarastro, Brenin yr Haul, yn rhagfarnu ac efallai nad yw’n ddihiryn wedi’r cyfan.
Mae Pamina a Papageno’n chwilio am Tamino, ond daw Monostatos a'r Geeks i mewn i geisio llusgo Pamina yn ôl i'w gwers. Mae Papageno’n chwarae'r clychau hud, ac maen nhw'n dawnsio ac yn diflannu. Mae ffanffer fawr yn datgan dyfodiad y Brenin a'i Lys.
Mae Pamina yn ymddiheuro i'w thad am redeg allan o'i gwers, ond mae hi wir yn hiraethu am ei chartref. Mae Sarastro yn dweud wrthi bod yn rhaid iddi orffen dysgu'r cyfan sydd i’w wybod am y Dydd, ac yna gall wneud penderfyniad gwybodus am ble yr hoffai fyw. Mae'n hyderus y bydd hi'n dewis ffyrdd goleuedig y Dydd.
Mae Monostatos wedi dod o hyd i Tamino. Sut y mae Sarastro’n bwriadu cosbi'r bachgen? Dywed Sarastro nad yw dewrder, a ddangosodd y bachgen, yn haeddu cosb. Mae Tamino a Pamina yn gweld ei gilydd am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Mae'n amlwg bod cysylltiad cryf rhyngddyn nhw.
Mae Sarastro’n rhoi un cynnig olaf: Gall weld fod gan y ddau berson ifanc deimladau tuag at ei gilydd a’u bod am greu llwybr newydd gyda'i gilydd. Fodd bynnag, rhaid i Tamino ddechrau dysgu am y Dydd.
EGWYL
Rhoddir Ysbryd Doethineb ar Tamino a Papageno, ac mae Pamina yn dymuno'n dda iddynt ar eu taith ddysgu. Cânt eu rhoi mewn cell i baratoi.
Mae Tamino a Papageno yn wynebu tasg gyntaf Palas yr Haul. Mae'r Llefarydd yn gofyn: am beth maen nhw'n chwilio? Ateb Papageno yw: Cariad; ateb Tamino yw: cyfeillgarwch. Daw’r Tair Boneddiges i mewn – maen nhw'n gandryll gyda Tamino.
Yn yr ystafell ddosbarth mae Pamina yn herio Monostatos, gan achosi i'r Geeks wrthryfela a rhedeg i ffwrdd gyda hi.
Mae Pamina yn gobeithio y bydd Tamino yn dysgu ac yn llwyddo yn y tasgau a osodwyd iddo fel y gallant fod gyda'i gilydd. Daw Brenhines y Nos i mewn ac mae’r ddau’n aduno'n hapus. Ond mae'r Frenhines yn ddig gan ei bod wedi anfon Tamino i achub Pamina, nid i ddysgu deddfau'r Dydd. Mae'n egluro ei bod hi a Sarastro unwaith, pan oedden nhw gyda'i gilydd, wedi uno grymoedd y Nos a'r Dydd. Yr unig ateb i Pamina yw dinistrio Palas y Dydd.
Mae Pamina yn drist, mae hi eisiau plesio ei dau riant, a gallu rhannu ei hamser rhyngddyn nhw. Mae Sarastro yn datgelu ei hun. Mae wedi clywed y cyfan, ond nid yw'n ddig gyda Pamina, ond mae'n awgrymu y dylai hyn fod yn brawf iddi o afresymoldeb y Nos. Mae Sarastro’n cyfaddef bod pethau’n well yn y dyddiau a fu pan oedd yn caru'r Frenhines, a phan oedden nhw’n onest gyda'i gilydd. Yr unig ffordd i fyw yw drwy fod yn onest ac yn agored. Mae Pamina yn penderfynu mynd i chwilio am Tamino a dweud wrtho sut y mae'n teimlo.
Daw Person â dŵr i Tamino a Papageno. Byddai’n well ganddyn nhw pe bai’n win, gan fod y ddau wrth eu bodd yn eistedd mewn tafarn wledig yn yfed gwin ar y Sul. Fe hoffen nhw pe bai ganddynt rywun i wneud hynny gyda nhw. Daw'r Tri o Rai Ifanc i mewn gyda'r offer y bydd eu hangen ar Tamino a Papageno ar y daith hon - y ffliwt hud a'r clychau. Daw Pamina i mewn ac awgrymu y dylai hi a Tamino redeg i ffwrdd a sefydlu teyrnas newydd eu hunain. Mae Tamino yn aros yn dawel. Roedd Pamina yn meddwl bod ganddi gynllun da, ond erbyn hyn, ymddengys nad yw Tamino hyd yn oed ei heisiau hi.
Mae Papageno yn ddig gyda Tamino. Am beth erchyll i'w wneud i ffrind. Pe bai wedi gwrando arni hi, wedi ystyried ei chynllun, efallai y bydden nhw mewn sefyllfa well. Mae Tamino yn gadael i baratoi at y prawf nesaf, gan adael Papageno ar ei ben ei hun i fyfyrio ar natur cariad a chymdeithas.
Mae Monostatos yn canfod Brenhines y Nos a’r Boneddigesau - mae'n dweud wrthyn nhw i ddod gydag ef. Bydd yn llwyr gefnogi dinistrio’r Dydd dim ond iddo gael lle yn nheyrnas newydd y Nos.
Mae pobl Palas yr Haul yn edrych ymlaen yn fawr at wylio treialon y Tamino ifanc. Dywed y dynion arfog wrthym am y ddau brawf sydd ar fin digwydd. Bydd tân yn goleuo llwybrau gwirionedd a bydd dŵr yn glanhau meddyliau drwg. Mae Pamina yn clywed hyn ac yn sylweddoli mai grym yw gwybodaeth. Bydd yn cymryd rhan yn y treialon gyda Tamino. Wrth iddi ymuno ag ef, maen nhw'n sylweddoli eu bod yn caru ei gilydd, ac am fod gyda'i gilydd bob amser yn wynebu beth bynnag a ddaw. Maen nhw’n cwblhau'r treialon yn fuddugoliaethus gyda chymorth y ffliwt hud.
Daw Brenhines y Nos, y Boneddigesau a Monostatos i mewn i herio Sarastro. Pan fydd brwydr fawr ar fin dechrau, mae Pamina a Tamino yn eu hatal, ac yn gofyn iddyn nhw edrych yn ddwfn ynddynt eu hunain a rhoi terfyn ar eu brwydr dragwyddol.
Mae'n bryd i Pamina a Tamino dorri eu cwys eu hunain a sefydlu eu teyrnas eu hunain. Cânt eu coroni'n Dywysoges y Wawr a Thywysog y Cyfnos.