Newyddion

Hwyl Operatig ar gyfer y teulu cyfan o’ch cartref

2 Ebrill 2020

Yn ystod y cyfnod anodd hwn, rydym yn gwybod eich bod chi i gyd yn chwilio am rywbeth i dynnu eich sylw. Os oes gennych chi blant iau adref gyda chi, rydym yma i’ch helpu gyda rhai gweithgareddau llawn hwyl a all hefyd eu harwain at ddarganfod cerddoriaeth glasurol.

Gallwch lawrlwytho ein taflenni posau yma a diddanu’r plant gyda rhai o’n gemau a phrocwyr ymennydd gwych.

Beth am chwilio am gyfansoddwyr ar-lein, dod o hyd i ffeithiau diddorol a gwrando ar rai o'u cerddoriaeth fwyaf adnabyddus?

Oes gennych chi artistiaid ifanc adref gyda chi? Beth am ofyn iddynt dynnu llun o’r Gerddorfa a'i rhannu gyda ni ar Facebook, Twitter neu Instagram? Byddem wrth ein bodd yn eu gweld nhw.

Os yw hyn wedi tanio diddordeb mewn cerddoriaeth gerddorfaol, cadwch lygad allan am ein Cyngherddau i'r Teulu sy’n berffaith ar gyfer y teulu cyfan.