

Chwarae Opera YN FYW
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Y wledd gerddorol ddelfrydol ar gyfer yr ifanc a’r ifanc eu hysbryd
Mae’n bleser gan WNO gyflwyno Chwarae Opera YN FYW, yn dilyn llwyddiant y gyfres ar-lein yn 2020.
Wedi’u cyflwyno gan Tom Redmond, mae’r cyngherddau bywiog a hygyrch hyn yn archwilio opera a cherddoriaeth glasurol mewn modd rhyngweithiol sy’n rhoi adloniant, gyda cherddoriaeth y byddwch yn ei hadnabod o fyd ffilm, teledu a’r llwyfan. Bydd Tom yn eich arwain drwy’r rhaglen gyda ffeithiau hwyliog a sesiynau cyd-ganu, yn eich cyflwyno i gantorion WNO ac aelodau o Gerddorfa WNO ac yn dweud mwy wrthych am y darnau sy’n cael eu perfformio.
Mae'r cyngerdd yn cynnwys cerddoriaeth o West Side Story, The Wizard of Oz, Star Trek, The Avengers, William Tell gan Rossini a The Marriage of Figaro gan Mozart.
Ymunwch â ni cyn y perfformiad i gymryd rhan yn ein gweithgareddau teuluol rhad ac am ddim o 1pm hyd nes i’r llen godi.
#WNOplayopera




Defnyddiol i wybod
Tua un awr a 40 munud gan gynnwys un egwyl
Gweithgareddau am ddim i'r teulu yn y cyntedd o 1pm