Fel dinas sydd â mwy o amgueddfeydd fesul milltir sgwâr nag unrhyw ddinas arall, 60 milltir o gamlesi (mwy na Fenis a Birmingham gyda'i gilydd), ac ardal ‘golau coch’ fywiog, efallai nad opera yw'r peth cyntaf sy'n dod i'r meddwl wrth ddychmygu Amsterdam. Yn y wlad a roddodd i ni Gewri Iseldiraidd megis Rembrandt, Vermeer a Van Gogh, mae'r etifeddiaeth gelfyddydol yn enfawr, ond nid oes cyfansoddwyr cyffelyb wedi ymddangos o'r Iseldiroedd o gymharu â rhai gwledydd cyfagos.
Cyfansoddwr cenedlaethol cyntaf yr Iseldiroedd o 2014 i 2016 oedd Willem Jeths. Mae ei opera newydd, Ritratto, yn adrodd stori y cefnogwr a noddwr celf Eidaleg moethus, Luisa Casati. Yn sgil gohirio perfformiad agoriadol yr opera ym mis Mawrth, cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf arlein, cyn ei pherfformio i'r byd ar 7 Hydref 2020 yng nghyfadeilad rhagorol Stopera, Amsterdam. Mae’r Dutch National Opera and Ballet yn Amsterdam yn gartref i dri sefydliad: Dutch National Opera, Dutch National Ballet a’r Ballet Orchestra. Mae gŵyl flynyddol Opera Forward y Dutch National Opera yn cyflwyno’r cyfansoddwyr, cantorion ac offerynwyr ifanc mwyaf disglair mewn perfformiadau opera a seminarau.
Mae’r Grachtenfestival hefyd yn un o uchafbwyntiau gwyliau Amsterdam, gyda cherddorion clasurol yn ymddangos mewn parciau a gerddi cudd ar lan y camlesi am dros 10 diwrnod ym mis Awst. Mae cefnogi cerddorion ifanc, a dangos eu datblygiad, yn rhan bwysig o'r ŵyl. Sefydlwyd yr ŵyl yn 2003, ac mae'r Grachtenfestival Conservatorium Concours yn rhoi cyfle i fyfyrwyr mwyaf dawnus ysgolion cerddoriaeth yr Iseldiroedd gyflwyno eu hunain i gynulleidfa fwy, a pherfformio yn y Kleine Zaal yn y Concertgebouw.
Ganwyd yr arweinydd, Willem Mengelberg, ar 28 Mawrth 1871 yn Utrecht. Datblygwyd Royal Concertgebouw Orchestra Amsterdam yn un o gerddorfeydd mwyaf cywrain y byd yn ystod ei gyfnod fel arweinydd (1895-1945). Adnabuwyd Mengelberg fel dehonglwr Beethoven, Brahms a Richard Strauss, a bu iddo sefydlu traddodiad hir-sefydlog Mahler y Concertgebouw. Gwahoddwyd Mahler i Amsterdam am y tro cyntaf yn 1903, i arwain ei Drydedd Symffoni, a'r Gyntaf wedi hynny. Ar ôl i Mahler ddychwelyd adref i Fienna ar ôl y perfformiad, ysgrifennodd at Mengelberg, 'Rwy'n teimlo fy mod wedi dod o hyd i ail gartref cerddorol yn Amsterdam.' Dychwelodd i Amsterdam sawl gwaith cyn iddo farw yn 1911. Cynhaliwyd Gŵyl Mahler am y tro cyntaf yn Amsterdam yn 1920, lle bu i Mengelberg arwain naw symffoni cyfan Mahler mewn pymtheg diwrnod.
Willem Pijper oedd un o'r cyfranogwyr ifanc yng ngŵyl gyntaf Mahler, gan gyfeilio i’r soddgrythor Judith Bokor fel rhan o'r rhaglen cerddoriaeth siambr. Cafodd cyfansoddiadau cynnar Pijper eu dylanwadau'n fawr gan Ramantiaeth Almaenaidd, yn enwedig Gustav Mahler. Bu iddo ddod yn un o gyfansoddwyr mwyaf yr Iseldiroedd yn y 20fed ganrif, a chafodd ddylanwad sylweddol ar gerddoriaeth fodern Iseldiraidd, gan addysgu nifer o gyfansoddwyr amlwg y wlad yn yr 1950au, 60au a 70au. Perfformiwyd ei unig opera, Halewijn, am y tro cyntaf ar 13 Mehefin 1933 yn Stadsschouwburg, Amsterdam, cyn gartref y Gerddorfa a Bale Cenedlaethol.
Symudodd Frank Martin, y cyfansoddwr o’r Swistir i'r Iseldiroedd yn 1946, a byw yn Amsterdam am 10 mlynedd, cyn ymgartrefu yn Naarden (20 munud i ffwrdd). Bellach, mae ei gartref yn amgueddfa, ac nid oes unrhyw newid wedi'i wneud i'r llawr gwaelod ers ei farwolaeth yn 1974. Mae ei unig opera graddfa fawr, Der Sturm, yn seiliedig ar The Tempest gan Shakespeare, a chafodd ei pherfformio am y tro cyntaf ar 17 Mehefin 1956 yn y Vienna State Opera.